string(99) "/cym/millions-across-the-globe-log-on-to-watch-live-as-wales-interactive-launches-new-game-trailer/" Skip to main content
int(4782)
News

Cyhoeddwyd ar 09.06.2025

Miliynau ledled y byd yn gwylio’n fyw ar-lein wrth i Wales Interactive lansio trelar gêm newydd

Maer stiwdio gemau a phartner consortiwm Media Cymru, Wales Interactive, wedi cyhoeddir trelar ar gyfer ei gêm arswyd ryngweithiol ddiweddaraf, Dead Reset, yn ystod digwyddiad byd-eang byw gyda bron i 80 miliwn o bobl yn gwylio ledled y byd. 

Fel arfer, mae lansiadau gemau yn ystod y Sioe Gemau Cyfrifiadurol flynyddol (a ddarlledwyd ddydd Sul 8 Mehefin), yn cael eu cadw ar gyfer cwmnïau fel Sony, Microsoft, a Nintendo i ddatgelu gemau mwyaf hirddisgwyliedig y flwyddyn.  

Gwybodaeth am Wales Interactive

Maer datblygwr gemau o Gaerdydd, Wales Interactive, yn cael ei gydnabod fel y cyhoeddwr cynnwys ffilmiau rhyngweithiol mwyaf ond un yn y byd ar ôl Netflix. Ffilm ryngweithiol or enw Dead Reset yw teitl eu gêm ddiweddaraf, a ddatblygwyd drwyr Her Ffilm Ryngweithiol, sef menter Ymchwil a Datblygu syn cael ei hariannu gan Media Cymru. 

Gwybodaeth am Dead Reset – cydweithrediad â Dark Rift Horror

Mae’r gwahoddiad gan y Sioe Gemau Cyfrifiadurol i ddangos trelar Dead Reset, sef ffilm profiad byw newydd uchelgeisiol â naratif arswyd gan Wales Interactive, yn arddangos safle’r datblygwr fel arweinydd byd-eang ym maes arloesi gemau.  

Ymunodd Wales Interactive â’r stiwdio arswyd o Brydain, Dark Rift Horror, i gynhyrchu gêm sy’n gwthio ffiniau gemau fideo symudiad llawn (FMV). Y canlyniad yw profiad sinematig tywyll lle mae marwolaeth yn dod yn fecanwaith ar gyfer goroesi ac mae dewisiadau’r chwaraewr yn arwain at bedwar diweddglo gwahanol iawn.  

Mae chwaraewyr yn rheoli cymeriad o’r enw Cole Mason, sef llawfeddyg sydd wedi’i ddal mewn cylch amser angheuol. Wrth gael eu harwain gan benderfyniadau moesol, cysylltiadau dychrynllyd a chynghreiriau dan straen, mae’n rhaid i chwaraewyr ddatrys dirgelwch sy’n datblygu lle mae marw yn agor llwybrau newydd, a lle na ellir rhagweld unrhyw ganlyniad. Disgwylir i’r gêm gael ei lansio ar gyfrifiaduron personol, consolau a ffonau symudol yn ddiweddarach yn 2025. 

Gallwch chi wylio’r trêl ar gyfer Dead Reset nawr.

Arweiniwyd y gwaith cynhyrchu ffilm ar gyfer Dark Reset gan Dark Rift Horror, y stiwdio amlgyfrwng y tu ôl i’r ffilmiau arobryn Book of Monsters a How to Kill Monsters. 

Dechreuodd y bartneriaeth pan fynychodd tîm Dark Rift Horror weithdai Y Gyfrinach i Ysgrifennu Cynnwys Rhyngweithiol gan Wales Interactive. Roedd rhain yn gyfle i awduron newydd ymuno â maes creu gemau, a gwahoddwyd 17 o bobl greadigol i archwilio offeryn naratif arloesol Wales Interactive (WIST) ac i godi eu sgiliau ysgrifennu i’r lefel nesaf.  

Dead Reset yw’r prosiect diweddaraf ym mhortffolio arloesol Wales Interactive ar gyfer y sector gemau rhyngweithiol byd-eang. Mae ei ôl-gatalog yn cynnwys teitlau arobryn fel: Sker Ritual, Late Shift, The Bunker, Maid of Sker, The Complex, a’r ffilmiau detio poblogaidd, Five Dates a Ten Dates.  

Meddai Richard Pring, Uwch Gynhyrchydd a Chyd-sylfaenydd Wales Interactive::

“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr i gyhoeddi’r ffilm arswyd ryngweithiol newydd sbon yma ochr yn ochr â’n partneriaid Media Cymru a Dark Rift Horror. Mae Dead Reset yn ganlyniad cydweithio perffaith, gan ein bod ni gyda’n gilydd yn rhannu hoffter o brofiadau naratif unigryw a straeon arswyd erchyll.

“Mae cefnogaeth Media Cymru wedi rhoi’r rhyddid i ni neilltuo amser ac adnoddau sylweddol ar gyfer cynnal gwaith Ymchwil a Datblygu, ac rwy’n gwybod y bydd canlyniadau’r arbrofion a’r gwaith arloesol a ddaeth yn sgil y cydweithio yn dod yn amlwg i bawb sy’n chwarae Dead Reset.”

Meddai Dr. Matthew Boswell, Rheolwr Rhaglenni Media Cymru:

“Mae crewyr Cymru yn gwthio ffiniau o ran beth mae creu profiadau a chynnyrch newydd i ddefnyddwyr ledled y byd yn ei olygu. Mae’n hanfodol bod busnesau creadigol uchelgeisiol yn gallu cael mynediad at y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw er mwyn cyflawni gwaith ymchwil, datblygu ac arloesi sy’n gallu chwarae rhan enfawr wrth hybu mynediad, twf a chyfleoedd yn y diwydiannau creadigol.  

“Mae Wales Interactive yn enghraifft wych o gwmni sydd â chysylltiadau byd-eang ond sydd â gwreiddiau lleol, ac sydd wedi ymrwymo i’r ymdrech ehangach o wneud Cymru yn ganolfan deg, werdd a byd-eang ar gyfer arloesi.”  

Maer profiad gêm newydd yn cadarnhau bod Cymru yn haeddu sylw yn y diwydiant gemau fideo byd-eang, ac mae rôl Media Cymru yn y gwaith Ymchwil a Datblygu a arweiniodd at greu Dead Reset hefyd yn cadarnhau effaith fyd-eang gynyddol sectorau sgrin a chreadigol arloesol Cymru. 

Miliynau ledled y byd yn gwylio’n fyw ar-lein wrth i Wales Interactive lansio trelar gêm newydd