string(79) "/cym/media-cymru-yn-lansio-adnodd-rhyngweithiol-newydd-i-annog-sgiliau-arloesi/" Skip to main content
int(1293)
News

Cyhoeddwyd ar 07.08.2024

Media Cymru yn lansio adnodd rhyngweithiol newydd i annog sgiliau arloesi

person ar y cyfrifiadur

Rydyn ni wedi cyhoeddi adnodd rhyngweithiol newydd ar gyfer gweithwyr y cyfryngau ynghyd â’r rhai sy’n dymuno arloesi a thyfu eu busnesau.  

Mae’r adnodd asesu “Pa fath o arloeswr ydych chi?” yn defnyddio corff mawr o lenyddiaeth ymchwil i amlinellu saith nodwedd allweddol neu “rôl” sy’n ysgogi arloesedd. 

Datblygwyd yr adnodd gan ein tîm ymchwil, sy’n arwain ymchwil arloesol yn y sector cyfryngau creadigol yng Nghymru, ar ôl cael adborth gan gwmnïau cyfryngau a ddaeth i’r casgliad bod angen cymorth arnyn nhw i ddatblygu elfennau o’u busnesau a nodi bylchau mewn sgiliau.  

Ar ôl cwblhau cyfres o gwestiynau, mae cyfranogwyr yn cael canlyniadau personol i’w galluogi i ddeall mwy am eu sgiliau arloesi ac yn cael gwybod pa ‘fath’ o arloeswr ydyn nhw, fel Meddyliwr Beirniadol, Ysgogwr Newid, Empath a Chydweithredwr. Daw’r categorïau hyn o ymchwil Dr Enrique Uribe-Jongbloed i’r diwydiannau creadigol a’r sgiliau y mae busnesau ym maes y cyfryngau yn eu cydnabod fel rhai sy’n bwysig ar gyfer arloesi. 

Ymchwil Dr Uribe-Jongbloed 

Mae Dr Uribe-Jongbloed, sy’n wreiddiol o Golombia ac sydd wedi dysgu Cymraeg ers byw yng Nghymru, wedi cyfrannu’n sylweddol at ddatblygiad yr adnodd asesu arloeswyr hwn.  

Dyma ddywedodd Dr Uribe-Jongbloed, sy’n Gydymaith Ymchwil yn Media Cymru ar hyn o bryd: 

“Rydyn ni’n arloesi bob dydd, bob tro rydyn ni’n newid ac yn ceisio gwella sut rydyn ni’n gweithio. Mae’r arolwg hwn yn gyfle gwych i bawb sy’n gweithio yn y cyfryngau ddarganfod eu potensial fel arloeswr. Rydyn ni’n gobeithio y bydd yr adnodd hwn yn galluogi pobl yn y sector i adnabod eu cryfderau ac i ymgorffori dulliau arloesi yn eu gwaith dyddiol.” 

Yn ôl Robin Moore, Ymgynghorydd Arloesedd gyda Media Cymru, a ddatblygodd y categorïau arloeswr ar gyfer yr adnodd, “Mae arloesedd wedi dod yn hanfodol i gystadlu mewn marchnad cyfryngau sy’n fwyfwy heriol, i addasu i newidiadau fel dyfodiad deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol, ac i ddatrys problemau cymhleth iawn fel sut i gyflawni sero net.” 

“A dweud y gwir, mae gwaith arloesi bellach yn llawer rhy bwysig, yn llawer rhy gymhleth ac yn llawer rhy ddwys i’w adael i unigolion gan obeithio y bydd ganddyn nhw y galluoedd cywir. Mae angen timau amrywiol gydag ystod o sgiliau arloesedd, priodoleddau a phrofiad sy’n ategu ei gilydd. Os ydyn ni’n dysgu’n gyntaf am ein galluoedd arloesi ein hunain, yna gallwn naill ai ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnon ni neu ddod o hyd i’r cydweithredwyr gorau i lenwi’r bylchau a’n cefnogi ar ein taith arloesi.” 

Pa fath o arloeswr ydych chi? 

Mae’r adnodd asesu arloesedd ar gael am ddim ar-lein i unrhyw un sydd â diddordeb mewn arloesi a datblygu busnes. 

Pa bath o arloeswr ydych chi?

 

Gwyliwch fideo o Dr Enrique Uribe-Jongbloed yn siarad am yr adnodd newydd: 

Yn yr Eisteddfod

Mae Dr Enrique Uribe Jongbloed ac aelodau eraill o’n tîm yn mynd i’r Eisteddfod Genedlaethol Cymru (stondin Prifddinas-Ranbarth Caerdydd) ddydd Sadwrn 10 Awst,lle byddwn ni’n gofyn i aelodau’r cyhoedd roi eu barn am yr arloesi â’r cyhoedd ac yn gofyn iddyn nhw roi cynnig ar y cwis.