string(82) "/cym/deeper-development-of-climate-stories-with-media-cymru-and-ffilm-cymru-wales/" Skip to main content
int(5391)
News

Cyhoeddwyd ar 09.03.2026

Datblygu Straeon Hinsawdd Ymhellach gyda Media Cymru a Ffilm Cymru Wales

A person sits on an outdoor sofa in a shaded area while a professional video camera on a tripod is positioned in front of them. Large sculptural letters are arranged behind the scene, and trees and a stone wall are visible in the background.

Mae tri phrosiect ymchwil a datblygu arloesol yn symud ymlaen i ail gylch o ddatblygu gyda buddsoddiad newydd gan Gronfa Straeon Hinsawdd Media Cymru x Ffilm Cymru Wales. 

Mae Cronfa Straeon Hinsawdd, sy’n cael ei hariannu gan Media Cymru a’i chyflwyno mewn partneriaeth â Ffilm Cymru Wales, yn cefnogi prosiectau ymchwil a datblygu ar gyfer ffilmiau nodwedd neu brofiadau ymdrochol sy’n rhannu straeon hinsawdd effeithiol sy’n ysgogi gweithredu mewn ffyrdd ffres a grymus.  

Y llynedd, gwnaeth Media Cymru a Ffilm Cymru Wales ddewis pum prosiect arloesol i ymgymryd â chyfnod ymchwil a datblygu. Yn dilyn y cam cyntaf hwn, mae tri o’r prosiectau bellach wedi cael eu dewis i ddatblygu eu gwaith ymhellach gyda £113,500 o gyllid ychwanegol, yn ogystal ag arweiniad arbenigol ar gynaliadwyedd yn ystod y cyfnod cyn cynhyrchu. 

Mae prosiectau Cylch 2 Straeon Hinsawdd yn cynnwys: 

Ceri: Richard Billingham 

Mae Ceri, sy’n brosiect traws-fformat gyda ffilm nodwedd ffuglen yn ganolog iddo, yn archwilio’r dimensiynau personol sydd i brotestio; sut mae gweithredoedd gwrthryfel a gwrthwynebiad yn llunio ac yn cael eu llunio gan fywydau bob dydd, hunaniaethau a chymeriadau, a sut mae themâu protestio yn croestorri gyda ffocws ar newid hinsawdd.  

Bydd Richard yn ymgymryd ag ymchwil arsylwadol bellach gyda phobl sy’n weithgar mewn gwahanol ffurfiau o brotestio, gan helpu i greu cymeriadau, cyfarfyddiadau, sefyllfaoedd a deialogau dilys a diddorol. 

Meddai: “Rydw i eisiau gwneud ffilm am newid hinsawdd lle mae’r thema’n gyrru’r stori. Mae cymorth Ffilm Cymru Wales a Media Cymru yn fy ngalluogi i gael synnwyr o sut beth yw bywyd i bobl ifanc heddiw, o ran eu profiadau, eu heriau, eu dyheadau a’u pryderon. Mae ymgymryd â’r cam hwn o ymchwil a datblygu yn cynnig amser hanfodol i ddod â’r dilysrwydd hwn i’r stori a dechrau ymgysylltu â thîm ehangach i wireddu’r prosiect hwn.” 

One Percent (Nora’s Ark gynt): Lowri Roberts a Maisie Williams, Rapt Pictures 

Ffilm nodwedd gadarnhaol o ran yr hinsawdd, a hithau bron â bod yn ddiwedd y byd, lle mae’r Ddaear yn dirywio, ond mae yna long i achub 1% o bobl Prydain. Nid oes gan arian nac enwogrwydd unrhyw ddylanwad, ac yn hytrach sgiliau llaw a dyfeisgarwch yw’r hyn sydd fwyaf gwerthfawr. 

Nod Rapt yw targedu cynulleidfaoedd sydd heb lawer o ddiddordeb yn yr argyfwng hinsawdd a dangos sut maen nhw’n meddu ar bŵer a sut y gallan nhw wneud gwahaniaeth. Fe fyddan nhw’n cynnal arolygon ac yn astudio demograffeg ar draws y sbectrwm gwleidyddol, gan ymchwilio i’w hymgysylltiad â pholisïau hinsawdd, a’r hyn y maen nhw am ei weld a’i deimlo o ffilmiau.      

Dywed yr awduron Lowri Roberts a Maisie Williams, “Mae cael adborth gan y gynulleidfa yn ystod y cam datblygu hwn yn ffordd newydd o weithio i ni, ac mae’n amhrisiadwy.” Rydyn ni wedi arfer cael adborth gan bobl eraill sy’n gweithio ym myd ffilmiau, ond mae clywed gan gynulleidfaoedd yn uniongyrchol yn ein helpu i osgoi siarad mewn siambr atsain.” 

 Who Gives a F**k About Polar Bears?: Gavin Porter

Ffilm ddogfen nodwedd sy’n archwilio’r croestoriadau rhwng dosbarth a hinsawdd. Bydd y rhai sydd wedi’u herio’n economaidd ymhlith y rhai cyntaf i gael eu heffeithio, a’r rhai a gaiff eu heffeithio fwyaf, gan yr argyfwng hinsawdd, ond anaml y cawn glywed eu lleisiau nhw yn y ddadl.  

Bydd Gavin yn ymchwilio i gyflwr presennol yr argyfwng hinsawdd, ac yn dod i gyswllt ag ymgyrchwyr o gefndiroedd dosbarth gweithiol a diwylliannol amrywiol. 

Dywed Gavin “Sut ydyn ni’n adrodd straeon hinsawdd y dosbarth gweithiol? Mae hwn yn gwestiwn rwy wedi bod yn ei ystyried ers bron i ddegawd, ac ar hyn o bryd mae’n teimlo’n bwysicach nag erioed. Rwy’n ddiolchgar iawn bod Media Cymru a Ffilm Cymru Wales wedi fy ngalluogi i archwilio’r cwestiwn hwn ymhellach.” 

Dywed Lee Walters, Prif Weithredwr Ffilm Cymru Wales: “Fel y cadarnhawyd yn Strategaeth 2026-31 Ffilm Cymru Wales, mae prosiectau Straeon Hinsawdd a llawer o arweinwyr meddwl byd-eang yn gweld arwyddocâd a phŵer unigryw adrodd straeon o ran dylanwadu ar newid. Mae hyn hefyd yn flaenoriaeth a amlygwyd ym Margen Newydd y Sgrin: Cynllun Trawsnewid Cymru i harneisio cynnwys creadigol ar gyfer newid diwylliant. Bydd y prosiectau hyn yn esiamplau o adrodd straeon arloesol ond hefyd yn achosion o arferion gorau mewn cynhyrchu cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.” 

Dywed Dr Matthew Boswell, Uwch Gymrawd Ymchwil yn Media Cymru, “Yr argyfwng hinsawdd byd-eang yw un o heriau mwyaf diffiniol ein hoes, a bydd y sector ffilmiau yn chwarae rhan hanfodol wrth ddyfnhau dealltwriaeth y cyhoedd o achosion sylfaenol newid hinsawdd a’r hyn y gallwn ei wneud i fynd i’r afael â nhw.”  

“Mae’r cyllid ymchwil a datblygu hwn yn caniatáu i garfan dalentog o wneuthurwyr ffilmiau ddatblygu casgliad pwerus o straeon hinsawdd drwy gynnwys pobl sydd â dealltwriaeth a phrofiadau bywyd amrywiol, o wyddonwyr hinsawdd ac ymgyrchwyr i rai sydd wedi cael eu heffeithio’n bersonol gan y newidiadau niweidiol i systemau tywydd byd-eang sydd wedi’u gyrru gan ymddygiadau dynol, fel llosgi tanwydd ffosil.  

“Mae’r prosiectau hefyd yn arbrofi â thechnegau gwneud ffilmiau arloesol ac yn dyfnhau eu dealltwriaeth o gynulleidfaoedd er mwyn datblygu ffilmiau newydd grymus sy’n arwain at newid parhaol.”  

Mae’r Athro Justin Lewis, Cyfarwyddwr Media Cymru, yn ychwanegu, “Rwy’n llawn cyffro i weld sut mae’r prosiectau gwych hyn yn datblygu. Gyda’i gilydd, maen nhw’n defnyddio amrywiaeth o ddulliau adrodd straeon, gan bwyso ar wahanol genres, i dynnu sylw at realiti a materion allweddol ynghylch yr argyfwng hinsawdd. Maen nhw i gyd ar sail wybodus ac yn wirioneddol ddiddorol, mewn ffyrdd nad oes gen i unrhyw amheuaeth y byddan nhw’n taro tant ymhlith cynulleidfaoedd.”