string(57) "/cym/newyddion-i-bawb-gwneud-synnwyr-on-byd-gydan-gilydd/" Skip to main content
int(5612)
News

Cyhoeddwyd ar 14.10.2026

Newyddion i Bawb: gwneud synnwyr o’n byd, gyda’n gilydd

Mae model busnes sylfaenol newyddiaduraeth wedi methu, mae ymddiriedaeth mewn newyddion ar drai ac mae pobl yn teimlo wedi’u llethu gan wybodaeth a chamwybodaeth anghyson. Ar yr un pryd, mae AI yn ail-lunio’r amgylchedd gwybodaeth: yn gynyddol mae pobl yn holi cynorthwyydd AI yn hytrach na chwilio am newyddion eu hunain. Yr ymateb arferol yw gofyn “Sut allwn ni gyrraedd mwy o bobl gyda mwy o newyddiaduraeth?”

Dechreuodd Newyddion i Bawb gyda chwestiwn gwahanol, a phwysicach: beth mae ein pobl a’n cymunedau ei angen i wneud synnwyr o’u bywydau gyda’i gilydd?

Gan adeiladu ar ymchwil Newyddion i bawb yn Grangetown, treulion ni flwyddyn yn gweithio gyda phobl ym Mlaenau Ffestiniog, ochr yn ochr â phartneriaid lleol CellB ac Y Dref Werdd, yn ogystal â  Common/Wealth, PDR, Newyddiaduraeth Gynhwysol Cymru, S4C a Cymru Greadigol. Dros gyfres o benwythnosau a digwyddiadau ymchwil a hwyluswyd yn greadigol, bu aelodau’r gymuned yn edrych ar y cwestiwn hwn gyda’i gilydd, ac yn cynnig eu hatebion eu hunain.

Gwnaed y gwaith yn bosibl gan  Wobrau Ymarferwyr Arloesedd Cymunedol AHRC, sy’n archwilio rôl diwylliant a datganoli wrth ddatgloi cyd-greu traws-sector ac arloesi’n seiliedig ar leoedd ar draws pob un o bedair cenedl y DU.

Yr hyn a ganfuwyd

  • Nid dim digon o wybodaeth yw’r broblem, ond gormod. Dyw cyfranogwyr ddim wedi ymddieithrio o fywyd cyhoeddus. Maen nhw’n cael eu llethu gan yr holl newyddion, ac yn ansicr beth i ymddiried ynddo.
  • Yr hyn sydd ar goll yw lle i wneud synnwyr ohono gyda’n gilydd. Mae pobl am gael lleoedd dibynadwy, wyneb yn wyneb i drafod gwybodaeth gyda’i gilydd. Mae sesiynau caban Blaenau, sesiynau yng nghabanau’r mwyngloddiau llechi, yn cynnig glasbrint sydd eisoes yn rhan o’r dirwedd.
  • Mae’r ffordd a ddown ni at ein gilydd yn bwysig. Gwnaeth hwyluso creadigol wahaniaeth allweddol, gan symud y tu hwnt i grwpiau ffocws neu arolygon. Disgrifiodd cyfranogwyr eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu “clywed, eu parchu, gyda gofal, nid gorfodaeth.”
  • Mae cysylltiad yn cryfhau bywyd dinesig. Dywedodd bron pob cyfranogwr eu bod yn teimlo’n barotach ac yn fwy abl i gymryd rhan mewn gweithgarwch dinesig a democrataidd ar ôl bod yn rhan o’r gwaith. Mae hyn yn adleisio’r hyn a ganfuwyd yn Grangetown.
  • Mewn byd a gyfryngir gan AI, mae perthnasoedd yn bwysicach fyth. Wrth i systemau AI benderfynu fwyfwy beth mae pobl yn ei weld, yr hyn na all y systemau hynny ei ail-greu yw perthnasoedd dynol dibynadwy, a dyna’r un lle y gall newyddiaduraeth lanio’n ddibynadwy o hyd.

Yr hyn rydyn ni’n gofyn amdano

Mae ein papur polisi yn nodi tri argymhelliad i Lywodraeth Cymru:

  • Cynnwys edefyn a ariennir ar gyfer arloesi a arweinir gan y gymuned yng nghylch gorchwyl sefydlu’r Awdurdod Darlledu Cysgodol newydd. Dylai cyllid fod ar agor i’r cymunedau eu hunain, ac nid i’r ystafelloedd newyddion yn unig, a’i asesu ar sut mae’n cyfrannu at gydlyniant cymdeithasol a chyfranogiad democrataidd.
  • Defnyddio rôl ymgynghorol Cymru yn Adnewyddu Siarter y BBC i ddadlau y dylid barnu unrhyw setliad a ddaw ar y graddau mae’n helpu pobl i wneud synnwyr o’r byd gyda’i gilydd. Dylai hefyd ymdrin â’r ddibyniaeth gynyddol ar lwyfannau a systemau AI, a buddsoddi yn y perthnasoedd cymunedol y bydd cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus yn dibynnu fwyfwy arnynt.
  • Cydnabod gwneud synnwyr cymunedol fel rhan o’r Economi Sylfaenol, gyda chyllid hirdymor ar gyfer seilwaith dinesig dwyieithog, cyfranogol, yn seiliedig ar leoedd, ar-lein ac wyneb yn wyneb.

Ei glywed yn eu geiriau eu hunain

Mae ein podlediad yn dwyn ynghyd y lleisiau y tu ôl i’r prosiect: aelodau o gymuned Blaenau Ffestiniog, y tîm hwyluso a gynlluniodd ac a hwylusodd y sesiynau, a Geraint Evans, Prif Weithredwr S4C, yn myfyrio ar yr hyn y mae’r gwaith yn ei olygu i’r cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru.

Darllen yr astudiaeth achos   Darllen y papur polisi    Gwrando ar y podlediad

Newyddion i Bawb: gwneud synnwyr o’n byd, gyda’n gilydd