string(103) "/cym/new-data-from-media-cymru-makes-case-for-long-term-rd-investment-in-wales-5bn-creative-industries/" Skip to main content
int(4973)
News

Cyhoeddwyd ar 16.09.2025

Data newydd gan Media Cymru yn cyflwyno’r achos dros fuddsoddiad hirdymor mewn ymchwil a datblygu yn niwydiannau creadigol Cymru sydd werth £5bn

Mae ymgyrch newydd Media Cymru, Tanio’r Dyfodol | Fuelling the Future, yn tynnu sylw at effaith buddsoddi mewn ymchwil, datblygu ac arloesedd yng Nghymru, sy’n gwneud cyfraniad sylweddol i ysgogi cynhyrchiant, twf ac arloesedd mewn economïau lleol a rhanbarthol.   

Mae dadansoddiad economaidd diweddaraf Media Cymru (data 2023) yn dangos diwydiannau creadigol sy’n economaidd werthfawr, ond eto’n fregus, ac sy’n cefnogi dros 100,000 o swyddi yng Nghymru – bron i 7% o gyflogaeth Cymru – mewn 11,740 o fentrau. Cafwyd cynnydd o 20% yn nhrosiant y sector o £5bn yn y cyfnod rhwng 2022 a 2023. Ar gyfartaledd, cafwyd cynnydd o 750 o fusnesau yn y sector bob blwyddyn ers 2019, gyda thros hanner (54%) o weithlu diwydiannau creadigol Cymru ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.  

Mae busnesau creadigol a gweithwyr llawrydd wedi cael cymorth i dyfu gan raglen twf economaidd sy’n seiliedig ar leoedd Media Cymru. Trwy gyfres o alwadau ariannu wedi’u targedu ers 2022, mae Media Cymru wedi buddsoddi dros £4.4 miliwn yn y sector drwy ei Ffrwd Arloesedd. Yn ogystal, mae’r consortiwm sy’n cynnwys 22 partner wedi helpu i gefnogi ecosystem weithredol – gan ddarparu cynllunio sy’n canolbwyntio ar ddefnyddwyr, arbenigedd masnacheiddio a hyfforddiant pwrpasol yn ogystal ag amrywiol gyfleoedd i rwydweithio a rhannu gwybodaeth.      

Mae Tanio’r Dyfodol yn dangos manteision harneisio grym arloesedd. Mae Media Cymru bellach yn galw ar lunwyr polisi i flaenoriaethu buddsoddiad hirdymor, cynaliadwy mewn gweithgarwch arloesedd i gefnogi’r diwydiannau creadigol, sy’n ysgogwr economaidd allweddol.     

Mae’r Athro Justin Lewis, Cyfarwyddwr Media Cymru, yn egluro bod y data diweddaraf hwn nid yn unig yn adlewyrchu twf, ond hefyd werth systemig ymchwil, datblygu ac arloesedd i’r diwydiannau creadigol.  

Dywedodd yr Athro Lewis: “Mae ein data yn dangos nid yn unig gyflymder y twf ond hefyd yr effeithiau pwysig ar y rhanbarth a’r economi ehangach. Mae gan ddiwydiannau creadigol heriau unigryw o ran arloesedd. Mae 95% o’r busnesau’n fach ac yn aml heb y gallu i ymchwilio, datblygu ac arloesi. Ond mae ein gwaith ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd – gyda Media Cymru, ac yn flaenorol, gyda’r rhaglen arloesi Clwstwr – wedi dangos y gall adeiladu ecosystem arloesedd gefnogol gynhyrchu enillion economaidd ymarferol. Am bob £1 a fuddsoddir mewn ymchwil, datblygu ac arloesedd, ychwanegir £6 at yr economi. Mae’r cynnydd hwn yn dangos y math o werth strategol y gall y sector ei ddarparu a pham ei bod yn hanfodol cael cynllun cymorth hirdymor ar gyfer arloesedd creadigol.”  

Mae cryfder Caerdydd ym maes cynhyrchu’r cyfryngau yn golygu ei bod yn yr haen uchaf o ganolfannau’r DU o ran allbwn creadigol, ochr yn ochr â Llundain a Manceinion.  

Mae’r Athro Sara Pepper, Dirprwy Gyfarwyddwr Media Cymru yn credu bod cefnogaeth barhaus i arloesedd yn hanfodol er mwyn cynnal momentwm wrth droi Prifddinas Ranbarth Caerdydd yn ganolbwynt byd-eang ar gyfer arloesedd yn y cyfryngau.   

Dywedodd: “Rydyn ni wedi gweld busnesau yn y diwydiannau creadigol yn ymdrin ag amrywiaeth eang o heriau dros y bum mlynedd ddiwethaf. O effeithiau’r pandemig byd-eang a gweithredu diwydiannol yn yr UD i aflonyddwch digidol parhaus, newidiadau o ran hoffterau ac ymddygiad y gynulleidfa ac ansicrwydd economaidd. Mae’r sector wedi dangos gwydnwch rhyfeddol ac er bod rhai busnesau’n teimlo’n ansicr ynghylch y dyfodol hirdymor, mae’r diwydiant yn ei gyfanrwydd yn parhau’n hyblyg, yn greadigol ac â’r gallu i ymdopi â heriau. Mae clwstwr creadigol yn dod i’r amlwg ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd sy’n deall ac yn elwa o weithgarwch ymchwil datblygu ac arloesedd, gyda buddsoddiad o’r math yn uniongyrchol gysylltiedig â thwf a chynhyrchiant. Ond er mwyn cynnal hyn, mae angen fframweithiau polisi a strwythurau ariannu sy’n cydnabod ac yn atgyfnerthu gwerth gweithgarwch arloesedd wedi’i dargedu at anghenion y sector cymhleth hwn.”  

Mae ymgyrch Media Cymru yn tynnu sylw at nifer o fentrau creadigol yng Nghymru, o stiwdios annibynnol i ddatblygwyr gemau rhyngweithiol, ac yn arddangos eu llwyddiannau o ran arloesedd. Y nod hefyd yw annog mwy o fusnesau i fabwysiadu modelau dan arweiniad arloesedd er mwyn parhau’n gystadleuol mewn marchnad fyd-eang sy’n esblygu’n gyflym.   

Ymhlith astudiaethau achos yr ymgyrch mae cyfleuster cynhyrchu rhithwir fivefold studios, cwmnïau cynhyrchu Boom Cymru a Rondo Media, Canolfan Ddarlledu Whisper Cymru, Asiantaeth Gwasanaeth Cynulleidfa Dark Arts Digital, BBC Cymru Wales a’r Cyhoeddwr Gemau Wales Interactive 

Data newydd gan Media Cymru yn cyflwyno’r achos dros fuddsoddiad hirdymor mewn ymchwil a datblygu yn niwydiannau creadigol Cymru sydd werth £5bn