Cysylltwch â Ni
Media Cymru
Sbarc, Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ
Cyhoeddwyd ar 20.12.2024
Lansio Cronfa Ddatblygu 2025
Dyddiad: 10.02.2025
Amser: 9:30 - 11:45 am
Lleoliad: sbarc|spark Maindy Road Cardiff CF24 4HQ
Oes gennych chi syniad am gynnyrch, gwasanaeth neu brofiad sy’n seiliedig ar arloesedd yn y sector cyfryngau? Os felly, gallech chi wneud cais am hyd at £50,000 o Gronfa Ddatblygu Media Cymru.
Yn y digwyddiad hwn, byddwch chi’n:
- Dysgu am y gronfa ymchwil a datblygu (R&D) newydd, gan gynnwys manylion am sgôp a chymhwysedd y gronfa a’r broses ymgeisio
- Clywed gan brosiectau ymchwil a datblygu blaenorol Cronfa Ddatblygu Media Cymru
- Cael cyfle i ofyn cwestiynau a thrafod y gronfa gydag aelodau o dîm Media Cymru neu brosiectau a ariannwyd yn flaenorol
- Cysylltu a rhwydweithio â phobl a chwmnïau sy’n gweithio ar draws y sector cyfryngau yng Nghymru.
Bydd lluniaeth ar gael.
Gwybodaeth am Gronfa Ddatblygu Media Cymru
Mae Cronfa Ddatblygu Media Cymru yn galluogi unigolion a chwmnïau yng Nghymru i wneud cais am rhwng £10,000 a £50,000 ar gyfer prosiectau ymchwil a datblygu arloesol gyda chynnyrch, gwasanaethau a phrofiadau yn y sector cyfryngau.