string(75) "/cym/companies-awarded-rd-funding-for-immersive-content-at-outernet-london/" Skip to main content
int(5348)
News

Cyhoeddwyd ar 26.01.2026

Dyfarnu cyllid Ymchwil a Datblygu i gwmnïau ar gyfer cynnwys ymgolli yn Outernet London 

A futuristic, otherworldly landscape with coral-like plants and mushroom forms beneath a purple sky, as a floating dome releases glowing blue energy streams across the scene.

Yn gynharach yr haf hwn, mewn cydweithrediad ag Outernet London, fe groesawon ni gynigion ar gyfer cynnwys ymgolli beiddgar yn Outernet London – un o’r platfformau mwyaf datblygedig yn y byd ar gyfer cyfryngau amser real!  

Yn dilyn gweithdy Outernet yn yr haf yn Tramshed Tech yng Nghaerdydd a phroses ymgeisio, y ddau gwmni a ddewiswyd i ddatblygu eu syniadau yw ATXR a CreuTech.     

Stiwdio greadigol ddigidol yng Ngogledd Cymru yw ATXR, sy’n cyfuno creadigrwydd, dylunio, data a thechnoleg i gyflawni prosiectau rhagorol sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau. Storïwyr yw eu timau yn eu hanfod, sy’n cael eu hysgogi gan frwdfrydedd dros dechnoleg ryngweithiol sy’n meithrin ymgysylltiad gwirioneddol.  

Mae CreuTech Ltd. yn darparu cynnwys XR, VR ac AR ar gyfer sefydliadau diwylliannol ac yn dylunio profiadau rhyngweithiol sy’n cael eu harwain gan y gynulleidfa.  

ATXR – Anwen: Unbound

Mae prosiect ATXR – Awen: Unbound – yn daith ysbrydoledig o gyfyngu i ryddhad creadigol, profiad ymgolli sy’n cyfuno golau, sain a natur i ysgogi’r synhwyrau. Wedi’i bweru gan ddata amgylcheddol go iawn o Gymru a cherddoriaeth a gynhyrchwyd gan blanhigion, mae’n gwahodd ymwelwyr i gyd-greu tirwedd fyw a bywiog, gan ddatgelu sut mae natur yn ysbrydoli arloesedd, yn meithrin gobaith ac yn ein hailgysylltu â chydweithredu.  

Dywedodd Anna, Rheolwr Gyfarwyddwr ATXR:  

“Mae’r prosiect hwn yn cyd-fynd yn helaeth â gwerthoedd craidd ein cwmni: cariad at arloesedd, mynegiant creadigol a bod â gwreiddiau yng Ngogledd Cymru. Mae Awen: Unbound yn ein galluogi i ailgyflwyno ein diwylliant a’n natur yn ôl i dechnoleg a’i arddangos i gynulleidfa genedlaethol.  

“Mae’r cam Ymchwil a Datblygu yn gyffrous yn ei hanfod oherwydd ei fod yn cynnwys yr anhysbys –- pennu’r dulliau manwl gywir ar gyfer llwyddiant y prosiect. Ein profiad helaeth a’n galluoedd creadigol sy’n ein galluogi i fynd i’r afael â heriau Ymchwil a Datblygu fel hyn. Mae ein harloesedd ar gyfer y prosiect hwn i’w cael yn y cyfuniad a’r stori unigryw: integreiddio data â delweddau a synau i greu profiad gwirioneddol wych ac unigryw.”  

CreuTech – Artio

Mae prosiect CreuTech Ltd. – Artio – yn dirwedd chwedlonol gerddorol ryngweithiol sy’n ailddychmygu chwedl Arthur trwy lens ecolegol a ffeministaidd. Gan ddefnyddio cerddoriaeth, adnabod ystumiau a delweddau ymgolli, mae cynulleidfaoedd yn cyd-greu’r stori wrth iddi ddatblygu. Myth byw wedi’i bweru gan symudiad a sain.   

Dan arweiniad Ashley McAvoy (Cynhyrchydd) a Klaire Tanner (Cyfarwyddwr Creadigol), dyma’r R&D yn dod â grŵp rhyfeddol o artistiaid, technolegwyr a cherddorion ynghyd yn rhan o CreuTech Ltd, gan gynnwys y cantorion Alys Williams (The Voice) a Steve Balsamo (Jesus Christ Superstar, The Storys), y dramodydd a’r sgriptiwr Tracy Harris (Mumfighter, Port Talbot Gotta Banksy), a’r Prifardd Owain Rhys. 

Gyda’i gilydd maent yn archwilio sut y gall cerddoriaeth ryngweithiol a chyfryngau cynhyrchiol ysgogi emosiwn a myth o fewn gofod ymgolli Outernet, gan ddatblygu prosesau creadigol a thechnegol y gellir eu ehangu ar gyfer prosiectau adrodd straeon dan arweiniad cerddoriaeth yn y dyfodol. 

 

Dywedodd y cynhyrchydd Ashley McAvoy: 

“Mae Artio yn ymwneud ag adfer cydbwysedd rhwng myth ac ecoleg, technoleg a chyffwrdd. Rydym yn llawn cyffro i ddarganfod sut mae symudiad y gynulleidfa’n gallu llunio cerddoriaeth ac ystyr, gan droi Outernet yn stori fyw go iawn. Mae’r prosiect ymchwil a datblygu hwn yn ein galluogi i arbrofi gyda ffurf, sain ac awduraeth ar y cyd.”  

Dywedodd Klaire Tanner, Cyfarwyddwr Creadigol CreuTech Ltd.:  

“Mae Artio yn ymwneud â chyfuno stori a cherddoriaeth i greu effaith emosiynol ar raddfa enfawr. Rydym yn dysgu sut i adeiladu ar gyfer gofod mor eang â’r Outernet, a sut mae cynulleidfaoedd yn ymateb pan fyddant yn teimlo y gallant ddylanwadu ar y stori sy’n datblygu o’u cwmpas. Mae’n arbrawf mewn ymgolli, greddf a chysylltiad emosiynol. Rydym yn hynod ddiolchgar i Media Cymru am ariannu’r prosiect hwn a’i wneud yn bosibl.”  

Mae’n rhaid i’r gwaith amlygu hunaniaeth a dyfodol arloesedd creadigol yng Nghymru a manteisio ar alluoedd technolegol rhyfeddol Outernet.      

Dyfarnu cyllid Ymchwil a Datblygu i gwmnïau ar gyfer cynnwys ymgolli yn Outernet London 

Dywedodd Jad ZoueinCyfarwyddwr y Cyfryngau a Thechnolegau Creadigol yn Outernet:  

“Rydyn ni wrth ein bodd yn gweithio gyda Media Cymru. Mae Outernet yn hapus iawn i gefnogi eu rhaglen sy’n ariannu dau waith trochol unigryw. Gwelsom botensial mawr ac rydyn ni’n eu cefnogi i ddatblygu cynnwys ar gyfer y sioe yn Adeilad NOW.    

Mae ATXR yn defnyddio rhyngweithio byw ag ymwelwyr a data hinsawdd i ddod â byd fflora a ffawna estron trawiadol yn fyw, rhywbeth nad ydyn ni wedi’i ystyried o’r blaen. Mae CreuTech yn defnyddio sgiliau adeiladu byd 360 gwych i’n tynnu ni i fyd hudolus myth a dirgelwch, gyda thrac sain i gyd-fynd ag e. Creadigaethau trawiadol gan y ddwy elfen.  

Rydyn ni’n gyffrous am gysylltiad Outernet â Media Cymru, ac yn bennaf am ein hymwelwyr ffyddlon!” 

Dywedodd Gavin Johnson, Cynhyrchydd Media Cymru:  

“Cynfas byw, trochol yw Outernet sydd wedi’i leoli yn un o ddinasoedd prysuraf y byd. Dyma gyfle prin i bobl greadigol Cymru gael arbrofi ar raddfa fawr, i gysylltu â chynulleidfaoedd newydd, ac i adrodd straeon pwerus gan ddefnyddio’r dechnoleg fwyaf cyffrous sydd ar gael. Dyma’r union fath o lwyfan sy’n edrych tua’r dyfodol sy’n cyd-fynd â chenhadaeth Media Cymru i hyrwyddo arloesedd, cynaliadwyedd a thwf cynhwysol yn sector y cyfryngau. 

Rydyn ni’n gweld hyn fel dechrau perthynas hirdymor rhwng Cymru ac un o lwyfannau creadigol mwyaf amlwg y DU. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld sut mae crewyr Cymru yn ymateb i’r her.” 

Bydd Awen: Unbound ac Artio ar gael i’w gweld yn yr Outernet o fis Mawrth 2026. Bydd y profiadau ymgolli hefyd yn rhan o arddangosfa nodedig Media Cymru yn ystod hydref 2026.  

Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld y profiadau ymgolli hyn yn dod yn fyw! Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol (LinkedIn ac Instagram) neu cofrestrwch i gael ein cylchlythyr i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.  

Ynglŷn ag Outernet 

Cwmni adloniant cyfryngol byd-eang yw Outernet. Mae’n dod â cherddoriaeth, ffilm, celf a gemau ynghyd mewn ffyrdd sy’n eich helpu i ymgolli yn y profiad. Mae man adloniant y cwmni ar Tottenham Court Road, Llundain yn cynnwys sgriniau amlapio eglur iawn mwyaf yn y byd.