Cysylltwch â Ni
Media Cymru
Sbarc, Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ
Cyhoeddwyd ar 01.11.2023
Arloeswyr Preswyl: Wythnos Realiti Estynedig (XR) gydag Alex Counsell
Dyddiad: 14.11.2023
Amser: Amseroedd amrywiol
Lleoliad: Caerdydd
Mae Media Cymru yn gyffrous i gyhoeddi cyfnod preswyl cyntaf ein rhaglen newydd, Arloeswyr Preswyl (IiR). Darllenwch fwy am lansiad Arloeswyr Preswyl.
Bydd ein Harloeswr Preswyl cyntaf, Alex Counsell, yn treulio wythnos 13–17 Tachwedd ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd a’r cyffiniau yn cynnal rhaglen lawn o ddigwyddiadau sy’n archwilio Realiti Estynedig (XR).
Alex Counsell yw Cyfarwyddwr Technegol y Ganolfan Realiti Estynedig Creadigol a Throchi (CCIXR) ym Mhrifysgol Portsmouth. Bydd y cyfnod preswyl wythnos hwn yn dod ag arbenigedd Alex mewn dal symudiadau, effeithiau gweledol, cynhyrchu rhithwir a rhith-realiti i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd. Bydd y rhaglen yn cynnwys gweithdai, dosbarthiadau meistr a chyfarfodydd gyda phartneriaid yn y diwydiant. Bydd yn rhoi’r cyfle i’r rhai o sector creadigol Cymru archwilio’r dechnoleg ddiweddaraf ym maes XR.
XR yw’r term ymbarél ar gyfer Realiti Rhithwir (VR), Realiti Estynedig (AR) a Realiti Cymysg (MR). Mae gwaith Alex a CCIXR yn ymdrin â meysydd blaenoriaeth allweddol ar gyfer Media Cymru gan gynnwys technoleg drochi a chynhyrchu yn y dyfodol.
Rhaglen
Neidiwch i: Mawrth | Mercher | Iau | Hefyd yr wythnos hon
Mawrth, 14 Tachwedd
Creative Cuppa: Pwy sy’n ofni technoleg trochol?
Amser: 10am – hanner dydd
Lleoliad: BBC Cymru Wales, 3 Sgwâr Canolog, Caerdydd
I bwy? Unrhyw un sy’n gweithio i neu â diddordeb yn y diwydiannau creadigol
Mewn partneriaeth â Chaerdydd Creadigol, bydd Alex Counsell yn ofyn y cwestiwn ‘pwy sy’n ofni technoleg drochol’ (ac esbonio pam na ddylen ni fod yn ofnus o gwbl) . Mae pob Paned i Ysbrydoli yn dechrau gyda sgwrs, tebyg i sgwrs ‘TED-talk’, ar thema sy’n berthnasol ar draws yr holl sectorau creadigol, ac yna awr anffurfiol i eistedd i lawr, sgwrsio a bwyta cacen! Fel rhan o’r sesiwn hon, bydd cyfle hefyd i gael arddangosiadau o git ac offer technolegol newydd
Syniadau Inc.: Sesiynau Technoleg a Chipolygon Creadigol Un-i-Un
Amser: 1 – 3pm
Lleoliad: Lolfa Arloesi, BBC Cymru Wales, 3 Sgwâr Canolog, Caerdydd
I bwy: Technolegwyr, entrepreneuriaid, pobl greadigol
Yn y digwyddiad unigryw hwn, cewch gyfle i drefnu slot hanner awr o hyd gyda’n harbenigwr nodedig Alex Counsell. Mae gan Alex brofiad helaeth o feysydd yn ymwneud â Recordio Symudiadau, Effeithiau Gweledol (VFX), Cynhyrchu Rhithwir, a Realiti Estynedig (XR).
Archwiliwch Fyd Diderfyn Cynyrchiadau Realiti Estynedig (XR)
Amser: 3.30 – 5pm
Lleoliad: Lolfa Arloesi, BBC Cymru Wales, 3 Sgwâr Canolog, Caerdydd
I bwy: Pobl greadigol, technolegwyr, myrfywyr, gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant a phawb sy’n ymddiddori yn XR
Agorwch y drysau i fyd lle mae creadigrwydd a thechnoleg yn cyfuno, gan gynnig posibiliadau di-ben-draw. Ymunwch â ni i dreiddio i fyd deinamig Cynyrchiadau Realiti Estynedig (XR).
Mercher, 15 Tachwedd
Etifeddiaeth a Realiti Estynedig (XR): Pontio’r Gorffennol a’r Presennol
Amser: 10 – 11.30am
Lleoliad: Lolfa Arloesi, BBC Cymru Wales, 3 Sgwâr Canolog, Caerdydd
I bwy:Pawb sy’n ymddiddori mewn hanes, XR neu technoleg, myfyrwyr, cadwraethwyr treftadaeth, gweithwyr creadigol proffesiynol
Ymunwch â ni am daith ryngweithiol sy’n mynd y tu hwnt i amser a gofod – cyfuniad hudolus o dreftadaeth a realiti estynedig (XR). Dewch i dreiddio i fyd hudolus hanes, lle daw’r gorffennol yn fyw drwy lens technoleg.
Iau, 16 Tachwedd
Movement Language Live: Recordio Symudiadau Amser Real ac Archwilio Ymdrwythol
Amser: 1.30–5pm
Lleoliad: Yr Atriwm, Prifysgol De Cymru, Stryd Adam, Caerdydd
I bwy: Myfyrwyr, gweithwyr proffesiynol creadigol, unrhyw un sy’n angerddol am y cysylltiad rhwng technoleg a chelf
Cewch ddechrau taith gyfareddol i fyd recordio symudiadau amser real, cynhyrchu rhithwir a phrofiadau ymdrwythol yn Movement Language Live. Mae ein digwyddiad yn ddathliad o gyfuniad deinamig celf, technoleg a chreadigrwydd.
Yn digwydd hefyd yr wythnos hon
Mae’r digwyddiadau hyn yn cael eu cynnal ar yr un pryd ag wythnos Arloeswyr Preswyl ac maent yn berthnasol i themâu’r rhaglen:
Mawrth, 14 Tachwedd
Lansio Cynnwys Cydgyfeiriol
Amser: 5:30 – 8:30pm
Lleoliad: Tramshed Tech, Stryd Penydris, Caerdydd
Y digwyddiad hwn fydd y cyntaf o’r gyfres i ddechrau rhaglen Cynnwys Cydgyfeiriol Barclays Eagle Labs. Bydd y digwyddiad yn dangos arweinwyr o’r diwydiant yn y diwydiannau creadigol a thechnoleg i greu dyhead a chyffro am y cyfle.
Mercher, 15 Tachwedd
Digwyddiad briffio a rhwydweithio XR Network+ Caerdydd
Amser: 4 – 6.30pm
Lleoliad: Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd (JOMEC), 2 Sgwâr Canolog, Caerdydd
Ymunwch â phartneriaid XR Network+ o Brifysgolion Efrog, Caeredin, Ulster a Phrifysgol y Celfyddydau Llundain yn JOMEC i ddarganfod mwy am y prosiect, cyfleoedd ariannu a beth sydd ar y gweill ar gyfer 2024. Mae XR Network+ Cynhyrchu Rhithwir yn yr Economi Ddigidol yn darparu cyllid a chymorth i ymchwilwyr sy’n gweithio ym maes cynhyrchu rhithwir a thechnolegau XR. Trwy rwydwaith o bartneriaethau, bydd XR Network+ yn cefnogi twf ac yn hwyluso partneriaethau cydweithio rhwng y byd academaidd a diwydiant ar lwyfan cenedlaethol.