Cysylltwch â Ni
Media Cymru
Sbarc, Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ
Cyhoeddwyd ar 17 Rhagfyr 2024
Uchafbwyntiau Media Cymru 2024
Wrth i ni nesáu at ddiwedd 2024, rydym yn edrych yn ôl ar rai o uchafbwyntiau Media Cymru…
Diolch yn fawr iawn i holl bartneriaid, cynulleidfaoedd, cwmnïau ac unigolion Media Cymru yr ydym wedi gweithio gyda nhw yn ystod y flwyddyn. Rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio, ochr yn ochr â llunio partneriaethau newydd, wrth i ni roi hwb ac arloesi ym myd y cyfryngau yng Nghymru a gweithio tuag at lunio sector cyfryngau tecach, gwyrddach sy’n addas ar gyfer y dyfodol.
Neges gan Gyfarwyddwyr Media Cymru…
Yr Athro Sara Pepper, Dirprwy Gyfarwyddwr Media Cymru:
“Yn ogystal â’r rhwydwaith amhrisiadwy rydyn ni’n parhau i’w feithrin ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, rydyn ni wedi cael blwyddyn gynhyrchiol yn datblygu partneriaethau a chysylltiadau ar gyfer cenhedloedd y DU ac ymhellach i ffwrdd er budd y rhai sydd yn ein clwstwr. Drwy ein rhaglen Arloeswyr Preswyl, rydyn ni wedi croesawu cydweithwyr o bob cwr o’r byd, sydd â sgiliau a phrofiad amrywiol oherwydd eu dealltwriaeth o’r sector yn fyd-eang, i gydweithio â chydweithwyr yng Nghymru. Yn ogystal, roedden ni’n gallu rhannu rhagor o wybodaeth am Media Cymru mewn digwyddiadau a chyfarfodydd ledled y byd gan gynnwys Gŵyl Deledu Iwerddon (Galway), ISE (Barcelona), SXSW (Austin, UDA) a Chlwstwr Cyfryngau Norwy (Bergen). Gan ymestyn ymhellach i ffwrdd yn ddaearyddol, fe wnaethon ni gynnal tri chyfarfod a digwyddiad rhannu ar-lein gyda chydweithwyr o glwstwr cyfryngau Wellington, Seland Newydd, a roddodd gyfle i gael gwybod am y sectorau ffilm, teledu a gemau yno. Fe wnaethon ni hefyd groesawu cydweithwyr o glystyrau’r cyfryngau ledled Ewrop i Gaerdydd ar gyfer digwyddiad Hyb y Genhedlaeth Nesaf Future Media Hubs, a roddodd gyfle i ni ganolbwyntio ar gyfryngau ar gyfer y genhedlaeth nesaf: ystyriaeth bwysig arall i sefydliadau’r cyfryngau yn fyd-eang.
Gan edrych ymlaen: rydyn ni wedi bod yn brysur yn cynllunio ein gweithgareddau ar gyfer 2025 a 2026 er mwyn i ni barhau i ymgysylltu ag ystod o gydweithwyr (presennol a newydd) ledled y byd ar faterion sy’n bwysig i arloesi parhaus yn y sector.”
Yr Athro Justin Lewis, Cyfarwyddwr Media Cymru:
Yr Athro Justin Lewis, Cyfarwyddwr Media Cymru: Eleni bu Media Cymru yn gweithio’n ddiymdroi ar draws meysydd gwahanol: datblygu seilwaith newydd, profiadau newydd, ffyrdd newydd o gyflwyno straeon, trothwyon ymgysylltu newydd, mentrau busnes newydd, sgiliau newydd – pob un yn cyfrannu at ein cenhadaeth i sicrhau twf gwyrdd, teg, byd-eang yn yr economi greadigol. Mae wedi bod yn flwyddyn brysur, ond yn gyffrous ac yn ysbrydoledig hefyd – rydyn ni wedi gweld llwyddiannau yn y camau cynnar, ac edrychwn ymlaen at weld dros gant o brosiectau ymchwil a datblygu yn dwyn ffrwyth yn y blynyddoedd nesaf.
Media Cymru × Cloth Cat Animation × Ffilmiau Biggerhouse CIC: Hyfforddiant animeiddio Moho ac adrodd straeon niwroamrywiol
Bu i wyth o ddarpar animeiddiwr yng Nghymru elwa ar y cyfle unigryw i gael hyfforddiant yn y feddalwedd animeiddio ddiweddaraf a ddefnyddir gan stiwdios animeiddio blaenllaw ledled y byd.
Media Cymru × Prifddinas-Ranbarth Caerdydd: Eisteddfod
Roedd tîm Media Cymru yn bresennol yn yr Eisteddfod gyda Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd. Gofynnon ni i eisteddfodwyr beth mae arloesi yn ei olygu iddyn nhw a chyflwynwyd ein hadnodd arloesi a datblygu busnes – pa fath o arloeswr ydych chi?
Media Cymru × Channel 4: Canolfan Ddarlledu Whisper Cymru
Agorodd Whisper Cymru eu canolfan gynhyrchu o bell – Canolfan Ddarlledu Cymru – a ffrydiodd dros 1,000 awr o gynnwys yn fyw ar gyfer y Gemau Paralympaidd. Cefnogwyd y prosiect gan Media Cymru a Channel 4, a gydariannodd ymchwil a datblygu ar gyfer hygyrchedd mewn cynyrchiadau byw ar y cyd â The Ability People.
Media Cymru × Prifysgol De Cymru: Uwchgynhadledd Dyfodol Hygyrch
Cynhaliodd Prifysgol De Cymru ei Uwchgynhadledd Dyfodol Hygyrch gyntaf, gyda chefnogaeth Media Cymru a Cymru Greadigol. Roedd yr Uwchgynhadledd yn arddangos dulliau blaengar o fod yn gynhwysol a phwysleisiodd pa mor bell y mae’r diwydiant wedi dod i ddarparu ar gyfer amryw o bobl ddawnus D / byddar, Anabl a Niwroamrywiol (DDN) mewn gyrfaoedd cynhyrchu yn y cyfryngau.
Media Cymru × Future Media Hubs
Bu grŵp y genhedlaeth nesaf Future Media Hubs yn ymweld â Chaerdydd, gan fynd i BBC Cymru Wales a Boom Cymru. Mae Future Media Hubs yn rhwydwaith rhyngwladol o sefydliadau’r cyfryngau sy’n canolbwyntio ar arloesi trwy gydweithio a rhannu gwybodaeth.
Media Cymru: Cyllid ym mis Hydref ar gyfer arloesi
Cyhoeddwyd nifer enfawr o gyfleoedd ariannu i fusnesau, sefydliadau ac unigolion sy’n gweithio yn y sector cyfryngau yng Nghymru, gyda chyfanswm cyfunol o dros £1.2 miliwn ar gael ar draws pum cronfa ar wahân. Roedd hyn yn cynnwys dwy gronfa newydd sbon a gynlluniwyd i roi hwb i uchelgeisiau byd-eang Media Cymru a bod yn wyrdd a theg i hybu arloesedd yn y cyfryngau yng Nghymru.
Media Cymru × Ristband: Arloeswyr Preswyl
Bu arbenigwyr XR, Ristabnd, yn ymweld â’r Sustainable Studios yng Nghaerdydd i gynnal cyfres o weithdai rhyngweithiol ar ddigwyddiadau a thechnoleg ymgolli. Y cwmni oedd trydydd ‘arloeswr preswyl’ Media Cymru.
Breaking Boxes: Susan Cummings (Cyfres Darlithoedd Etifeddiaeth Paul Higgins)
Fel rhan o gyfres o ddarlithoedd etifeddiaeth Paul Higgins, gwahoddwyd Susan Cummings – Prif Swyddog Gweithredol 10SIX Games – i siarad am GTA, y grefft o sicrhau dêl, gwytnwch a’i meddyliau ar ddyfodol deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol.
Hyfforddiant Ymgynghorydd Cynaliadwyedd
Roedd rhaglen hyfforddi newydd sbon a ariannwyd gan Media Cymru – credir mai hon yw’r gyntaf o’i bath yn y DU – yn dangos newid sylweddol yn ymagwedd y diwydiant at gynyrchiadau teledu cynaliadwy. Mewn cydweithrediad â Phrifysgol De Cymru, derbyniodd darparwyr hyfforddiant Severn Screen a Earth to Action, hyfforddiant dwys mewn ymateb i’r angen dybryd am ddull mwy cynaliadwy o greu cynyrchiadau teledu o’r radd flaenaf.
Media Cymru × fivefold studios
Lansiodd partneriaid consortiwm Media Cymru – five fold studios – gyfleuster cynhyrchu rhithwir arloesol sydd â’i bencadlys yng Nghymru. Fel hwb creadigol lle cyfunir arloesedd a’r dechnoleg ddiweddaraf, bydd five fold studios yn rhoi hwb i’r sector cynhyrchu ffilm a theledu yn y rhanbarth a thu hwnt.