string(48) "/cym/events/breaking-boxes-taith-susan-cummings/" Skip to main content
int(1534)
Digwyddiad

Cyhoeddwyd ar 17.10.2024

Breaking Boxes: Taith Susan Cummings – O Gemau 2K i Ddeallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol

Dyddiad: 07.11.2024

Amser: 5pm

Lleoliad: Prifysgol De Cymru, Campws Caerdydd

Ymunwch â ni ar gyfer noson ysbrydoledig yng nghwmni Susan Cummings, Prif Swyddog Gweithredol gweledigaethol Tiny Rebel Games, wrth iddi rannu ei phrofiad anhygoel o’r byd gemau.

O gyd-sefydlu 2K Games a datblygu portffolio cynnyrch Take-Two Interactive gyda theitlau eiconig megis Bioshock, Borderlands, 2K Sports a Civilization, i’w phrosiect chwyldroadol diweddaraf ym maes Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol ac anifeiliaid anwes digidol, mae gyrfa Susan wedi’i diffinio gan arloesedd ac angerdd.

A hithau’n arweinydd arloesol ym maes technoleg gemau, mae Susan wedi gwthio ffiniau’n gyson – arweiniodd y gwaith o annog pobl i fabwysiadu gemau symudol a realiti estynedig/realiti rhithwir yn gynnar, ac mae bellach yn edrych ar botensial helaeth perchnogaeth ddigidol a rhyngweithredu gyda Petaverse. Mae ei gwaith yn llywio dyfodol anifeiliaid anwes digidol ac yn ehangu posibiliadau gofod Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol.

Yn y digwyddiad unigryw hwn, bydd Susan yn ymchwilio i’r canlynol:

  • Llwybr ei gyrfa o 2K Games, a oedd yn flaenllaw yn y diwydiant, i’w gwaith arloesol gyda Petaverse.
  • Rhan ganolog Cymru wrth gefnogi ei gyrfa a meithrin creadigrwydd yn y sector gemau.
  • Syniadau gwerthfawr ar gyfer dod yn rhan o’r diwydiant gemau, gyda chyngor i’r rheiny sydd am ddechrau eu gyrfaoedd yn y maes.
  • Dyfodol cyffrous technolegau gemau a Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol, gyda chyfleoedd ar gyfer perchnogaeth ddigidol a rhyngweithredu.

P’un a ydych chi am fod yn ddatblygwr gemau, yn frwd dros dechnoleg, neu’n awyddus i wybod rhagor am ddyfodol gemau, y digwyddiad hwn yw’ch cyfle i glywed gan un o leisiau mwyaf deinamig y diwydiant.

Peidiwch â cholli’r cyfle i ddysgu am y don nesaf o arloesedd a sut mae Cymru’n dod i’r golwg yn ganolbwynt ar gyfer technoleg greadigol!