string(79) "/cym/newyddion-i-bawb-is-awarded-ukris-community-innovation-practitioner-award/" Skip to main content
int(5082)
News

Cyhoeddwyd ar 29.09.2025

“Newyddion i Bawb” yn ennill Gwobr Ymarferwyr Arloesi Cymunedol UKRI

Mae “Newyddion i Bawb” gan Brifysgol Caerdydd wedi derbyn Gwobr Ymarferwyr Arloesi Cymunedol UKRI, i ysbrydoli mathau newydd o newyddiaduraeth gymunedol yng Nghaerdydd.

Mae’r rhaglen Cymunedau Creadigol, sy’n cael ei hariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a Dyniaethau (AHRC) UKRI, ac yn cael ei harwain gan Brifysgol Northumbria, wedi ymestyn ei gwobrau unigryw, Gwobrau Ymarferwyr Arloesi Cymunedol (CIP), ar gyfer cohort newydd yn 2025-26. Mae hyn yn cynrychioli buddsoddiad o bron i £500,000 er mwyn bod yn gatalydd i arloesi seiliedig ar le ym mhob un o’r 4 gwlad sy’n rhan o ecosystem ymchwil y DU.  

Mae rhaglen Cymunedau Creadigol AHRC yn edrych ar rôl diwylliant a datganoli er mwyn datgloi cyd-greu ar draws sectorau ac arloesi seiliedig ar le ym mhob un o 4 gwlad y DU.

Bydd deiliaid gwobrau CIP y garfan newydd yn ysgogi creadigrwydd yn eu rhanbarthau. Yng Nghymru, gyda chefnogaeth gan S4C, Mae’r prosiect “Newyddion i Bawb yn defnyddio arian cyfatebol sylweddol gan bartneriaid amrywiol yn y cyfryngau a’r llywodraeth i edrych beth mae ar gymunedau ei angen gan adrodd storïau sy’n darparu gwybodaeth. Mae’n gweithio gyda’r darlledwr i brototeipio, datblygu a phrofi atebion mewn amgylcheddau newyddiaduraeth yn y byd go iawn, er mwyn sicrhau gwell cysylltiad rhwng diwylliant, newyddion a chymunedau ledled Cymru. 

Bydd Newyddion i Bawb yn cael ei arwain gan yr Ymarferydd Arloesi Cymunedol, Shirish Kulkarni. Mae Shirish Kulkarni yn newyddiadurwr, ymchwilydd a threfnydd cymunedol – Cymrawd Ymchwil Arloesedd Newyddion yn Media Cymru ar hyn o bryd, a Sylfaenydd Newyddiaduraeth Gynhwysol Cymru.

Mae partneriaid y prosiect “Newyddion i Bawb” yn cynnwys: Y Dref Werdd (Dyffryn Ffestiniog), S4C, Cymru Greadigol, Inclusive Journalism Cymru, PDR, CellB (Blaenau Ffestiniog).  

Am y Gwobrau Ymarferwyr Arloesi Cymunedol 

Bydd yr ymarferwyr yn cynhyrchu gwybodaeth newydd hanfodol am gyd-greu a’r rôl unigryw a chwaraeir gan eu cymunedau a phartneriaethau mewn twf drwy ymchwil, datblygu ac arloesi newydd.   

Budd pob ymarferydd yn cynhyrchu astudiaeth achos, papur polisi a phennod o’r gyfres podlediad Cymunedau Creadigol i rannu’r hyn a ddysgwyd gan eu cymuned a phartneriaid diwylliannol. Gyda’i gilydd, bydd yr ymarferwyr yn ffurfio rhwydwaith Cymuned Ymarfer â’r nod o feithrin perthnasoedd newydd a rhannu ymarfer arloesol.   

Dyfarnwyd cyllid i chwe ymarferydd newydd mewn prosiectau amrywiol sy’n cynrychioli’r ymchwil gymunedol ac arloesi cynhwysol traws-sector cyfoethog sy’n gatalyddion twf ym mhob un o 4 gwlad y DU.

To find out about the other UKRI Community Innovation Practitioner Awards projects taking place in England, Nothern Ireland and Scotland, visit the Creative Communities website. 

Gair am Gymunedau Creadigol      

Mae Cymunedau Creadigol AHRC yn rhaglen ymchwil fawr, gwerth £3.9 miliwn, sydd wedi’i lleoli ym Mhrifysgol Northumbria yn Newcastle. Mae’n adeiladu sail dystiolaeth newydd ar sut y gall datganoli diwylliannol wella ymdeimlad o berthyn, mynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhanbarthol, cyflawni datganoli a chwalu rhwystrau sy’n atal cyfleoedd i gymunedau mewn lleoliadau datganoledig ym mhob un o bedair gwlad y DU.     

Gweler ynghlwm y datganiad i’r wasg llawn sy’n rhoi manylion am y cyhoeddiad hwn. I gael rhagor o wybodaeth gallwch hefyd ymweld â gwefan Cymunedau Creadigol.    

Am ragor o wybodaeth, ewch i’r wefan Cymunedau Creadigol.