string(130) "/cym/hydref-toreithiog-o-arloesi-ir-diwydiannau-creadigol-wrth-media-cymru-gyhoeddi-dros-1-miliwn-o-gyfleoedd-ariannu-a-buddsoddi/" Skip to main content
int(1445)
News

Cyhoeddwyd ar 12.09.2024

“Hydref Toreithiog” o arloesi i’r diwydiannau creadigol wrth Media Cymru gyhoeddi dros £1 miliwn o gyfleoedd ariannu a buddsoddi

a woman with red hair presenting to an audience

Gyda’r nifer fwyaf erioed o gylchoedd ariannu’n cael eu cyhoeddi’r un pryd, mae Media Cymru’n cyflwyno cnwd toreithiog o gyfleoedd ariannu i fusnesau, sefydliadau ac unigolion sy’n gweithio yn sector y cyfryngau yng Nghymru, gyda chyfanswm cyfunol o dros £1.2 miliwn ar gael ar draws pum cronfa wahanol.     

Mae’r cyfleoedd ariannu newydd sydd hyn yn dilyn y newyddion fod Caerdydd a dinasoedd cyfagos Casnewydd ac Abertawe yn “glwstwr creadigol” sy’n datblygu i fod yr ail glwstwr mwyaf yn y DU o ran allbwn economaidd.   

Mewn ymchwil a gyhoeddir yn fuan gan dîm ymchwil Media Cymru, mae data’n datgelu bod trosiant ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi cynyddu 55% yn y blynyddoedd ers sefydlu Media Cymru – yr uchaf ar gyfer unrhyw ddinas yn y DU, ac eithrio Llundain.

Meddai Cyfarwyddwr Impactonomix, Dr Máté Fodor: “Trwy gyfuniad o raglenni strategol, hyfforddiant a digwyddiadau “mannau arloesi” a chyfres o gylchoedd buddsoddi wedi’u targedu, rydyn ni’n gweld yr ymdrechion cyfunol hyn yn talu ar eu canfed o ran twf a chynhyrchiant yn y rhanbarth. Trwy ymyriadau wedi’u targedu a chymorth ac ymgysylltiad busnesau yn y rhanbarth, mae’n glir ein bod yn gweld hwb pendant mewn twf economaidd. 

“Mae amcangyfrifon rhagarweiniol yn dangos bod trosiant yn sector y cyfryngau clyweledol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi cynyddu dros 40% rhwng 2021 a 2023, gyda chyflogaeth amser llawn yn codi mwy na 30%. Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd bellach yn ail i Fanceinion Fwyaf ym maes cynhyrchu cyfryngau, ac eithrio Llundain. Cafodd y sector ei daro’n galetach gan COVID-19 yma nag yng ngweddill y DU. Felly, er mwyn sicrhau statws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn rhywle canolog ar gyfer y cyfryngau, bydd parhau i ganolbwyntio ar arloesedd a chynhyrchiant yn hollbwysig.’’ 

Ychwanegodd yr Athro Sara Pepper OBE, Cyd-gyfarwyddwr Media Cymru: “Dwy flynedd a hanner ers i Media Cymru lansio, rydym eisoes yn gweld effeithiau sylweddol ar gynhyrchiant a thwf yn y rhanbarth. Mae nifer y cwmnïau yn sector y cyfryngau yng Nghaerdydd sydd â throsiant o £1miliwn neu fwy wedi dyblu yn ystod ein daliadaeth, gan gynyddu o 21 i 40. Mae llawer o’r busnesau creadigol hyn wedi bod yn rhan o naill ai Clwstwr neu Media Cymru. Mae hyn yn newyddion gwych i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd a Chymru gyfan wrth i ni agosáu at hanner ffordd drwy gylch oes Media Cymru.  

“Wrth i ni lansio pum cyfle ariannu gyda chyfanswm o dros £1m yr hydref hwn, rydym yn awyddus bod ymgeiswyr tro cyntaf, busnesau sy’n tyfu a chwmnïau sefydledig yn gwneud cais i’n cronfeydd ac yn gweithio gyda ni i greu sector cyfryngau teg a gwyrdd sy’n addas ar gyfer y dyfodol.” 

Cylch ariannu arloesi toreithiog: cyfleoedd yn mynd yn fyw ym mis Hydref   

Cronfa Sbarduno

Hyd at £10,000 i weithwyr llawrydd a BBaChau yng Nghymru i ddatblygu syniadau ar gyfer cynnyrch, gwasanaethau a phrofiadau newydd yn sector y cyfryngau. 

Ceisiadau ar agor: 7 Hydref
Ceisiadau yn gau: 31 Hydref
Projects run from February to June 2025 

Cronfa Uwchraddio

Hyd at £250,000 ar gyfer prosiectau o bwys ac uchelgeisiol sylweddol sydd â’r potensial i drawsnewid sector y cyfryngau a chael effaith ryngwladol. 

Ceisiadau ar agor: 7 Hydref
Ceisiadau yn gau: 4 Rhagfyr

Y prosiectau i redeg o fis Mai 2025 i fis Ebrill 2026  

Cronfa Arloesi Cynnwys y BBC

Bydd ail gylch Cronfa Arloesedd Cynnwys y BBC yn canolbwyntio ar gynnwys arloesol yn seiliedig ar newid yn yr hinsawdd wedi’i anelu at gynulleidfa brif ffrwd.  

Ceisiadau ar agor: 7 Hydref
Ceisiadau yn gau: 8 Tachwedd

Y prosiectau i redeg o fis Chwefror i fis Ebrill 2025  

Mae cronfeydd eraill fydd yn agor ddechrau’r flwyddyn nesaf yn cynnwys Cronfa Datblygu Media Cymru (yn fyw ar 3 Chwefror) a Chronfa Cynnwys Ffilm Gwyrddu’r Sgrin Prifysgol Caerdydd a Ffilm Cymru Wales (yn lansio Tachwedd).  

Ein cylchoedd ariannu blaenorol

Un cwmni sydd wedi elwa o gylchoedd ariannu blaenorol Media Cymru yw Elemental Health. Dywedodd Angela McMillan, cynghorydd achrededig a sylfaenydd Elemental Health Ltd: “Mae’r Gronfa Ddatblygu wedi cynyddu ein gallu i gefnogi pobl ifanc yn eu harddegau sy’n profi gorbryder gyda thechnolegau trochi ac wedi rhoi cyfle gwych i ni gynllunio, datblygu a phrofi ymyriad therapiwtig realiti estynedig arloesol i helpu pobl ifanc i leddfu eu symptomau a meithrin cysylltiadau cymdeithasol.”  

Derbyniodd Sugar Creative dros £250k gan Gronfa Uwchraddio Media Cymru i barhau â’u gwaith sy’n arwain y byd yn ymwneud â chreu gemau a phrofiadau geo-leoli XR. Dywedodd Cyfarwyddwr Creadigol Sugar Will Humphrey: “Mae’r gronfa wedi ein galluogi i barhau i gyflwyno arloesedd yn y sector, adeiladu ar ein gwaith arobryn blaenorol, cyflogi sawl aelod newydd o’r tîm, a chyflawni prosiectau mewn partneriaeth â brandiau byd-eang sy’n gallu dangos potensial technolegau sy’n uno.”  

Mae Andy Taylor wedi gallu datblygu ei gynnyrch, Accordion, diolch i Gyllid Datblygu Media Cymru. Mae Accordion yn dechnoleg arloesol sy’n caniatáu i ddefnyddwyr reoli hyd cynnwys sain a fideo. Dywedodd Andy Taylor, Prif Weithredwr Accordion: “Mae’r gronfa wedi galluogi cynyddu uchelgais, ymarferoldeb ac effaith fasnachol Accordion – gallwn nawr ddatrys problemau mwy i gwsmeriaid proffil uwch a chynhyrchu refeniw uwch.”   

Rhagor o wybodaeth

Rhagor o wybodaeth am ein 5 cyfle ariannu.