Cysylltwch â Ni
Media Cymru
Sbarc, Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ
Cyhoeddwyd ar 16 Medi 2025
Stori Arloesedd: Yeota Imam-Rashid, Swyddog Hyfforddi a Datblygu yn Boom Cymru
Cwmnïau cynhyrchu aml-genre uchel eu parch yw Boom Cymru a Rondo Media, sy’n gweithio yng Nghaerdydd a’r Gogledd.
Mae arloesedd yn sector y cyfryngau yn cwmpasu’r ffordd rydyn ni’n gweithio. Gan fod amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant yn flaenoriaeth i’r sector, mae’r cwmnïau cynhyrchu Boom Cymru a Rondo Media wedi creu rhaglen arloesol newydd i fynd i’r afael â symudedd cymdeithasol ac amrywiaeth, drwy’r “Fenter Drws Agored”.
Mae Yeota yn egluro bod mwy i Ymchwil a Datblygu na thechnoleg fawr yn unig. Mewn gwirionedd, gall arloesedd fod ar sawl ffurf – mae’n ymwneud â phobl, mae’n ymwneud â hyfforddiant ac mae’n ymwneud â chreu amrywiaeth o fewn y sector.
Gan Yeota Imam-Rashid, Swyddog Hyfforddi a Datblygu yn Boom Cymru:
Y Fenter Drws Agored
Fi yw’r Arweinydd Prosiect ar gyfer y Fenter Drws Agored, menter ar y cyd rhwng Boom Cymru a Rondo Media. Y nod yw mynd i’r afael â’r bwlch amrywiaeth a chynhwysiant yn y sector. Cwmnïau cynhyrchu aml-genre arobryn yw Boom Cymru a Rondo Media, yn gweithio yng Nghaerdydd a Gogledd Cymru. Maen nhw’n cynhyrchu cynnwys ar gyfer S4C, teledu rhwydwaith (gan gynnwys BBC, Channel 4 a Channel 5), darlledu rhyngwladol ac ystod o blatfformau digidol.
Amrywiaethu diwydiant y cyfryngau yng Nghymru
Un o brif heriau i sector y cyfryngau yng Nghymru ar hyn o bryd yw amrywiaeth a chynhwysiant. Mae’r fenter Drws Agored yn mynd i’r afael â hyn yn uniongyrchol. Byddwn yn gweithio gyda deuddeg o bobl newydd i’r maes o gefndiroedd incwm isel, er mwyn helpu i gynyddu amrywiaeth yn y sector. Ar hyn o bryd, dydy’r sector ddim yn cynrychioli na’n adlewyrchu’r gymuned a chymdeithas ehangach ym Mhrydain – gyda diffyg amrywiaeth economaidd-gymdeithasol. Gan fod ein hyfforddeion newydd yn siaradwyr Cymraeg, mae hyn yn rhoi cyfle iddynt weithio ar ystod o gynyrchiadau ar gyfer cynulleidfaoedd amrywiol a mireinio eu sgiliau dwyieithog, gan fod llawer o gynyrchiadau Boom a Rondo yn rhai cyfrwng Cymraeg.
Mae gallu hyrwyddo lleisiau a safbwyntiau newydd yn hanfodol os yw ein diwydiant yn mynd i arloesi go iawn yn y ffordd rydyn ni’n dod o hyd i straeon newydd a’u hadrodd. Mae angen ystod o safbwyntiau a phrofiadau bywyd ar ein sector er mwyn sicrhau cydraddoldeb go iawn. Mae angen i ni gynnig cyfle cyfartal a helpu pobl ddod mewn i’r maes.
Yn ogystal â hyn, roeddem am wneud yn siŵr ein bod yn helpu pobl i aros yn y diwydiant go iawn a byddwn yn gwneud ymdrech fawr i sicrhau cyfleoedd newydd i’n carfannau wrth i’r cyfnod hyfforddi ddod i ben.
Rydw i wedi bod ar gynlluniau hyfforddiant yn y diwydiant fy hun, ac mae’r fenter Drws Agored yn unigryw gan ein bod yn ceisio cadw cymaint o hyfforddeion ag sy’n bosibl yn Rondo a Boom os bydd swyddi perthnasol yn dod ar gael, yn ogystal â chynnig cymorth ar ôl i’r fenter ddod i ben. Mae rhai cynlluniau’n gwneud i chi deimlo fel eich bod ar eich ben eich hun wedi iddynt ddod i ben. Roedden ni eisiau gwneud pethau’n wahanol gyda’n cynllun ni.
Cefnogi rhai sy’n newydd i’r cyfryngau gyda’u dyheadau gyrfa
Yn ystod cyfnod datblygu’r prosiect, daeth i’r amlwg mai un o’r rhwystrau mwyaf yn wynebu pobl newydd i’r maes oedd hygyrchedd. Gallai costau teithio i gyrraedd a gadael y gwaith neu leoliadau, heriau o ran trafnidiaeth gyhoeddus a model gweithio hybrid beri problemau i newydd-ddyfodiaid. Penderfynon ni newid hyd y rhaglen o ddeuddeg mis i wyth mis, i wneud yn siŵr bod ein cyllideb yn gallu cefnogi costau teithio a chynnig bwrsariaethau teithio i bawb. Daeth ein hymchwil i’r casgliad hefyd bod diffyg cysylltiadau yn y diwydiant yn her fawr – ochr yn ochr â ffurflenni cais hir a chymhleth, a oedd yn amlwg yn drysu pobl ac yn gwneud i bobl ailfeddwl. Roeddem am fynd i’r afael â’r holl faterion hyn a’i wneud yn llawer symlach ac yn fwy tryloyw i bobl sy’n dymuno mynd i mewn i’r diwydiant.
Dydyn ni ddim eisiau i’r cynllun fod yn ymarfer ticio blwch ar gyfer amrywiaeth, felly byddwn ni’n canolbwyntio ar gadw talent yn y diwydiant. Rydyn ni’n canolbwyntio ar gadw hyfforddeion yn y diwydiant a’u lleoli mewn rolau maen nhw’n angerddol amdanynt, fel y gallent ffynnu. Mae’n anhygoel eu gweld yn datblygu ac yn creu gwaith maen nhw (a ni!) mor falch ohono. Rhan o’r daith hon yw cynnig set eang o sgiliau iddynt a’u paratoi ar gyfer cam nesaf eu gyrfa gyda ffug gyfweliadau a gweithdai CV. Rydym am i reolwyr talent fod yn barod i’w derbyn tuag at ddiwedd eu hamser gyda ni.
Yn ystod eu cyfnod ar y cynllun, bydd yr hyfforddeion yn derbyn Cyflog Byw Go Iawn ac yn ystod yr wyth mis byddant yn gweithio ar ystod o gynyrchiadau cyfrwng Cymraeg a Saesneg ar draws Boom a Rondo. Byddant hefyd yn rhan o sesiynau hyfforddiant misol gyda gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant, ac yn gweithio gyda mentor a chyfeillion cyflogaeth.
Creu’r amodau ar gyfer tegwch a thwf
Yn ystod y cyfnod, byddan nhw’n ymgymryd â sawl rôl megis Cynorthwyydd Cynhyrchu, Ymchwilydd, Cynorthwyydd Cyfryngau Cymdeithasol, Rhedwr neu Gynorthwyydd Golygu. Bydd hyn yn eu helpu i gael trosolwg holistaidd o ddiwydiant y cyfryngau. I lawer, mae’n help i nodi cryfderau a meysydd o ddiddordeb.
Ymchwil a datblygu – proses ddarganfod wych…
Rydw i wedi ymgysylltu â phrosiectau Ymchwil a Datblygu o’r blaen. Fe wnes i brosiect Clwstwr gyda rhai o dîm Media Cymru a dyna wnaeth fy arwain at y prosiect hwn.
Rwy'n credu bod Ymchwil a Datblygu yn hanfodol, mae'r cyfan wedi bod yn arloesol iawn, rydym wedi gwneud cymaint o newid ac addasu i wneud y cynllun Drws Agored y gorau y gall fod. Mae wedi bod yn broses ddysgu gwych - mae rhai elfennau wedi gweithio’n dda, a rhai ddim mor dda. Ar y cyfan, mae wedi caniatáu inni ddysgu a gwella pethau ar gyfer y garfan nesaf.
Media Cymru × Boom Cymru × Rondo Media
Mae cefnogaeth Media Cymru wedi bod yn hanfodol wrth lansio’r cynllun hwn a mynd i’r afael go iawn â her fawr o fewn y diwydiant. Heb eu cefnogaeth a’u cyllid, dwi ddim yn credu y byddai’r Fenter Drws Agored wedi bod yn bosibl.
Gwybodaeth am Yeota Imam-Rashid
Ganwyd Yeota yn yr Almaen, a symudodd i Gaerdydd pan oedd yn 4 oed.
Ar ôl graddio o Brifysgol Bournemouth gyda gradd Meistr mewn Cynhyrchu Teledu a Ffilm, treuliodd 10 mlynedd yn gweithio i Islam Channel, gan weithio ei ffordd i fyny o fod yn Weithiwr Stiwdio i ddod yn bennaeth yn y cwmni, sef Pennaeth Rhaglenni i Fenywod.
Cymerodd Yeota seibiant gyrfa byr, gan symud yn ôl i Gaerdydd ychydig ddyddiau cyn y cyfnod clo. Wedi hynny, treuliodd 3 blynedd yn gweithio i wahanol gwmnïau cynhyrchu bach ac annibynnol yn Gynhyrchydd Cynorthwyol. Mae wedi gweithio ar raglenni dogfen hanes a cherdd, sioeau meddygol a sioeau coginio ar gyfer teledu rhwydwaith.
Mae bellach yn defnyddio’i hegni a’i hangerdd i helpu i amrywiaethu sector y cyfryngau yng Nghymru.
Ar hyn o bryd, mae Yeota yn gweithio gyda Media Cymru, Boom Cymru a Rondo Media, ac mae wedi helpu i ddatblygu cynllun hyfforddiant – y Cynllun Drws Agored – ar gyfer newydd-ddyfodiaid i’r sector o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is. Mae hefyd yn arwain y gwaith ar gyfer y rhaglen ‘The Young Imaginators’ gan UK Muslim Film, lle mae hi a’i thîm o weithwyr proffesiynol yn y diwydiant yn cynnal gweithdai drwy’r dydd i blant Blwyddyn 6 mewn ysgolion cynradd, a hynny ar ddeall stereoteipiau a rhagfarn ddiarwybod a chreu cynnwys gydag offer o’r radd flaenaf.
Gwybodaeth am Boom Cymru
Mae Grŵp Boom yn un o gwmnïau cynhyrchu mwyaf Cymru. Sefydlwyd ni yn 1994, ac mae’r cwmni bellach yn cynhyrchu dros 400 awr o gynnwys aml-genre yn flynyddol i S4C, BBC, ITV, C4, C5 a U&Dave.
Drwy ein hadrannau teledu a digidol (Boom Cymru, Boom, Boom Social a Boom Plant) mae gan y grŵp brofiad helaeth o gynhyrchu cynnwys ffeithiol, adloniant ffeithiol, adloniant, drama a phlant. Un o brif nodweddion ein cynyrchiadau yw’r cyfuniad o stori gref a gwerthoedd cynhyrchu uchel.
Mae Boom Cymru wedi ymroi i gynhyrchu cynnwys o’r safon uchaf i’r darlledwyr Cymraeg – S4C, BBC Cymru ac ITV Cymru – ac mae adran Boom yn canolbwyntio ar greu cynnwys cymhellgar i ddarlledwyr rhwydwaith Prydeinig a marchnadoedd ryngwladol. Rydyn ni hefyd yn falch iawn o’n cynnwys adloniannol a dyfeisgar ar gyfer yr amryw blatfformau cymdeithasol.
Gwybodaeth am Rondo Media
Mae Rondo Media yn gwmni cynhyrchu aml-genre annibynnol sy’n cynhyrchu cynnwys i ystod eang o ddarlledwyr yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt.
Mae gan Rondo gyfleusterau ol-gynhyrchu helaeth yn ei swyddfeydd yng Nghaernarfon a Chaerdydd i wasanaethu eich holl anghenion ol-gynhyrchu.
Mae ein hadran rhyngweithiol yn cyfuno disgyblaethau creadigol a thechnegol er mwyn creu profiad pwrpasol gogyfer a’ch busnes.