Cysylltwch â Ni
Media Cymru
Sbarc, Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ
Cyhoeddwyd ar 18.11.2025
Cyllid gan Media Cymru a Thrafnidiaeth Cymru i Ymchwil a Datblygu mewn cyfresi teithio digidol sy’n defnyddio DA emosiynol
Yn gynharach eleni, ymunon ni â Thrafnidiaeth Cymru mewn rhaglen sbarduno gyffrous i gefnogi busnesau ac entrepreneuriaid yng Nghymru i ddatblygu syniadau arloesol yn y sector trafnidiaeth.
Ym mis Gorffennaf 2025, cafodd wyth cwmni newydd arloesol eu harddangos mewn Diwrnod Arddangosdan ofal Trafnidiaeth Cymru. Y digwyddiad oedd uchafbwynt rhaglen drylwyr 10 wythnos pan ddatblygodd yr arloeswyr atebion i’r heriau allweddol ym maes trafnidiaeth a’r cyfryngau.
Yn rhan o’r rhaglen, mae CaveFish a Crash Productions wedi cael cyllid Ymchwil a Datblygu i ddatblygu eu syniadau.
Cwmni o Gaerdydd sy’n defnyddio deallusrwydd artiffisial (DA) cymhwysol yw Cavefish. Maen nhw’n arbenigo mewn DA emosiynol, sef technoleg arloesol sy’n canfod ac yn dadansoddi tôn emosiynol mewn testun, delweddau, llais a fideo.
Bydd prosiect Cavefish yn datblygu’r platfform deallusrwydd emosiynol sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd, sef EchoDepth. Gall y peiriant DA ddehongli mwy na 50 o emosiynau gwahanol gan ddibynnu ar fynegiant yr wyneb, y llais a’r testun, gan helpu i bersonoli cynnwys a phrofiadau teithwyr.
Dyma a ddywedodd Jonathan Prescott, Cyd-sylfaenydd Cavefish: “Rydyn ni wrth ein boddau yn cydweithio â Trafnidiaeth Cymru a Media Cymru i ddatblygu’r ffordd mae DA emosiynol yn gallu gwella profiadau teithwyr.
“Bydd ein gwaith gydag EchoDepth yn ein helpu i ddeall sut mae pobl yn teimlo go iawn wrth deithio – boed yn gyffro neu’n rhwystredigaeth – a defnyddio’r ddealltwriaeth hon i wneud teithiau’n llyfnach, yn fwy personol ac yn fwy dynol. Dyma gyfle anhygoel i gyfuno byd arloesi ag empathi wrth lunio dyfodol trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.”
Cwmni cynhyrchu cynnwys digidol yn gyntaf yw Crash Productions, gan darfu ar naratifau platfformau traddodiadol a gwneud adloniant ar-lein sy’n canolbwyntio ar bobl ifanc.
Bydd eu prosiect ar y cyfryngau digidol yn mynd â chrewyr cynnwys ar deithiau haf i weld profiadau unigryw yng Nghymru, a bydd y cyfan i’w weld ar rwydwaith Trafnidiaeth Cymru. Bydd y gyfres deithio ddigidol yn creu cynnwys effeithiol sy’n canolbwyntio ar bobl ifanc.
Dyma a ddywedodd Christie Toal, Cyfarwyddwr Crash Productions: “Rwy’n hynod o falch o fod yn gweithio ar ymgyrch yr haf dan arweiniad crewyr cynnwys yng Nghymru. Mae’r pethau mwyaf anhygoel ar garreg ein drws … bydd yr ymgyrch hon dan arweiniad crewyr yn dangos i bobl ifanc pa mor arbennig yw’r lle hwn i ymweld ag ef!
“Allwn ni ddim aros i helpu Trafnidiaeth Cymru i symud ymlaen i greu cynnwys cymdeithasol cyffrous sy’n cael ei arwain gan ffyrdd o fyw i gyrraedd pobl a’u hysbrydoli i ddod i Gymru drwy law Trafnidiaeth Cymru.”
Mae’r ddau brosiect bellach ar y gweill ac yn dilyn y cyfnod YaD hwn, bydd gan Cavefish a Crash Productions y cyfle i roi eu prosiectau arloesol ar waith yn uniongyrchol gyda Thrafnidiaeth Cymru.
Dilynwch ein sianeli a chofrestrwch i’n cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf am y prosiectau arloesol hyn. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at weld beth fydd eu canlyniadau!