Cysylltwch â Ni
Media Cymru
Sbarc, Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ
Cyhoeddwyd ar 03.06.2025
Cronfa Datblygu Gweithwyr Llawrydd
Gall llawryddion y sector sgrin yng Nghymru nawr wneud cais am gymorth ariannol i fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi sy'n berthnasol i ddatblygiad gyrfa personol.

Manylion Y Cwrs
Gall llawryddion y sector sgrin yng Nghymru nawr wneud cais am gymorth ariannol i fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi sy’n berthnasol i ddatblygiad gyrfa personol.
Mae prosiect Sgiliau a Hyfforddiant Media Cymru, a ddarperir gan Brifysgol De Cymru, yn cynnig hyd at gyfanswm o £1,500 y pen i dalu am golli enillion wrth ymgymryd â hyfforddiant.
Gan weithio mewn partneriaeth â Rhaglen Sgiliau Hyblyg (FSP) Llywodraeth Cymru, efallai y bydd hefyd yn bosibl talu cyfran o’r costau hyfforddiant (yn amodol ar asesiad gan Lywodraeth Cymru).
Manylion
Pwy all wneud cais?
- Mae hwn yn alwad agored i lawryddion y sector sgrin yng Nghymru.
- Rhaid i ymgeiswyr fod wedi’u cofrestru fel unig fasnachwyr neu gwmnïau cyfyngedig.
- Rhaid i ymgeiswyr fod wedi’u lleoli, neu ddarparu tystiolaeth o weithio yn y sector sgrin, yng Nghymru.
Beth sydd angen i mi ei wneud i wneud cais?
- Rhaid i chi ddod o hyd i’r cyfle hyfforddi a chyflwyno achos dros berthnasedd yr hyfforddiant a ddewiswyd gennych. (Rhaid i’r hyfforddiant bara rhwng un diwrnod a chwe mis.)
- Bydd angen i chi ddarparu CVs, a/neu gredydau diweddar i ddangos eich profiad yn y diwydiant, a chyfradd diwrnod blaenorol. Rydym yn fwy tebygol o gefnogi gweithwyr llawrydd profiadol ac rydym yn disgwyl gweld tri chredyd neu ragor.
- Bydd angen i chi ddarparu manylion y cwrs hyfforddiant, gan gynnwys dyddiad, hyd, lleoliad, cost a darparwr yr hyfforddiant.
- Rhaid cyflwyno ceisiadau o leiaf 25 diwrnod gwaith cyn i’r hyfforddiant gychwyn. Nodwch na allwn gefnogi hyfforddiant sydd eisoes wedi cychwyn.
Sut mae’n gweithio?
- Mae cyllid yn gyfyngedig a bydd yn gweithredu ar sail y cyntaf i’r felin, yn amodol ar asesiad.
- Uchafswm y cymorth sydd ar gael gan Medai Cymru yw £1,500 y pen.
- Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o bresenoldeb, cwblhad a thaliad am eich hyfforddiant dewisol.
- Dim ond ar ôl i ni dderbyn yr holl dystiolaeth gydymffurfiaeth angenrheidiol y gellir gwneud taliadau o’r Gronfa Datblygu Gweithwyr Llawrydd.
- Os byddwch yn llwyddiannus, ni chaniateir i chi wneud cais arall am rowndiau cymorth yn y dyfodol.
Wrth wneud cais am y Gronfa Datblygu Llawryddion, rydych yn cydsynio i gymryd rhan ym mhrosiect ymchwil parhaus Ffocws Lawrydd Media Cymru.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â media.cymru@southwales.ac.uk