string(37) "/cym/funding/adrodd-straeon-fertigol/" Skip to main content
int(5578)
Funding (cym)

Cyhoeddwyd ar 03.08.2026

Adrodd Straeon Fertigol

Mae Cynghrair Sgrin Cymru (SAW) yn datblygu rhaglen beilot hyfforddi a chynhyrchu Drama Fertigol, wedi'i hariannu gan Media Cymru, i feithrin sgiliau a chreu cyfleoedd newydd yn un o'r fformatau cynnwys sgrin sy'n tyfu gyflymaf.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau 17:00 dydd Mawrth 1 Medi 2026

Manylion y cwrs

Mae Cynghrair Sgrin Cymru (SAW) wedi bod yn datblygu menter hyfforddi a chynhyrchu Drama Fertigol beilot, a ariennir gan Media Cymru, gyda’r nod o feithrin sgiliau ymarferol a llwybrau creadigol o amgylch y fformat adrodd straeon hwn sy’n dod i’r amlwg yn gyflym.

Bwriad y rhaglen yw cyfuno hyfforddiant mynediad agored, datblygu ystafelloedd ysgrifennu a phrofiad cynhyrchu ymarferol, gan greu cyfleoedd i awduron, criwiau, cynhyrchwyr a pherfformwyr sy’n dod i’r amlwg ac sydd ar ddechrau neu ganol eu gyrfa ledled Cymru.

Mae Drama Fertigol yn esblygu’n gyflym fel fformat cynnwys byd-eang, yn enwedig mewn perthynas â gwylio ar ffonau symudol yn gyntaf, cynhyrchu amser cyflym ac ymgysylltu â’r gynulleidfa. Yr uchelgais y tu ôl i’r cynllun peilot hwn yw sicrhau bod pobl greadigol a chwmnïau Cymru yn rhan o’r sgwrs honno’n gynnar, tra hefyd yn creu llwybrau hygyrch ac ymarferol i brofiad cynhyrchu a datblygiad creadigol.

Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i gadw ethos cydweithredol, sy’n wynebu’r diwydiant, SAW wrth greu cyfleoedd ar gyfer partneriaeth wirioneddol rhwng darlledwyr, cwmnïau cynhyrchu, addysg a thalent sy’n dod i’r amlwg.

Trosolwg o’r Rhaglen

Deall adrodd straeon fertigol (cyflwyniad)

Dyddiad: Dydd Mawrth 13 Hydref, 0930 – 1730
Lleoliad:  Cornerstone, Charles Street, Caerdydd , CF10 2GA,
Lleoedd Ar Gael: 50

Sesiwn y Bore (09:30-13:00)

Dosbarth meistr cyflwyniadol mynediad agored yn archwilio tirwedd Drama Fertigol a’r cyfleoedd y mae’n eu cyflwyno’n greadigol ac yn fasnachol, gyda chyflwyniad allweddol gan yr ymgynghorydd drama micro blaenllaw, Jen Cooper (Vertical Drama Love).

Erbyn diwedd yr hyfforddiant hwn, bydd cyfranogwyr yn gallu:

  • Meddu ar drosolwg o’r dirwedd gynhyrchu ar gyfer dramâu micro a chyfresi fertigol
  • Gwahaniaethu adrodd straeon fertigol oddi wrth ffilm a theledu traddodiadol
  • Deall y farchnad a chyfleoedd masnacheiddio
  • Ennill mewnwelediadau ymarferol i dwf cynulleidfaoedd, strategaeth platfform a moneteiddio.
  • Yr hyn sydd ei angen i ddatblygu, perfformio a chynhyrchu cynnwys micro-drama gwreiddiol
  • Nodi cyfleoedd yn y dyfodol

Y nod yw i hyn fod yn eang, yn hygyrch ac yn ymarferol, ac yn berffaith ar gyfer gwneuthurwyr ffilmiau, rhai newydd ac sydd wedi ennill eu plwyf, sy’n edrych i ehangu eu cynulleidfa trwy adrodd straeon ar ffonau symudol yn gyntaf, awduron sydd â diddordeb mewn creu micro-ddramâu fertigol a phobl greadigol a pherfformwyr sy’n edrych i archwilio’r ffin nesaf mewn adrodd straeon.

Sesiwn y Prynhawn (14:00 – 17:30)

Ail ddosbarth meistr mynediad agored yn canolbwyntio ar ochr ymarferol / dechnegol gwneud Drama Fertigol, gyda mewnwelediadau gan gynhyrchwyr, cyfarwyddwyr ac actorion sydd â phrofiad ymarferol o weithio yn y genre newydd hwn.

Bydd y sesiynau’n cynnwys:

  • Arddangosiadau camera, goleuo a sain
  • Golygu ac ôl-gynhyrchu
  • Deallusrwydd Artiffisial (AI) ac offer cynhyrchu sydyn
  • Dosbarth meistr Actio ar gyfer Drama Fertigol

Byddai’r pwyslais eto ar hygyrchedd a chymhwyso ymarferol gan ddangos sut y gellir datblygu cynnwys o ansawdd uchel gan ddefnyddio dulliau cynhyrchu ystwyth y gellir eu cynyddu mewn graddfa.

Byddai’r gweithdy hwn hefyd yn baratoad i gyfranogwyr gyrfa gynnar sy’n awyddus i symud ymlaen i’n hyfforddiant cynhyrchu sydd ar ddod.

Datblygu ystafell awduron (2 x 1 ystafell ysgrifennu undydd)

Dyddiad: Dydd Mawrth 3 Tachwedd, 10:00-18:00
Lleoliad:  Stiwdios Wolf Cymru, Caerdydd (Saesneg) | Stiwdios Aria, Llangefni (Cymraeg)
Lleoedd Ar Gael: 10

Bydd deg awdur sy’n cyrraedd y rhestr fer yn cymryd rhan mewn dwy ystafell awduron gydweithredol a fydd yn datblygu:

  • Un gyfres fer o Ddrama Fertigol Saesneg, mewn partneriaeth â Bad Wolf (5 lle)
  • Un gyfres fer o Ddrama Fertigol yn y Gymraeg, mewn partneriaeth â Rondo (5 lle)

Byddai golygyddion sgriptiau/rhedwyr sioeau profiadol yn goruchwylio’r ystafelloedd, gyda phob awdur yn cyfrannu drafft un bennod o dan gytundebau drafft cyntaf a chytundebau peidio â datgelu.

Byddai perchnogaeth IP yn nwylo SAW i ddechrau, gyda’r ddealltwriaeth y byddai unrhyw ddatblygiad masnachol yn y dyfodol yn mynd rhagddo o dan delerau a chytundebau safonol Urdd yr Awduron.

Yn bwysicach fyth, byddai’r ystafelloedd yn rhoi profiad uniongyrchol i awduron o ddatblygu straeon ar y cyd a chreu cynnwys cyflym o fewn amgylchedd proffesiynol.

Byddai gofyn i’r 10 awdur ar y rhestr fer fynychu’r hyfforddiant ‘Deall Adrodd Straeon Fertigol’ ddydd Mawrth 13 Hydref hefyd.

Darparwr/wyr Hyfforddiant a Phartneriaid yn y Diwydiant

Mae Cynghrair Sgrin Cymru yn sefydliad nid-er-elw sy’n cydnabod potensial byd-eang y diwydiant ffilm a theledu yng Nghymru. Mae’n tyfu ac yn hyrwyddo talent, criw a gwasanaethau’r diwydiant ffilm a theledu yng Nghymru. Mae Cynghrair Sgrin Cymru yn darparu cyfleoedd hyfforddi a datblygu i arfogi criwiau Cymru â’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer cynhyrchu – gan ddefnyddio ein stiwdio unigryw a’n platfform dysgu ar-lein.

Mae Jen Cooper yn siaradwr cyhoeddus profiadol a diddorol y mae ei gwefan Vertical Drama Love yn “feibl” y DU ar gyfer cefnogwyr a chynhyrchwyr dramâu fertigol. Mae Jen yn cael ei gwahodd yn rheolaidd i rannu mewnwelediadau ar gynnydd dramâu fertigol ac adrodd straeon digidol, ac mae wedi ymddangos ar blatfformau cenedlaethol a rhyngwladol gan gynnwys rhaglen Today Radio 4 y BBC, yn ogystal ag mewn digwyddiadau byw yn y diwydiant.

Manylion Cyflwyno

Sut Mae Hyn yn Gweithio

Mae’r rhaglen hon wedi’i hariannu’n llawn gan Media Cymru ac yn cael ei chyflwyno mewn partneriaeth â Chynghrair Sgrin Cymru, a’i chefnogi gan bartneriaid yn y diwydiant gan gynnwys Bad Wolf, Rondo Media a Fivefold Studios.

Pwy all wneud cais? 

Mae’r hyfforddiant ar agor i unrhyw weithwyr creadigol ym maes teledu sy’n dod i’r amlwg neu sydd ar ddechrau neu ganol eu gyrfa sydd naill ai’n Gymreig neu wedi’u lleoli yng Nghymru, gweithwyr llawrydd ac awduron sydd â diddordeb mewn creu micro-ddramâu fertigol a gweithwyr creadigol a pherfformwyr sy’n awyddus i archwilio’r ffin nesaf ym maes adrodd straeon.

Bydd y niferoedd ar gyfer diwrnod ‘1. Deall Straeon Fertigol’ yn cael eu capio ar 50Rhaid i bob mynychwr fynychu’r sesiynau bore a phrynhawn.

Bydd 10 awdur yn cael eu rhoi ar restr fer ar gyfer y cyfle ‘2. Datblygu Ystafell Awduron’ yng Ngogledd neu Dde Cymru.

 Bydd costau teithio a llety yn cael eu talu i gyfranogwyr sy’n teithio o leoliadau mwy na 30 milltir y tu allan i ddalgylch yr hyfforddiant.

Yn ogystal, bydd pob awdur sy’n cymryd rhan yn sesiynau’r Ystafelloedd Ysgrifennu yn derbyn lwfans hyfforddi o £200.

Cynhelir pob sesiwn wyneb yn wyneb.

Pryd a ble? 

  • Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau 17:00 dydd Mawrth 1 Medi 2026
  • Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu hysbysu erbyn dydd Gwener 11 Medi 2026

Gofynnwn i chi sicrhau y gallwch ymrwymo i’r dyddiadau hyfforddi perthnasol:

  • 1: 13 Hydref, 09:30-17:30, , Cornerstone, Caerdydd CF10 2GA
  • 2: 3 Tachwedd, 10:00-18:00, Stiwdios Aria, Llangefni, Gogledd Cymru neu
  • 2: 3 Tachwedd, 10:00-18:00, Stiwdios Wolf, Caerdydd (Awduron yn unig)

O.N: Disgwylir i bob awdur fynychu’r diwrnod hyfforddi cyflwyniadol yn PDC

Mynediad a Hygyrchedd

Os oes gennych unrhyw ofynion penodol a fyddai’n gwneud y cais hwn yn fwy hygyrch i chi (megis cyngor, ysgrifennu neu gymorth darllen) neu os hoffech gael y cais hwn mewn fformat amgen (fformatau fideo neu sain, naratif sain, ffont mawr, testun plaen, neu iaith amgen) anfonwch e-bost at: media.cymru@southwales.ac.uk

Unrhyw gwestiynau? 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â:  media.cymru@southwales.ac.uk