Cysylltwch â Ni
Media Cymru
Sbarc, Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ
Cyhoeddwyd ar 16 Medi 2025
Stori Arloesi: David Levy, Rheolwr Gyfarwyddwr fivefold studios

Cyfleuster cynhyrchu rhithiol yn Dragon Studios yn Ne Cymru yw Fivefold Studios. Mae maint y stiwdio yn drawiadol – mae’n mesur 10,000 troedfedd sgwâr, gyda nenfwd uchel 10 metr o uchder ac mae’n gartref i un o gilfwâu sgrin werdd mwyaf Ewrop sy’n 5,000 troedfedd sgwâr.
Fe’i sefydlwyd ar y cyd â Media Cymru, ac, ochr yn ochr â gwasanaethau cynhyrchu cyfryngau Fivefold, bydd yn darparu lle ar gyfer gweithgareddau ymchwil, datblygu ac arloesi ar gyfer y sector cyfryngau, yn ogystal â lleoliad ar gyfer hyfforddiant ac addysg.
Mae David yn esbonio pam mae cyfleusterau cynhyrchu fel fivefold mor bwysig wrth danio’r dyfodol drwy arloesedd gwyrdd, teg a byd-eang. Mae hefyd yn rhoi ei farn ar bwysigrwydd ymchwil a datblygu wrth greu busnesau cynaliadwy.
David Levy, Rheolwr Gyfarwyddwr fivefold studios:
fivefold – lle mae creadigrwydd ac arloesedd yn cwrdd…
David Levy ydw i, Rheolwr Gyfarwyddwr Fivefold Studios.
Mae Fivefold yn gwmni cynhyrchu cyfryngau datblygedig sy’n arbenigo mewn cynhyrchu rhithwir, effeithiau gweledol yn y camera, cyfosod amser real, cipio symudiadau a pherfformiad a dilyn gwrthrychau, ymhlith sawl math arall o offer cynhyrchu uwch. Rydyn ni’n cynnig y gwasanaethau hyn i gynyrchiadau lleol a rhyngwladol.
Mae’r stiwdios wedi’u lleoli mewn uned 10,000 troedfedd sgwâr, sy’n cynnwys yr hyn y byddwn i’n ei ddweud, mae’n debyg, yw un o sgriniau gwyrdd sy’n sefyll ar ei ben ei hun mwyaf Ewrop. Yn ogystal â’r ardal sgrin werdd, mae gennym lawer iawn o sgriniau LED eglur iawn.

fivefold × Media Cymru
Cwmni gwasanaethau cynhyrchu masnachol yw Fivefold yn bennaf, ond mae’r berthynas â Media Cymru wedi caniatáu i ni ymgorffori rhywbeth na fyddem o reidrwydd wedi gallu ei wneud heb y bartneriaeth, sef darparu lle ar gyfer ymchwil, datblygu ac arloesi, a hefyd lleoliad ar gyfer hyfforddiant ac addysg.
Mae Media Cymru wedi bod yn rhan o’r prosiect o’r cychwyn cyntaf, pan gafwyd y syniad am y tro cyntaf ychydig flynyddoedd yn ôl. Mae eu cefnogaeth a’u cyfraniad wedi rhoi’r hyder i ni gredu y gallwn adeiladu rhywbeth o’r maint hwn yma yng Nghymru, gan wybod bod gennym gyfleoedd i fod yn llwyddiannus yn yr hyn rydyn ni’n mynd i’w gyflawni.
Ochr yn ochr â’n partneriaeth â Media Cymru, rydyn ni wedi bod yn cydweithio â Cymru Greadigol, Ffilm Cymru Wales, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Caerdydd, yn ogystal â nifer o bartneriaid lleol eraill. Mae gallu gweithio gyda’r cwmnïau hyn wedi bod yn brofiad anhygoel hyd yma.

Mae mor bwysig bod sector creadigol Cymru yn buddsoddi mewn ymchwil a datblygu, ac yn buddsoddi mewn arloesedd. Mae’n ei gwneud yn gyrchfan lle mae pobl eisiau dod i adrodd eu straeon a bod yn greadigol.
Buddsoddi mewn arloesi yn y cyfryngau yng Nghymru
Mae mor bwysig bod sector creadigol Cymru yn buddsoddi mewn ymchwil a datblygu, ac yn buddsoddi mewn arloesedd. Mae’n ei gwneud yn gyrchfan lle mae pobl eisiau dod i adrodd eu straeon a bod yn greadigol. Mae’n bwysig bod unrhyw ddiwydiant sy’n awyddus i dyfu a datblygu yn mabwysiadu arloesedd ac yn buddsoddi mewn ymchwil a datblygu. Os nad ydych chi’n arloesi, os nad ydych chi’n cadw golwg ar y tueddiadau o ran sut mae’r cyfryngau’n cael eu defnyddio, mae perygl y byddwch yn cael eich gadael ar ôl ac efallai na fydd eich cwmni’n gallu cystadlu ar y llwyfan byd-eang.
Mae’n hanfodol ein bod yn creu cyrchfan yma yng Nghymru sydd nid yn unig yn denu cynyrchiadau rhyngwladol i ddod yma a chreu eu cynnwys yng Nghymru, ond hefyd i fod yn gyrchfan i dalent leol, i feithrin ac annog y gymuned greadigol leol i ddewis Cymru fel eu cyrchfan ar gyfer creu ac adrodd eu straeon.
Cyngor i fusnesau newydd arloesol yng Nghymru
Mae’r croeso rydyn ni wedi’i gael yma yng Nghymru wedi bod yn anhygoel. Byddwn yn argymell y broses hon i unrhyw un sy’n ystyried sefydlu cwmni newydd sy’n canolbwyntio ar dechnoleg ac arloesedd. Mae’r fframwaith cefnogaeth a chyfleoedd y mae Llywodraeth Cymru, Media Cymru a gweithredwyr lleol wedi’i greu i gwmnïau allanol fanteisio arno yn enfawr.
Os ydych chi’n awyddus i sefydlu cwmni sy’n ymwneud ag arloesi… dewch i Gymru, siaradwch â’r gweithredwyr lleol, gan gynnwys Media Cymru. Cymerwch air â nhw, a dysgu beth sydd ar gael i chi. Byddwch yn synnu pa mor groesawgar a chefnogol ydyn nhw.

Gwybodaeth am Fivefold Studios
Cwmni cynhyrchu cyfryngau arbenigol datblygedig yw Fivefold Studios, sydd â’i bencadlys yn Dragon Studios yng Nghymru.
A hithau’n fenter gynaliadwy sy’n cael ei harwain gan dechnoleg ac sy’n hyrwyddo’r gwerthoedd a fydd yn siapio dyfodol y Cyfryngau ac Adloniant, mae Fivefold wedi ymrwymo i egwyddorion amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu (ESG).
Mae llesiant a meddwl ar gyfer y tymor hir wrth galon yr hyn mae Fivefold yn ei wneud, a sut maen nhw’n gwneud hynny – gan roi lle i genedlaethau’r dyfodol weithio, creu ac adrodd straeon sy’n bwysig.