Cysylltwch â Ni
Media Cymru
Sbarc, Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ
PLAYBACK.
Gŵyl Media Cymru i ddathlu arloesi yn dod i Gaerdydd ym mis Medi eleni.
PLAYBACK yw gŵyl Media Cymru i ddathlu arloesi. Mae’n dod i Gaerdydd ar 16 a 17 Medi 2026.
Penllanw blynyddoedd o gynnydd ac arloesi yn sector y cyfryngau fydd arddangosfa ddeuddydd epig yn cynnwys cyflwyniadau, paneli a phrofiadau ymdrochol yng nghanolfan y cyfryngau mwyaf y DU namyn dau.
Beth i’w ddisgwyl
Dros y pedair blynedd diwethaf, mae Media Cymru wedi buddsoddi miliynau o bunnoedd mewn cannoedd o brosiectau ymchwil a datblygu ledled Cymru. Bydd PLAYBACK yn arddangos y prosiectau hyn, gan ganiatáu ichi gael golwg ar y cynhyrchion, y gwasanaethau a’r profiadau chwyldroadol newydd sy’n cael eu creu gan sector y cyfryngau yng Nghymru.
Yn cael ei chynnal yn Tramshed, Tramshed Tech a lleoliadau eraill ledled y ddinas, bydd PLAYBACK yn cynnwys paneli, cyflwyniadau cyflym, areithiau a phrofiadau ymdrochol yn ymdrin â phynciau fel: cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn sector y cyfryngau, cynnwys digidol, cynaliadwyedd amgylcheddol, cyllid a’r technolegau diweddaraf.
Prif Areithiau
Gwybodaeth am docynnau
Methu dod i’r ddau ddiwrnod ond eisiau gwneud y mwyaf o’ch amser yn PLAYBACK?
Bydd ein rhaglen o ddigwyddiadau bob dydd yn cwmpasu gwahanol werthoedd Media Cymru gan edrych ar Gwyrdd a Theg ddydd Mercher (16) a Thwf a Byd-eang yn cael sylw ddydd Iau (17).
Mae tri math o docyn ar gael:
- Yr ŵyl gyfan (Dydd Mercher A Dydd Iau)
- Tocyn dydd Mercher YN UNIG
- Tocyn dydd Iau YN UNIG
Byddwn yn ychwanegu rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau ymylol gyda’r nos yn PLAYBACK felly cadwch lygad ar ein cyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol i weld sut i gymryd rhan ynddyn nhw.