string(45) "/cym/events/uwchgynhadledd-dyfodol-teuluoedd/" Skip to main content
int(4934)
Digwyddiad

Cyhoeddwyd ar 01.08.2025

Uwchgynhadledd Dyfodol Teuluoedd

Dyddiad: 23.09.2025

Amser: 9:30am - 2pm

Lleoliad: Castell Caerdydd

Golwg y tu ôl i'r llenni ar set ffilmio neu sesiwn tynnu lluniau. Mae sawl aelod o'r criw yn gweithio gyda chamerâu ac offer goleuo. Mae person yn eistedd ar y llawr ger cefndir llenni gwyn, gyda sgrin werdd yn y cefndir. Mae'r testun 'UWCHGYNHADLEDD DYFODOL TEULUOL' yn ymddangos yn y canol gwaelod mewn glas, coch a gwyrdd.

I rieni sy’n gweithio yn y sector sgrîn 

Dyw rhianta yn y sector sgrîn ddim yn hawdd. Oriau hir, ansicrwydd llawrydd, diffyg hyblygrwydd – ac eto, rydych chi’n dangos eich wyneb, yn jyglo, addasu a chreu. 

Yr Uwchgynhadledd Dyfodol Teuluoedd yw’r lle i chi. 

Mae’r digwyddiad undydd hwn yn dwyn ynghyd rieni sy’n gweithio ar draws y diwydiannau sgrîn – o ffilm a theledu i animeiddio a thu hwnt – lle i gysylltu, bod yn onest, dysgu a dod o hyd i ysbrydoliaeth. 

Beth i’w ddisgwyl: 

  • Sgwrsio di-flewyn-ar-dafod: Cewch glywed yn uniongyrchol gan gyd-rieni am y dewisiadau, y cyfaddawdau a’r creadigrwydd sydd eu hangen i wneud i bethau weithio – a sut nad oes dau lwybr yn edrych yr un fath. 
  • Gwybod Eich Hawliau: Cyfle i feithrin gwybodaeth ymarferol am hawliau cyfreithiol, disgwyliadau cyflogwyr a ble i ddod o hyd i gymorth. 
  • Adeiladu Cymuned: Cewch rannu eich stori, clywed stori eraill, a chysylltu â phobl sy’n deall – heb farnu, pwysau nac esgus. 
  • Llywio’r Dyfodol: Ymunwch mewn sesiwn gydweithredol, flaengar i ddiffinio beth mae rhiant-gyfeillgar wir yn ei olygu yn ein diwydiant – a helpwch i yrru newid.

I bwy? 

  • Gweithwyr llawrydd, cyflogeion, gweithwyr sy’n rhannu swyddi, gweithwyr llawn-amser, gweithwyr rhan-amser – unrhyw riant sy’n gweithio yn y sector sgrîn. 
  • Darpar rieni, rhieni newydd, jyglwyr profiadol – mae croeso i bawb. 

P’un a ydych chi’n ffynnu, yn goroesi, neu rywle yn y canol.

Dim ond hyn a hyn o leoedd sydd ar gael. Rydyn ni am glywed gan ystod eang o rieni ar draws rolau, profiadau a chefndiroedd – oherwydd mae pob stori yn bwysig, a phob llais yn cyfrif. 

Gadewch i ni ddiosg y mwgwd, rhannu’r gwirionedd, a dychmygu rhywbeth gwell – gyda’n gilydd. 

Bydden ni wrth ein bodd yn eich gweld chi yno.

Cofrestwrch am le nawr