Cysylltwch â Ni
Media Cymru
Sbarc, Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ
Cyhoeddwyd ar 29.08.2025
Comisiwn Creator Clash: Cynnwys digidol 4.0
Mewn ymdrech i gefnogi arloesi ym maes y cyfryngau yng Nghymru, mae Media Cymru a Channel 4 am roi cyfle i gwmnïau cynhyrchu annibynnol yng Nghymru gyflwyno syniadau i'w hystyried ar gyfer Creator Clash Strand Channel 4.0.
Diwrnodau gweithdy hyfforddiant: Dydd Iau 18 a dydd Gwener 19 Medi 2025
Dyddiad cau'r cyfle: Dydd Llun 3 Hydref

Mewn ymdrech i gefnogi arloesi ym maes y cyfryngau yng Nghymru, mae Media Cymru a Channel 4 am roi cyfle i gwmnïau cynhyrchu annibynnol yng Nghymru gyflwyno syniadau i’w hystyried ar gyfer Creator Clash Strand Channel 4.0.
Os bydd eich cynnig yn llwyddiannus, byddwch chi’n derbyn rhwng £10,000 a £20,000 o gyllid i greu peilot digidol i’w ystyried ar gyfer comisiwn cyfres gan Channel 4.0.
Ynglŷn â Creator Clash Stand 4.0
Doniol, beiddgar, syfrdanol a diwylliannol sensitif. Rydyn ni’n chwilio am syniadau sy’n apelio at ein cynulleidfa ifanc sy’n hoff o fformatau adloniant comedi dan arweiniad Crëwyr Cynnwys sydd wedi’u dylunio’n benodol ar gyfer YouTube. Rydyn ni eisiau syniadau sy’n hawdd eu deall o gryno-lun a theitl sy’n rhy apelgar i BEIDIO â chlicio arnyn nhw.
Rydyn ni’n ystyried comisiynu cyfres o BEILOTAU ar gyfer y Creator Clash Strand.
Hyd: 10-15 munud
Cyllideb: £10,000 – £20,000 y bennod
Terfyn amser: Dydd Llun 3 Hydref
Rydyn ni’n ystyried comisiynu 3-4 o beilotau gan gwmnïau ledled Cymru sydd ag uchelgeisiau mawr o gomisiynu cyfres ar gyfer 2026.
Am ragor o wybodaeth am y Creator Clash Strand, ymunwch â’n gweminar ar 1 Medi.
Dyddiadau allweddol
Dydd Llun 1 Medi 2025: Gweminar Esboniadol ar Creator Clash
Dydd Sul 7 Medi 2025: Ceisiadau ar gyfer y gweithdy cynnig syniadau’n cau
Dydd Iau 18 Medi 2025: Diwrnod 1 y gweithdy cyflwyno syniadau
Dydd Iau 19 Medi 2025: Diwrnod 2 y gweithdy cyflwyno syniadau
Dydd Llun 3 Hydref 2025: Cyfle Comisiynu yn dod i ben
Gweithdy hyfforddiant
Cyn dyddiad cau’r cyfle (dydd Llun 3 Hydref), mae 4Skills ac NFTS Cymru Wales yn cynnig cyfle hyfforddi dau ddiwrnod i’r rhai sy’n dymuno cyflwyno eu syniadau.
Bydd yr hyfforddiant hwn, a gynhelir ddydd Iau 18 a dydd Gwener 19 Medi 2025, yn cael ei gynnig i’r rhai sydd â diddordeb mewn cyflwyno eu syniad a bydd hefyd yn cynnwys mewnbwn gan dîm Channel 4.0 i roi arweiniad i gyfranogwyr o ran disgwyliadau Channel 4.0.
Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys:
- Beth yw Channel 4.0?
- Sut i ennill ar YouTube
- Pwy yw’r gynulleidfa a sut rydyn ni’n ei chyrraedd?
- Beth ydyn ni’n chwilio amdano? (Y briff)
- Sut i ddatblygu eich syniad a’i addasu ar gyfer fformat digidol
- Damcaniaeth – Sut mae strwythurau actiau Hollywood yn gweithio ar YouTube
- Sut i gyflwyno syniadau sy’n addas ar gyfer YouTube yn y lle cyntaf
- Gweithgaredd ymarferol ar gyflwyno syniadau gydag adborth
Pwy ddylai wneud cais:
- Mae’r cwrs hwn ar agor i unrhyw un sydd yng Nghymru sydd â diddordeb mewn datblygu a chyflwyno syniadau digidol. Nid oes rhaid i chi fod mewn sefyllfa i gyflwyno eich cais i Creator Clash Strand Channel 4.0 ar hyn o bryd, ond byddwn ni’n rhoi blaenoriaeth i’r rhai sy’n awyddus i wneud hynny.
- Rhaid i chi fod ar gael ar y dyddiau hyfforddi, sef dydd Iau 18 a dydd Gwener 19 Medi 2025.
- Rhaid i chi fod yn 18 oed neu’n hŷn ac wedi’ch lleoli yng Nghymru.
- Mae hyd at 20 o leoedd ar gael.
Mae ceisiadau ar gyfer y Gweithdy yn cau am hanner nos, dydd Sul 7 Medi.