Cysylltwch â Ni
Media Cymru
Sbarc, Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ
Cyhoeddwyd ar 09.01.2026
Lansio Arolwg Gweithlu Sgrîn Cymru 2026
Yn galw ar holl weithwyr sector sgrîn Cymru, mae angen eich help chi arnom ni!
Yn 2022 gwnaethom lansio Arolwg Gweithlu Sgrîn Cymru, arolwg cenedlaethol gan Media Cymru a Phrifysgol De Cymru, a gynlluniwyd i asesu anghenion sgiliau a hyfforddi, agweddau a phrofiad pobl sy’n gweithio ar draws y sector sgrîn. Yn ogystal â Ffilm a Theledu, roedd yr arolwg hwnnw hefyd yn cynnwys Gemau, Animeiddio, VFX, Ôl-gynhyrchu a chynhyrchu corfforaethol. Gallwch ddarllen am ganlyniadau arolwg Gweithlu 2022 YMA.
Roedd canlyniadau arolwg 2022 yn sylfaen i’r ystod eang o raglenni hyfforddi y mae Media Cymru x PDC wedi’u cyflawni ers 2023, gan hyfforddi 280 o bobl ar draws 17 o raglenni hyfforddi, gyda mwy na 34 o ymyriadau penodol, yn ogystal â chefnogi 21 o weithwyr llawrydd unigol i gael mynediad at hyfforddiant perthnasol drwy’r Gronfa Datblygu Gweithwyr Llawrydd.
Wrth i ni ddechrau blwyddyn olaf y rhaglen Media Cymru, rydyn ni’n awyddus i glywed gennych chi eto. Hoffem eich gwahodd i gymryd rhan yn Arolwg Gweithlu Sgrîn Cymru 2026, sy’n cael ei gynnal ar ran Media Cymru, dan arweiniad ein tîm o ymchwilwyr yn PDC.
Y nod? Adlewyrchu amrywiaeth, cryfderau ac anghenion y busnesau bach a’r dalent lawrydd sydd wrth galon ein diwydiant, a chreu darlun penodol o ddemograffeg, setiau sgiliau a blaenoriaethau hyfforddi gweithlu Sector Sgrîn Cymru.
Bydd yr ymchwil hwn yn helpu i lywio’r ddarpariaeth sgiliau a hyfforddiant yn y dyfodol yn y sector sgrîn, ac yn rhoi llais i’r gweithlu deinamig hwn, drwy ein galluogi i fapio gofynion sgiliau ehangach y sector sgrîn yng Nghymru sy’n cyfrannu at arloesi a thwf.
Dylai’r arolwg gymryd rhwng 15 a 25 munud i’w gwblhau, ac mae ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Rydyn ni’n gwerthfawrogi eich amser a’ch cyfraniad yn fawr yn rhannu eich safbwyntiau a’ch arbenigedd, ac rydyn ni’n gobeithio y byddwch chi’n achub ar y cyfle hwn i ychwanegu eich llais at ddyfodol gwaith sgrîn yng Nghymru!