Cysylltwch â Ni
Media Cymru
Sbarc, Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ
Cyhoeddwyd ar 30.01.2025
Partner consortiwm Media Cymru – Unquiet Media – lansio pecyn cymorth Exceptional Minds ar gyfer niwro-gynhwysiant yn y diwydiannau creadigol
Y mis hwn, mae Unquiet Media wedi lansio pecyn cymorth i hyrwyddo mwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o niwrowahaniaeth, a hyrwyddo ei derbyn yn y diwydiannau creadigol.
Mae Exceptional Minds – sy’n cynnwys canllaw gynhwysfawr a gwefan ryngweithiol – wedi’i anelu at fusnesau, sefydliadau a chyflogwyr yn y diwydiannau creadigol i helpu i ddatblygu mannau gwaith ac arferion mwy niwro-gynhwysol ar gyfer eu timau, gweithwyr, cydweithwyr, criw a gweithwyr llawrydd.
Mae ymchwil Unquiet Media yn defnyddio profiad byw cannoedd o bobl greadigol niwrowahanol ac anghenion sawl busnes sy’n ymwneud â’r cyfryngau.
Cymerwch gipolwg ar y pecyn cymorth drwy:
- Canllaw Cynhwysfawr
- Gwefan Ryngweithiol
- Animeiddiadau
- Ffilmiau Byr
- Templedi y gallwch chi eu lawrlwytho
- Canfyddiadau Ymchwil Cymunedau’r Cyfryngau Cymdeithasol
Dywedodd Rosie Higgins, Cyfarwyddwr Unquiet Media:
“Cafodd Exceptional Minds ei gysyniadu yn seiliedig ar brofiadau bywyd ac arbenigedd ein tîm i nodi a helpu i chwalu’r rhwystrau sy’n wynebu pobl niwroamrywiol yn y diwydiannau creadigol.
Mae’r tair blynedd diwethaf wedi cynnwys ymchwil helaeth, a chysylltu â sefydliadau ac elusennau blaenllaw – pob un wedi’i lywio gan ein tîm o ymgynghorwyr profiadau byw, seicoleg a sector y cyfryngau.
Rydyn ni wedi dylunio pecyn cymorth cynhwysfawr a oedd yn ystyried yr ymchwil a thystiolaeth o ran anghenion pobl greadigol niwroamrywiol yn ogystal â chyflogwyr a busnesau yn y sector i gynnig arweiniad pendant ar greu mannau mwy niwro-gynhwysol.
Gobeithiwn fod y canllawiau’n adnodd hygyrch a defnyddiol i fusnesau ddeall, gwerthfawrogi a chefnogi eu timau niwroamrywiol yn well.
Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i Media Cymru a’n cyllidwyr am ein cefnogi yn y gwaith pwysig hwn, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld ble mae hyn yn mynd.
Dyma ddyfodol mwy niwro-gynhwysol i’n sector creadigol.”
Nod y prosiect Media Cymru hwn yw helpu i feithrin diwydiannau creadigol mwy cynhwysol a theg ar gyfer unigolion niwrowahanol.
Gwnewch niwro-gynhwysiant yn adduned ar gyfer 2025.