string(50) "/cym/projects/amrywiaeth-ym-maes-cynhyrchu-teledu/" Skip to main content

Amrywiaeth ym maes Cynhyrchu Teledu

Gwella amrywiaeth ym maes Cynhyrchu Teledu yn Ne Cymru trwy recriwtio gweithlu sy’n adlewyrchu ein cymdeithas yn well.

Beth yw Amrywiaeth ym maes Cynhyrchu Teledu yn Ne Cymru?

Bwriad y prosiect hwn yw gwella amrywiaeth ym maes cynhyrchu teledu yn Ne Cymru trwy recriwtio gweithlu sy’n fwy cynrychioliadol o’n cymdeithas gan ganolbwyntio ar ddosbarth, hil ac anabledd.   

Mae Channel 4 yn:  

  • Gweithio gyda doniau yng Nghymru er mwyn herio a gwella eu ffyrdd o weithio  
  • Buddsoddi mewn sgiliau a chyfleoedd hyfforddiant i doniau yng Nghymru o ran datblygu sector mwy hygyrch a chynhwysol 
  • Comisiynu cynnwys arloesol newydd sy’n cynrychioli pobl a straeon Cymru.   

Prosiect Cyflymu Cynhwysiant gyda Gritty Talent  

Yn 2024, fe wnaeth Channel 4 (a BBC Cymru Wales) gefnogi Gritty Talent a Phrifysgol De Cymru i wneud Prosiect Cyflymu Cynhwysiant. Roedd y rhaglen wedi arwain hyfforddiant cynhwysol ar arweinyddiaeth i fusnesau’r sgrîn yng Nghymru er mwyn rhoi hwb mawr i’w gweithgareddau’n ymwneud ag amrywiaeth a chynhwysiant.  

Canolfan Ddarlledu Cymru – ffrydio'n fyw o Gaerdydd yn ystod y gemau Paralympaidd  

Ar y cyd â Gemau Paralympaidd 2024, roedd Channel 4 a Media Cymru wedi cefnogi’r cwmni cynhyrchu Whisper i greu cyfleuster cynhyrchu o bell cynhwysol a chynaliadwy yng Nghaerdydd. Fe wnaeth Channel 4 ffrydio mwy na 1,300 awr o gynnwys byw o’r Gemau Paralympaidd, a hynny o Ganolfan Ddarlledu Cymru newydd.    

Ar y cyd, fe wnaeth Media Cymru a Channel 4 ariannu gwaith ymchwil a datblygu ynghylch hygyrchedd mewn cynyrchiadau byw gyda The Ability People. Y gobaith yw bod yn astudiaeth achos i gyfleusterau technegol eraill ei defnyddio fel arfer gorau ac i rannu canfyddiadau.  

Dysgwch am Amrywiaeth ym maes Cynhyrchu Teledu 

Amrywiaeth ym maes Cynhyrchu Teledu

“Bydd cael cyfleuster cynhyrchu o bell hygyrch yn creu cyfleoedd i bobl anabl yng Nghymru a thu hwnt…”

Cyfweliad gyda Pete Andrews, Pennaeth Chwaraeon Channel 4. Mae Canolfan Ddarlledu Cymru newydd sbon Whisper TV bellach yn weithredol ac yn ffrydio’n fyw o Gaerdydd yn ystod y Gemau Paralympaidd.

Rhagor o wybodaeth