string(88) "/cym/lab-trafnidiaeth-cymru-a-media-cymru-i-sbarduno-arloesedd-yn-y-sector-trafnidiaeth/" 45704933 Skip to main content
int(4570) 45704933
News

Cyhoeddwyd ar 24.02.2025

Lab Trafnidiaeth Cymru a Media Cymru i sbarduno arloesedd yn y sector trafnidiaeth

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) a Media Cymru yn lansio rhaglen gyflymu newydd cyffrous. Bwriad y rhaglen hon yw helpu busnesau ac entrepreneuriaid yng Nghymru i ddatblygu syniadau sy’n torri tir newydd ar gyfer y sector trafnidiaeth. 

Mae’r rhaglen bellach ar agor i geisiadau, bydd rhaglen 10 wythnos yn cynnig hyfforddiant Ymchwil a Datblygu dan arweiniad arbenigwyr sy’n rhan o Lab  tîm TrC ynghyd â PDRcwmni ymgynghori dylunio a chyfleuster ymchwil cymhwysol sy’n arwain y byd. Mae PDR yn helpu busnesau newydd i droi syniadau’n atebion, syniadau  sydd â’r potensial i fynd o nerth i nerth ac yn barod ar gyfer y farchnad.

Yn dilyn y lab ymchwil a datblygu, bydd cyfle i wneud cais am gyllid o hyd at £30,000 gan TrC a hyd at £50,000 gan Media Cymru. 

Mae TrC yn bwriadu gwella profiad, effeithlonrwydd a chynaliadwyedd cwsmeriaid ar draws ei rwydwaith trafnidiaeth trwy eu gwasanaethau arloesi pwrpasol y mae Lab tîm TrC yn ei gynnig. 

Bydd y rheini sy’n ymuno yn cael cyfle unigryw i roi cynnig ar ac i ddefnyddio eu syniadau yn uniongyrchol o fewn Trafnidiaeth Cymru, gan ganolbwyntio ar ddatrys heriau allweddol y diwydiant. 

Dywedodd Gavin Johnson, Cynhyrchydd Ymchwil a Datblygu Media Cymru: 

“Pleser yw cyhoeddi ein partneriaeth newydd uchelgeisiol gyda Trafnidiaeth Cymru. Ynghyd â Lab arloesol TrC, rydym yn dod ag arloeswyr creadigol ynghyd i ddyfeisio a thrin a thrafod profiadau a chynhyrchion newydd, hygyrch i bobl sy’n teithio ar amrywiaeth o lwybrau rhwydwaith TrC.

“Nid yn unig fydd y broses arloesi yn Lab TrC yn sbarduno amrywiaeth o syniadau sy’n barod ar gyfer y farchnad ond hefyd yn paratoi’r ffordd ar gyfer posibiliadau newydd ar gyfer dyfodol teithio llesol a thwristiaeth yng Nghymru. Mae’r cydweithio hwn yn golygu gwneud newidiadau mawr, creu arferion newydd a chyflwyno cyfleoedd newydd, arloesol i’r rhwydwaith rheilffyrdd.”

Dywedodd Barry Lloyd, Pennaeth Arloesi a Datblygu Cynnyrch Newydd: 

“Rwy’n edrych ymlaen at lansio carfan 6 Cyflymu Arloesedd Lab TrC, menter drawsnewidiol a gynlluniwyd i danio creadigrwydd a sbarduno syniadau arloesol ar gyfer sector trafnidiaeth a chyfryngau Cymru. Mae’r rhaglen hon wedi’i theilwra i rymuso gweledigaeth, gan feithrin amgylchedd lle gall cysyniadau arloesol ffynnu a datblygu i fod yn atebion effeithiol.  Rwy’n edrych ymlaen at groesawu ymgeiswyr llwyddiannus i’n man cyfarfod pwrpasol ym Mhencadlys TrC, lleoliad y rhaglen.”

Pwy ddylai Ymgeisio?

Mae Lab gan Trafnidiaeth Cymru yn agored i fusnesau, busnesau newydd ac entrepreneuriaid sydd â syniadau arloesol.

Heriau Penodol i’r Cyfryngau fel yr amlinellwyd gan Media Cymru (Rhaid eu bod wedi’i lleoli yng Nghymru):

  • Cefnogi twristiaeth drwy’r rhwydwaith trafnidiaeth.
  • Cynyddu’r defnydd o Gymraeg ar draws y rhwydwaith.
  • Creu profiadau cyfrwng cymysg i wella teithiau cymudwyr.
  • Hyrwyddo’r brand a/neu gynnig gan ddefnyddio dulliau newydd o gyfryngau
  • Denu pobl i ddefnyddio’r rhwydwaith gan ddefnyddio cyfryngau newydd

Heriau Trafnidiaeth Penodol fel yr amlinellwyd gan Trafnidiaeth Cymru:

Cynhyrchu Refeniw ac Effeithlonrwydd Cost 

  • Dod o hyd i gyfleoedd newydd i greu refeniw 
  • Dylunio atebion cost-effeithiol 
  • Defnyddio AI i wella gweithrediadau 

Newid ac Ymgysylltu Dulliau Teithio 

  • Annog mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gynaliadwy 
  • Datblygu system drafnidiaeth integredig a chynaliadwy 

Rhagoriaeth Weithredol 

  • Gwella perfformiad trenau a bysiau 
  • Gwella diogelwch teithwyr a staff 
  • Cryfhau cydnerthedd hinsawdd 

Pam cymryd rhan? 

Dyma fanteision cymryd rhan:

  • Mynediad at hyd at £30,000 o gyllid (TrC ) a £50,000 o gyllid (Media Cymru)
  • Hyfforddiant Ymchwil a Datblygu Arbenigol i fireinio a datblygu eu syniadau
  • Cymorth mentora arbenigol a chymorth i’r diwydiant
  •  Y cyfle i ddefnyddio eu harloesedd gyda Trafnidiaeth Cymru 

Sut i Ymgeisio 

Ceisiadau ar agor nawr. Gall busnesau ac unigolion sydd â diddordeb ddarllen mwy am y rhaglen ac ymgeisio ar wefan Lab TrC

Ymunwch â ni i wneud dyfodol trafnidiaeth yng Nghymru yn un arloesol!