Cysylltwch â Ni
Media Cymru
Sbarc, Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ
Cyhoeddwyd ar 20.08.2024
Y Farchnad Gyllido
Dyddiad: 30.09.2024
Amser: 9:30 - 11:45 am
Lleoliad: sbarc|spark Maindy Road Cardiff CF24 4HQ
Ymunwch â Media Cymru am fore o rwydweithio a rhannu gwybodaeth am ein cronfeydd diweddaraf fydd ar gael yn yr Hydref.
Byddwn ni’n rhannu manylion cyfleoedd ariannu nesaf Media Cymru fel rhan o’r Ffrwd Arloesedd. Cewch chi gyfle i ofyn unrhyw gwestiynau yn ogystal â’r cyfle i siarad ag unigolion oedd yn rhan o’n prosiectau sydd wedi cael eu hariannu yn y gorffennol.
Mae’r sesiwn hon yn agored i unrhyw un sy’n gweithio yn sector cyfryngau Cymru sydd â diddordeb mewn gwneud cais i’n cronfeydd a dysgu mwy am sut y gall Ymchwil a Datblygu (R&D) dyfu eich busnes a gwneud ein sector yn fwy cynhwysol a chynaliadwy – fyddwch chi ddim eisiau colli hyn!
Byddwn ni’n clywed gan:
- Elemental Health – Astudiaeth achos Cronfa Sbarduno
- Accordion – Astudiaeth achos Cronfa Ddatblygu
- Sugar Creative – astudiaeth achos Cronfa Uwchraddio
Dyma gyfleoedd ariannu Media Cymru sydd ar y gweill:
- Cronfa Sbarduno (Hydref 2024)
- Cronfa Uwchraddio (Hydref 2024)
- Cronfa Arloesi Cynnwys y BBC (Hydref 2024)
- Cronfa Ffilm Gwyrddu’r Sgrîn (Tachwedd 2024)
- Cronfa Ddatblygu (Chwefror 2025)
Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim. Bydd brecinio ar gael.