Cysylltwch â Ni
Media Cymru
Sbarc, Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ
Cyhoeddwyd ar 16 Rhagfyr 2024
Uwchgynhadledd Dyfodol Hygyrch – Cefnogi Talent b/Byddar, Anabl a Niwroamrywiol yn y Sector Sgrin
Gan Bethan Jones, Helen Davies and James Davies
Ar 10 Medi 2024, cynhaliodd Prifysgol De Cymru ei huwchgynhadledd gyntaf ar Ddyfodol Hygyrch. Yn ôl ffigyrau 2021, roedd 21.1% o bobl yng Nghymru â anabledd, ond eto yn ôl ymchwil gan Media Cymru, mae’r nifer o bobl anabl sy’n gweithio yn y diwydiant sgrin yn sylweddol is. Dangosodd yr un ymchwil fod pobl â chyflyrau iechyd neu anabledd hirdymor yn llai tebygol (4.5%) o gael eu cyflogi mewn rolau uwch yn y sector ffilm a theledu. Crëwyd yr Uwchgynhadledd i fynd i’r afael â’r anghydbwysedd hwn ac roedd yn cynnwys paneli, cyweirnodau, dosbarthiadau meistr, cyfleoedd rhwydweithio a stondinau arddangos, gan amlygu astudiaethau achos cadarnhaol a’r hyn sydd angen ei wneud i sicrhau bod y sector sgrin yng Nghymru yn wirioneddol gynhwysol.
Roedd yr Uwchgynhadledd yn cynnwys ac yn cael ei harwain gan siaradwyr b/Byddar, anabl, a niwroamrywiol (DDN), dan lywyddiaeth Jake Sawyers, actor anabl a pherfformiwr drag (Venitia Blind) o Gymru. Agorodd Jake gyda pherfformiad cerddorol pryfoclyd wedi’i ysbrydoli gan ei brofiad o fyw â nam ar ei olwg, gan amlygu sut mae pobl anabl yn aml yn cael eu hystyried yn ‘ysbrydoledig’ neu’n ‘ddewr’. Cyfeirir ato fel ‘inspiration porn,’ term a grëwyd gan y diweddar ddigrifwr anabl Stella Young, sy’n aml yn tanlinellu barn cymdeithas na all person fyw bywyd normal gydag anabledd, a bod “gallu byw gyda nam yn golygu bod yr unigolyn yn goresgyn eu ‘dioddefaint'”
Yn dilyn y perfformiad, dangoswyd ffilm fer a gomisiynwyd ar gyfer yr Uwchgynhadledd yn rhannu profiadau gan dalent DDN. Roedd yn egluro pwysigrwydd amynedd, cefnogaeth a dealltwriaeth, ynghyd â hyrwyddo rôl Hwylusydd Creadigol, themâu a fyddai’n cael eu hailadrodd yn ystod y dydd.
Prif anerchiad ‘Life Actually’
Yna rhoddwyd y llwyfan i’n tri phrif siaradwyr, aelodau gweithredol a chreadigol yn y diwydiant, Andria Doherty, Sara Beer, a Kaite O’Reilly. Myfyriodd y tair ar eu profiadau diweddar yn y diwydiant a chynnig awgrymiadau ar sut y gallwn greu llwybrau mwy teg a hygyrch ar gyfer talent DDN.
Rhoddodd Andria fewnwelediad gonest i’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn actor anabl, gan bwysleisio pwysigrwydd cael eich gweld yn hytrach na bod yn ‘actor anabl’ tocynistaidd. Pwysleisiodd Sara, Cyfarwyddwr Newid Craidd, menter i wella mynediad a chynhwysiant ar draws y sector theatr, yr angen i feithrin y cyfoeth o dalent sydd eisoes yng Nghymru. Nododd yr awdur a’r dramodydd arobryn Kaite fod angen i ni ddathlu a rhannu arfer gorau a deall beth yw’r heriau sy’n gwynebu talent DDN.
Amlygodd y tair fod yn rhaid ystyried cynnwys actorion anabl yn gynnar mewn cynyrchiadau er mwyn sicrhau bod gofynion mynediad yn cael eu cwrdd, a rhaid cynnal trafodaethau agored a gonest os ydym am gydweithio i greu drama gwell.
Maes o Obaith
Cadeiriwyd ein panel maes o obaith gan Joe Towns, cynhyrchydd chwaraeon profiadol gan gynnwys darllediadau o Gemau Paralympaidd 2021. Yn ymuno â Joe oedd Carys Owens, Rheolwr Gyfarwyddwr Whisper Cymru; Liz Johnson, cyn nofiwr Paralympaidd; Giles Long MBE, Sylwebydd a chyn nofiwr Paralympaidd Prydain; Omer Hagomer, Gohebydd, Ymchwilydd a myfyriwr BSc Cyfryngau Chwaraeon; a’r Para-rhedwr James Ledger.
Yn dilyn darllediad llwyddiannus y Gemau Paralympaidd eleni, un o’r prif bynciau a drafodwyd gan y panel oedd hygyrchedd gweithleoedd a gofodau. Dangosodd Covid beth oedd yn bosib o rhan gweithio o bell wrth ddarlledu digwyddiadau chwaraeon ar raddfa fawr, ac mewn gwirionedd, mae’r addasiadau angenrheidiol a wnaed bellach yn cynnig cyfleoedd i fynd i’r afael â mynediad a chynaliadwyedd.
Yn ogystal â gweithio o bell, clywsom am ymrwymiad Whisper Cymru i greu man gwaith cynhwysol a oedd yn gosod pwyslais ar ddylunio ar gyfer hygyrchedd. Trwy gyfuno elfennau ymarferol gofod wedi’i adeiladu’n arbennig wedi’i ddylunio gyda chynhwysiad mewn golwg, bu’r panel yn trafod sut i fynd ati i ailystyried y cydbwysedd.
Adroddiad Cyflymydd Cynhwysiant
Yn yr Uwchgynhadledd, lansiwyd Adroddiad Cyflymydd Cynhwysiant Gritty Talent gyda chefnogaeth Media Cymru, y prosiect cyntaf o’i fath, gyda 10 cwmni cynhyrchu annibynnol o Gymru gyda’r bwriad o sefydlu dull cynhwysol o feithrin a datblygu talent.
Wedi’i gyflwyno gan Reema Lorford, Prif Swyddog Gweithredol newydd Gritty Talent, datgelodd y canfyddiadau mai dim ond 32% o’r ymatebwyr oedd yn ystyried eu gweithle yn amgylchedd cynhwysol, gyda llai na 50% yn cael eu holi am eu hanghenion mynediad gan eu cyflogwr. Er bod sylwadau gan ymatebwyr yn awgrymu y dylid hyrwyddo’r diwydiant ffilm/teledu fel gyrfa ymarferol, roedd yn amlwg bod angen gwneud mwy i annog cynhwysiant ac angen gweld mwy o amrywiaeth mewn uwch rolau gwneud penderfyniadau.
Chwilio am Waith Sgrin
Roedd lansiad yr adroddiad yn gosod y llwyfan ar gyfer y panel nesaf, Chwilio am Waith Sgrin, a oedd yn cynnwys Heloise Beaton (TV Access Project), Caroline O’Neill (BBC a DDPTV), Laurence Clark (Triple C) a Rosie Higgins (Unquiet Media), gyda Reema Lorford yn cadeirio. Canolbwyntiodd y panel ar sut i ddod o hyd i dalent DDN, ei recriwtio, a’i chynnwys tu nôl ac o flaen y camera mewn cynhyrchiadau a’r broses o adrodd straeon.
Siaradodd Caroline am ei phrofiadau fel Comisiynydd Cynorthwyol Byddar yn y BBC a dywedodd y dylai mynediad a chynhwysiant fod yn gyfrifoldeb i bawb. Nododd bwysigrwydd cynghreiriad a sut mae hyn yn troi’n weithredu, gan gynnig esiampl comisiynydd arall sydd wedi dysgu BSL i gael sgyrsiau gyda Caroline.
Roedd y panel yn cydnabod bod y gost, neu’r gost ganfyddedig, sy’n gysylltiedig â hygyrchedd yn broblem a fod angen gwneud mwy i dynnu sylw cyflogwyr at y cynllun Access to Work a’r arian sydd ar gael. Soniodd Laurence hefyd am bwysigrwydd archwiliadau mynediad (access audits), a sut fyddai gwrthod gweithio gyda chwmnïau a sefydliadau sydd ddim yn ystyried hygyrchedd yn ddull cymhellol o annog y diwydiant i feddwl am amrywiaeth.
Y Gwir yn Erbyn i Sgrin
Roedd y sesiwn olaf cyn cinio yn gythrudd ynghylch actorion DDN yn colli allan ar rolau yn y diwydiant Ffilm a Theledu yng Nghymru er gwaethaf pwysigrwydd a maint y sector sgrin yng Nghymru. Yn cymryd rhan yn y drafodaeth hon roedd Adam Knopf, cynhyrchydd Lost Boys and Fairies, a Meg Bradley, Asiant Talent i VisABLE People, un o’r asiantaethau blaenllaw sy’n cynrychioli actorion, cyflwynwyr a modelau anabl yn y diwydiannau creadigol.
I Adam, un o’r heriau mwyaf yw dod o hyd i fesur y dalent yng Nghymru sy’n cynrychiolu gwir demograffeg y wlad. Amlygodd Meg fod VisABLE People wedi gweld galw cynyddol am gastio rolau anabl ond dadleuodd mai’r ffordd orau o wella cynrychiolaeth ar y sgrin fyddai castio talent anabl mewn rolau na chawsant eu hysgrifennu fel rolau anabl.
Yn ogystal â hyn, codwyd y pwnc o luniau proffesiynol i actorion gan gyfeirio at y cynllun PROFILE, cronfa ddata ddigidol i dalent DDN. Gallai menter debyg yng Nghymru helpu talent anabl i ddenu sylw cyfarwyddwyr castio. Mae yna hefyd gyfrifoldeb ar dalent anabl sydd eisoes wedi’i sefydlu yn y diwydiant i chwarae rhan drwy dynnu sylw at bobl y maent yn eu hadnabod, ailrannu proffiliau pobl ar gyfryngau cymdeithasol a sôn wrth cynhyrchwyr am dalent newydd.
Gobaith Newydd
Roedd panel olaf ond un y dydd yn canolbwyntio ar y prosiectau chwyldroadol a’r arferion gwaith arloesol sy’n digwydd yng Nghymru. Cadeiriwyd y panel gan Ryan Chappell, Arweinydd Amrywiaeth, Cynaliadwyedd a Phwrpas Cymdeithasol yn S4C, a chynlluniwyd y panel i ddangos sut y gall hygyrchedd a chreu cynnwys fynd law yn llaw, a’r bobl sydd yn arwain y gad yn y maesydd hyn.
Trafododd Rhys Miles Thomas (Glass Shot) a Chyfarwyddwr a Chynhyrchydd VFX Paul Burke eu prosiect yn profi arferion gweithio hygyrch wedi’u hangori o amgylch Cynhyrchu Rhithwir gyda golygfeydd o ‘We Dream of Nothing’. Cyflwynodd Steve Swindon, Cyfarwyddwr Creadigol / Sylfaenydd TAPE, ei waith gyda Final Drafft i gyflwyno templed ysgrifennu sgrin hygyrch a fyddai’n grymuso awduron niwroamrywiol i fformatio eu sgriptiau.
Siaradodd yr actor, awdur ac enillydd Bafta Cymru Mared Jarman yn agored am ei nam ar ei golwg a’i gyrfa lwyddiannus, gan gynnwys yr ail gyfres o How This Blind Girl sydd ar y gweill. Rhannodd Cai Morgan Pennaeth Boom Social ei brofiadau o gyflwyno cynyrchiadau cyfryngau hygyrch i Hansh ar gyfer S4C a’r BBC drwy eu hymdrechion i gefnogi creu cynnwys cynhwysol gan gyfranwyr.
Amlygodd y panel sut mae gwaith arloesol yn cael ei wneud yng Nghymru i ddarparu cynyrchiadau hygyrch, difyr ac o’r safon uchaf.
Doctor Who yn Arwain y Gad
Daeth yr Uwchgynhadledd i ben gyda phanel wedi’i gadeirio gan Jake Sawyers yn trafod sut mae Doctor Who yn trin hygyrchedd ar set ac ar sgrin. Yn ymuno a Jake oedd Jess Gardner, sylfaenydd Divergence Pictures a chyd-gynhyrchydd cyfres 15, a Phil Sims, Dylunydd Cynhyrchu’r gyfres.
Nododd Phil a Jess fod angen i hygyrchedd fod yn ystyriaeth o’r cychwyn er mwyn sicrhau nad ôl-ystyriaeth yn unig yw gofynion mynediad, gan adleisio prif siaradwyr yr Uwchgynhadledd. Mae hygyrchedd a chynwysoldeb yn elfennau allweddol o’r gyfres a disgrifiodd Jess, gan adleisio’r pwyntiau a wnaed ym mhanel Y Gwir yn Erbyn i Sgrin
y pwysigrwydd o weithio gydag asiantaethau castio er mwyn dod o hyd i dalent DDN. Ni roddir dadansoddiadau cymeriad i gynhyrchwyr ar Doctor Who, sy’n caniatáu iddynt fod yn agored i’r cyfoeth o dalent sydd ar gael a dewis y person gorau ar gyfer y rôl, arfer y gellid ei fabwysiadu gan gynyrchiadau eraill i sicrhau cynrychiolaeth DDN ar y sgrin. Mae hygyrchedd yn allweddol i rhedwr sioe y gyfres Russel T. Davies, a oruchwyliodd y gwaith o greu TARDIS wedi’i ailgynllunio i ganiatáu i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn gael mynediad i’r peiriant amser ar gyfer rhaglen arbennig Nadolig 2023. Er mai cynwysoldeb oedd y prif ysgogydd y tu ôl i ddyluniadau’r TARDIS newydd, nododd Phil fod llawer o fanteision ymarferol eraill wedi codi, gan gynnwys symudedd haws offer camera a cynhyrchu sydd o fudd i’r holl griw.
O ran adeiladu setiau, nid yw gwneud pethau’n hygyrch o reidrwydd yn gorfod costio mwy o arian; y peth pwysicaf yw amser. Mae cael y sgriptiau’n gynnar yn caniatáu amser i feddwl pwy sy’n eistedd ble a pham, beth sydd angen arnynt i berfformio’n dda, a sut y gellir adeiladu’r set i hwyluso hynny. Mae ychwanegu mwy o amser i’r broses gastio a hyfforddiant ar set hefyd yn ffyrdd syml y gellir rhoi lle amlwg i hygyrchedd yn y sector.
Yn yr un modd, pan fydd gwybodaeth yn cael ei chasglu yn y broses cyn-gynhyrchu gan timau lleoliadau, arfer syml ond effeithiol fyddai dosbarthu’r wybodaeth hon fel bod y cast a’r criw sydd â gofynion mynediad yn gwybod beth i’w ddisgwyl.
Fodd bynnag, nid dim ond mewn cynhyrchu ffilm a theledu y gellir gwneud newidiadau, nododd Jess fod cyfrifoldeb ar y sector i gynnig adborth i bartneriaid fel gwestai, cwmnïau trafnidiaeth ac arlwywyr ynghylch mynediad. Dechreuodd tîm cynhyrchu Doctor Who siarad am ofynion mynediad gyda gwestai chwe mis cyn saethu i sicrhau mai nid ôl-ystyriaeth oedd gofynion hygyrchedd. Arfer y gallai eraill yn y sector ei barhau.
Camau nesaf
Amlygwyd sawl thema yn ystod yr Uwchgynhadledd fel meysydd sy’n peri pryder neu y mae angen eu harchwilio ymhellach.
Roedd cost yn un ffactor a godwyd yn aml gan nad yw ffynonellau cyllid yn cael eu hamlygu na’u deall yn glir.
Roedd llawer o gynrychiolwyr hefyd yn teimlo bod angen hyfforddiant pellach ac mae Media Cymru eisoes wedi dechrau cynnal hyfforddiant cynhwysiant gyda Heloise Beaton, yn ogystal â chynnal trafodaethau gyda BBC Studios. Roedd gwybod ble i ddod o hyd i dalent DDN yn faes o ddiddordeb mawr, ac mae angen parhau â mwy o waith ar sut i wneud hyn a beth all sefydliadau Cymreig ei wneud.
Gwnaethpwyd nifer o gysylltiadau yn yr Uwchgynhadledd a fydd, gobeithio, yn arwain at gydweithio ffrwythlon. Roedd cynrychiolwyr yn awyddus i fynychu digwyddiadau yn y dyfodol, a cynigwyd yr awgrym o greu rwydwaith Cymru gyfan.
Yn ystod y misoedd yn dilyn y digwyddiad, mae PDC wedi lansio hyfforddiant newydd sydd wedi ysgogi cyflogwyr i ailystyried eu harferion a’u polisïau hygyrchedd a’u gwella, gan adeiladu ar yr hyn ddysgon nhw ac a welon nhw yn yr uwchgynhadledd. Ynghyd â chydweithwyr PDC a Media Cymru, mae’n braf gweld yr ymrwymiad i ddeall yr heriau yn y sector ac ymroi’n gadarn i’w wneud yn fwy cynhwysol i bawb. Byddwn ni’n postio cyfleoedd hyfforddiant a datblygiadau yn y dyfodol trwy Media Cymru, felly cofrestrwch i gael y diweddaraf a gobeithio y byddwn ni’n eich gweld mewn digwyddiadau yn y dyfodol!
Links:
Mae Bethan Jones yn Gymrawd Ymchwil Media Cymru ym Mhrifysgol De Cymru (ac yn Gydymaith Ymchwil yn JOMEC Prifysgol Caerdydd). Mae Bethan yn arbenigo mewn dilynwyr brwd (‘fandom’), twristiaeth sgrîn, a chasineb digidol. Mae hi hefyd yn olygydd y cyfnodolyn Popular Communication. Mae Bethan hefyd wedi cyhoeddi llyfr newydd ar The X-Files.
Mae Helen Davies yn rhannu ei hamser rhwng ei rôl yn Gymrawd Ymchwil Media Cymru ym Mhrifysgol De Cymru, a Rheolwr Prosiect Ymchwil a Datblygu gyda’r cwmni cynhyrchu Triongl. Mae ganddi PhD mewn Ieithyddiaeth Gymdeithasol ac Astudiaethau’r Cyfryngau o Brifysgol Aberystwyth ac mae wedi gweithio ar sawl prosiect ymchwil a datblygu cydweithredol rhwng y diwydiant a’r byd academaidd.
Mae James Davies yn Gymrawd Ymchwil Media Cymru ym Mhrifysgol De Cymru. Treuliodd y ddegawd rhwng 2005-15 yn gweithio’n gerddor proffesiynol, gan deithio’n eang o amgylch y DU, yn ogystal ag Ewrop a gweddill y byd. Roedd ei hymchwil PhD yn canolbwyntio ar brofiadau lefel mynediad mewn teledu yn y DU, ac effaith y broses o drafod llwybrau mynediad ar gyfer newydd-ddyfodiaid.