string(56) "/cym/events/creu-digwyddiadau-ymgolli-gweithdy-ristband/" Skip to main content
int(1493)
Digwyddiad

Cyhoeddwyd ar 08.10.2024

Creu Digwyddiadau Ymgolli | Gweithdy Ristband

Dyddiad: 15.10.2024

Amser: 9.45am - 4.30pm

Lleoliad: The Sustainable Studio, Caerdydd

Digwyddiad VR

Ymunwch ag arbenigwyr XR Ristband, sydd wedi ennill gwobrau, yn ein cyfres o weithdai dau ddiwrnod ar gynhyrchu, datblygu a marchnata digwyddiadau ymgolli.

Dros ddau ddiwrnod (Dydd Mawrth 15 & Dydd Mercher 16 Hydref), byddwn ni’n ymuno â Ristband, cwmni sy’n creu math newydd o adloniant gan ddefnyddio technoleg ymgolli. Yn ystod y gweithdai rhyngweithiol hyn, byddwch chi’n dysgu popeth sydd ei angen arnoch am gynhyrchu, datblygu a phecynnu eich digwyddiadau trochi eich hun. Bydd disgwyl i chi fynd i’r tri gweithdy. Gofalwch eich bod chi ar gael cyn i chi gofrestru ar gyfer y gyfres hon o weithdai.

Mae’r sesiynau hyn yn agored i unrhyw un sy’n gweithio yn sector cyfryngau Cymru, sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am ddefnyddio technoleg ymgolli mewn digwyddiadau. Mae hyn yn cynnwys Artistiaid, Gwneuthurwyr Ffilmiau, Datblygwyr, Cerddorion Proffesiynol, Cynhyrchwyr, Awduron, Dylunwyr Sain a Pherchnogion ar Leoliadau.

Yn falch o fod yn rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd. Cefnogir gan Lywodraeth Cymru / Cyngor Caerdydd. Mwy o wybodaeth yn dinasgerddcaerdydd.cymru.

Gwybodaeth am Ristband
Mae Ristband yn pontio’r bwlch rhwng perfformio, arloesi technegol, cerddoriaeth a gemau. Gwerthon nhw bob tocyn ar gyfer arddangosiad eu cyngerdd realiti cymysg yn SXSW, a enillodd wobrau.