string(125) "/cym/cwmniau-ffilm-a-theledu-o-cymru-yn-cael-cyllid-i-ddatblygu-syniadau-newydd-ar-gyfer-gwneud-y-sector-sgrin-yn-fwy-gwyrdd/" 40804060 Skip to main content
int(4080) 40804060
News

Cyhoeddwyd ar 11.11.2024

Cwmniau Ffilm a Theledu o Cymru yn cael cyllid i ddatblygu syniadau newydd ar gyfer gwneud y sector sgrin yn fwy gwyrdd

Mae Ffilm Cymru Wales a Media Cymru wedi buddsoddi £307,675 i ddatblygu saith prosiect arloesol i geisio gwneud sector sgrin Cymru yn fwy gwyrdd.

Mae’r prosiectau’n cael eu harwain gan gwmnïau, stiwdios a chyfleusterau cynhyrchu ffilm a theledu ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, ac maent yn cwmpasu elfennau amrywiol o gynhyrchu; gan gynnwys pŵer, trafnidiaeth, bwyd, dŵr a deunyddiau adeiladu.

Ar sail cynllun albert BAFTA, Cynllun Trawsnewid Screen New Deal ar gyfer Cymru, mae Cronfa Datblygu Gwyrddu’r Sgrin wedi’i dylunio a’i chyflwyno gan Ffilm Cymru Wales a Media Cymru i ddatblygu ffyrdd arloesol o wneud y sector teledu a ffilm yng Nghymru yn fwy cynaliadwy yn amgylcheddol. Lansiwyd yr alwad agored am geisiadau ym mis Mai, a chawsant eu beirniadu gan banel annibynnol o arbenigwyr cynaliadwyedd, yn ogystal â chynrychiolwyr o Ffilm Cymru Wales a Media Cymru.

Dyma’r rhai sydd wedi cael Cyllid Datblygu trwy Gronfa Gwyrddu’r Sgrin:

Afanti Media

Bydd Afanti, cwmni cynhyrchu teledu, yn darparu dulliau o ddefnyddio batris a systemau gwefru symudol yn lle generaduron disel ac i gefnogi’r newid i gerbydau trydan. Drwy dreialu model prydlesu i ddarparu mynediad at offer hyblyg ar draws y diwydiant, bydd y prosiect yn helpu i greu seilwaith cynaliadwy y gall cynyrchiadau ei ddefnyddio wrth iddynt symud o gwmpas y wlad.

The Full EV

Bydd The Full EV, arbenigwyr mewn gwefru cerbydau trydan, yn datblygu amrywiaeth o ffynonellau pŵer trydan-yn-unig er mwyn galluogi cynyrchiadau ffilm a theledu i ddatgarboneiddio eu gwaith ffilmio ar leoliad yn sylweddol. Eu nod yw dileu’r defnydd o eneraduron disel a’u disodli â chynhyrchiant adnewyddadwy a defnydd clyfar o’r grid trydan.

The Occasional Kitchen

Nod The Occasional Kitchen, cwmni arlwyo ar gyfer y diwydiant ffilm a theledu, yw lleihau llawer ar yr ôl troed carbon wrth arlwyo ar leoliad. Drwy ddefnyddio ap gyda bwydlen i archebu ymlaen llaw, a sgoriau cynaliadwyedd ar gyfer dewisiadau, byddant yn lleihau gwastraff ac yn annog newid cadarnhaol drwy rymuso ac addysgu.

On Par Productions

Mae’r cwmni cynhyrchu ffilm a fideo yn bwriadu chwyldroi’r diwydiant cynhyrchu ffilmiau yng Nghymru drwy ddatblygu gwasanaethau Cynhyrchu Rhithwir cynaliadwy, gan leihau allyriadau carbon. Drwy weithio mewn partneriaeth ag arweinwyr y diwydiant, byddant yn creu piblinellau cynhyrchu cost-effeithiol ac eco-gyfeillgar, yn hyfforddi talent, ac yn cynhyrchu astudiaeth achos gref, gan osod safon werdd newydd ar gyfer y diwydiant ffilm a theledu yng Nghymru.

Protem Lighting

Bydd cwmni goleuadau a phŵer Protem Lighting yn datblygu eu generaduron batri Protempod, sy’n darparu ynni glân 100% ar gyfer setiau ffilm a theledu. Bydd dyfais arloesol Protempod yn dileu allyriadau carbon a phryderon ynghylch amser rhedeg ac yn gwella’r ffordd y caiff pŵer glân ei ddosbarthu ar y set.

Re-Scene It

Nod Re-Scene It yw creu gwasanaeth ailgylchu ac ail-bwrpasu deunyddiau sydd â phresenoldeb ar-lein, yn ogystal â chreu canolfan addysgol ar gyfer y diwydiant cyfryngau yng Nghymru a’r gymuned leol yn ehangach. Eu nod yw lleihau gwastraff a manteisio i’r eithaf ar botensial drwy sicrhau bod yr adnoddau hyn ar gael ar gyfer prosiectau yn y dyfodol.

Wolf Studios Wales

Bydd y lleoliad lle gwnaed gwaith ffilmio stiwdio ar gyfer Doctor Who, His Dark Materials ac Industry, yn dadansoddi’r defnydd o ddŵr yn eu canolfan gynhyrchu teledu o’r radd flaenaf sy’n cynnwys 7 llwyfan ac sy’n 250,000 troedfedd sgwâr o arwynebedd. Gan weithio gydag arbenigwyr i gynnal archwiliad llawn ac yna gosod a threialu amrywiaeth o offer a thechnolegau i leihau ac ailgylchu dŵr, eu gobaith yw dylanwadu ar ddiwylliant defnydd a lleihau ôl troed carbon y safle.

Dywedodd Louise Dixey, Rheolwr Cynaliadwyedd yn Ffilm Cymru Wales:

“Daeth nifer fawr o geisiadau cystadleuol i law ar gyfer y Gronfa Datblygu hon. Hoffai Ffilm Cymru Wales longyfarch y saith enillydd. Maent yn cynnwys portffolio amrywiol o brosiectau ymchwil a datblygu arloesol sy’n cefnogi’r gwaith o weithredu blaenoriaethau yng Nghynllun Trawsnewid Screen New Deal ar gyfer Cymru. Mae’r themâu allweddol yn cynnwys symud i ynni adnewyddadwy, ailfeddwl am drafnidiaeth, dull cylchol o fynd i’r afael â gwastraff deunyddiau a bwyd, casglu gwybodaeth a chydweithio, a newid diwylliant. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r garfan hon a gweld sut gall y prosiectau hyn dreialu llwybr tuag at y nod uchelgeisiol o greu targedau di-garbon a diwastraff yn y sector sgrin.”

Yn ôl yr Athro Justin Lewis, Cyfarwyddwr Media Cymru:

“Mae’r prosiectau llwyddiannus yn dangos amrywiaeth o atebion arloesol o ran lleihau ôl troed carbon y sector yn sylweddol. Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r garfan newydd gyffrous hon o arloeswyr fel rhan o gronfa 2024 i sicrhau bod Cymru yn esiampl ragorol o ran troi cynyrchiadau sgrin yn fwy gwyrdd.”

Llun: Jo Haycock