string(107) "/cym/funding/hyfforddiant-ymwybyddiaeth-o-fyddardod-ac-iaith-arwyddion-prydain-ar-gyfer-sector-sgrin-cymru/" Skip to main content
int(5303)
Funding (cym)

Cyhoeddwyd ar 16.12.2025

Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Fyddardod ac Iaith Arwyddion Prydain ar gyfer Sector Sgrin Cymru

Mae Media Cymru yn cynnig cwrs 3 sesiwn, WYNEB YN WYNEB mewn BSL ac ymwybyddiaeth o fyddardod, gyda’r nod o gyflwyno sgiliau BSL hanfodol i’r cyfranogwyr, ynghyd â'r ymwybyddiaeth sydd eu hangen i gyfathrebu â chastiau, criwiau a chyfranwyr byddar a/neu drwm eu clyw wrth weithio ar gynyrchiadau.

Ceisiadau’n cau: Llun 16 Mawrth 2026

Manylion y Cwrs

Yn ôl yr RNID, mae tua 575,500 o bobl fyddar a thrwm eu clyw yng Nghymru, ac amcangyfrifir bod 7,200 yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) fel eu hiaith ddewisol.

Mae Media Cymru yn cynnig cwrs 3 sesiwn, WYNEB YN WYNEB mewn BSL ac ymwybyddiaeth byddar, gyda’r nod o gyflwyno sgiliau BSL hanfodol i bobl sy’n gweithio yn y sector sgrin, ynghyd â’r ymwybyddiaeth sydd ei hangen i gyfathrebu â chastiau, criwiau a chyfranwyr byddar a/neu drwm eu clyw wrth weithio ar gynyrchiadau.

Bydd y cyfranogwyr yn dysgu hanfodion BSL drwy adnoddau newydd  sydd wedi eu datblygu mewn cydweithrediad â Deaf Friendly, ac sydd wedi’u teilwra’n arbennig ar gyfer y sector sgrin.

Bydd pob un o’r tair sesiwn yn cael ei harwain gan hyfforddwyr, gyda chyfleoedd i hael hwyl wrth ymarfer. Bydd ganddynt hyfforddwr a dehonglydd yn bresennol drwy’r amser i gynnig cefnogaeth.

Bydd yr hyfforddiant hefyd yn cyfoethogi sgiliau cyfathrebu gweledol, sydd mor hanfodol yn y diwydiannau creadigol, ac yn werthfawr iawn ar leoliad, ar set ac yn y stiwdio, lle mae angen distawrwydd (oddi ar gamera).

Mae’r cwrs hwn yn cael ei gyflwyno gan Deaf Friendly a’i ariannu gan Media Cymru.

Manteision allweddol:

  • Yn cael ei gyflwyno gan weithwyr proffesiynol byddar lleol sydd â phrofiad ac arbenigedd yn y cyfryngau
  • Dysgu ymdrochol drwy ymarfer ac ailadrodd
  • Yn cyd-fynd â nodau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
  • Yn helpu cynyrchiadau – a phobl – i fod yn fwy hygyrch a chynhwysol.

Cymorth ar ôl y cwrs

Mae’r llwybrau dilyniant yn cynnwys e-ddysgu a chymwysterau BSL ffurfiol wedi’u cynnig drwy chwaer gwmni Deaf Friendly, Premier BSL Ltd.

Credwn fod gan y sector sgrin gyfle unigryw i arwain y ffordd o ran normaleiddio byddardod, hybu buddiannau pobl sy’n fyddar neu’n drwm eu clyw, a gwella hygyrchedd. Gallwn hefyd feithrin diwylliant gwaith mwy cynhwysol, gweledol ymwybodol a chroesawgar.

Mae BSL yn fwy na dim ond iaith – mae’n ymwneud â meithrin hyder ac ymgysylltiad mewn bywyd pob dydd.

Tiwtor y Cwrs

Bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno gan Sarah Lawrence, gweithiwr proffesiynol yn y maes byddar-dod sy’n uchel iawn ei pharch yng Nghymru, ac yn meddu ar dros 30 mlynedd o brofiad.  Mae’n arbenigo mewn hyfforddiant BSL ac Ymwybyddiaeth Byddar.   Mae gan Sarah brofiad helaeth mewn teledu a ffilm, ac mae wedi gweithio ar sioeau fel Dr Who, Casualty, Dope Girls a Falling. Mae profiad unigryw Sarah yn y maes teledu fel cyfieithydd a dehonglydd BSL yn golygu y gellir ymddiried yn llwyr yn y cymorth hyfforddi a gynigir gan Deaf Friendly.

Strwythur y Cwrs

Wythnos 1

Dydd Sadwrn 18 Ebrill 2026 (1000-1300)

Modiwl 1: Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Fyddardod

Ffocws: Diwylliant byddar, rhwystrau i gyfathrebu, gweithio gyda dehonglwyr BSL, mynediad at waith

Erbyn diwedd y sesiwn bydd cyfranogwyr:

  • Wedi cynyddu eu hymwybyddiaeth o hanes a diwylliant y gymuned fyddar
  • Wedi datblygu dealltwriaeth o wahanol fathau o golli clyw a’r heriau y mae pobl fyddar yn eu hwynebu
  • Yn deall pwysigrwydd mynediad teg a chydradd ac yn gallu mabwysiadu strategaethau ar gyfer cyfathrebu da
  • Wedi dysgu sut i gyflogi a gweithio’n effeithiol gyda dehonglwyr
  • Yn fwy cyfarwydd â Mynediad at Waith a sut mae’r system yn gweithio
  • Yn cofleidio arferion recriwtio a gweithio mwy cynhwysol

Wythnos 2

Dydd Sadwrn 25 Ebrill 2026 (1000 – 1800)

Modiwl 2: BSL Bob Dydd

Ffocws: Geirfa sylfaenol, sillafu â’r bysedd, mynegiant wyneb, cyfathrebu bob dydd

Erbyn diwedd y sesiwn bydd cyfranogwyr:

  • Wedi cael trosolwg o wyddor BSL
  • Yn gyfarwydd â sut i gyfarch a chyflwyno, a mân siarad
  • Yn gallu arwyddo rhifau, dyddiau, amser, cyfarwyddiadau
  • Yn gallu adnabod geiriau wedi’u sillafu â’r bysedd a mynegiant wyneb
  • Yn gallu adnabod strwythur cwestiynau a sgyrsiau bob dydd

Wythnos 3

Dydd Sadwrn 2 Mai 2026 (1000-1800)

Modiwl 3: BSL ar gyfer y Diwydiant yn Benodol

Ffocws: Adolygu Hanfodion BSL, arwyddion ar gyfer y cyfryngau’n benodol, cyfathrebu ar set, arwyddion yn seiliedig ar wahanol rolau, termau diogelwch.

Erbyn diwedd y sesiwn bydd cyfranogwyr:

  • Yn deall ac yn hyderus wrth ddefnyddio geirfa ac ymadroddion cyffredin yn gysylltiedig â chynhyrchu ffilm a theledu
  • Yn gyfarwydd ag arwyddion diogelwch ac argyfwng ac yn gallu hybu dealltwriaeth ohonyn nhw
  • Yn adnabod a defnyddio arwyddion cyfeirio fesul gwahanol rolau
  • Wedi cael profiad uniongyrchol o weithdai rhyngweithiol, senarios chwarae rôl ymarferol, a rhai sefyllfaoedd cyffredin o faes cynhyrchu ffilm a theledu

Manylion Cyflwyno

Sut mae’n Gweithio

Mae’r rhaglen hon yn cael ei hariannu’n llawn gan Media Cymru ac mae’n cael ei chyflwyno mewn partneriaeth â Deaf Friendly.

Bydd y cwrs dwys 3 sesiwn yn cael ei gyflwyno wyneb yn wyneb yng NGHANOL CAERDYDD, mewn ystafell ddosbarth a stiwdio.

Gan mai ar ffurf gweithdai mae’r cwrs, mewn stiwdio ac ystafell ddosbarth, nifer gyfyngedig o leoedd sydd ar gael, er mwyn i bob cyfranogwr allu gofyn cwestiynau, ymarfer drwy ddrilio a rhyngweithio.

O’r herwydd, dim ond 24 o bobl gaiff fynychu, a bydd lleoedd yn cael eu cynnig ar sail y cyntaf i’r felin.

Mae gennym gronfa deithio i gefnogi pobl sy’n teithio o’r tu allan i Brifddinas-ranbarth Caerdydd ac sydd angen help gyda chostau teithio.

Pwy all wneud cais?

Mae’r cwrs hwn yn agored i Gymry, a phobl yng Nghymru, sy’n gweithio’n broffesiynol – neu’n chwilio am waith – yn y sector sgrin (Ffilm, Teledu, Gemau, Animeiddio, Effeithiau Gweledol, Ôl-gynhyrchu a Masnachol).

Mae’r cwrs hwn yn arbennig o berthnasol i unrhyw un sy’n colli clyw ei hun, neu sy’n gweithio gyda – neu wedi ymrwymo i weithio gyda – chydweithwyr, criwiau, castiau a/neu gyfranwyr byddar neu drwm eu clyw.

Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol am BSL.

Pryd a ble?

Gofynnwn i chi sicrhau y gallwch ymrwymo i’r dyddiadau hyfforddi wyneb yn wyneb canlynol i gyd, mewn lleoliad canolog yng Nghaerdydd:

  • Dydd Sadwrn 18 Ebrill, 1000-1300
  • Dydd Sadwrn 25 Ebrill, 1000-1800
  • Dydd Sadwrn 2 Mai, 1000-1800

Darperir lleoedd am ddim ond mae eu cynnal yn costio, felly gofynnwn i chi wneud cais ddim ond os gallwch ymrwymo i fynychu pob sesiwn.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau 1200 Dydd Llun 16 Mawrth 2026

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu hysbysu erbyn dydd Gwener 20 Mawrth 2026

Mynediad a Hygyrchedd

Os oes gennych unrhyw ofynion penodol a fyddai’n gwneud cwblhau’r cais hwn yn fwy hygyrch i chi (fel cyngor, cymorth sgrifennu neu ddarllen) neu os hoffech y cais hwn mewn fformat arall (fformatau fideo neu sain, naratif sain, ffont mawr, testun plaen, neu iaith amgen) anfonwch e-bost i media.cymru@southwales.ac.uk

Unrhyw gwestiynau?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â: media.cymru@southwales.ac.uk