string(39) "/cym/projects/cronfa-arloesedd-cynnwys/" Skip to main content

Cronfa Arloesi Cynnwys

Galluogi cwmnïau cynhyrchu yng Nghymru i ddatblygu ac ymchwilio i gynnwys arloesol i’w gomisiynu ac a fydd wrth fodd cynulleidfaoedd ledled Cymru a thu hwnt. 

Beth yw Cronfa Arloesi Cynnwys y BBC?  

Mae Cronfa Arloesi Cynnwys y BBC yn cynnig amser ac adnoddau pwrpasol i gwmnïau annibynnol ymchwilio i ffyrdd arloesol o gynhyrchu cynnwys, gan gynnwys fformatau, dulliau creu neu ddulliau cyflwyno newydd.   

Uchelgais y gronfa yw sicrhau bod ymchwil, datblygu ac arloesi wrth wraidd gwaith cynhyrchu cyfryngau yng Nghymru.  

Cronfa Arloesi Cynnwys 2022-23 

Mae dau gam i Gronfa Arloesi Cynnwys y BBC:

Cafodd dau gwmni yng Nghymru hyd at £50,000 i ddatblygu syniad uchelgeisiol ac arloesol. Roedd y syniadau ar gyfer cynnwys ffeithiol a fyddai’n apelio i gryn raddau at gynulleidfaoedd BBC One Wales ac iPlayer.  

Sut weithiodd  

Roedd dau gam dan sylw:  

  • Cam Un– ymchwil a datblygu – dan arweiniad Media Cymru yn 2022/23  
  • Cam Dau – comisiynu – dan arweiniad BBC Cymru Wales yn 2023  

Gwnaeth yr ymgeiswyr llwyddiannus waith ymchwil a datblygu ar gyfer syniad newydd am hyd at chwe mis. Cafodd cwmnïau eu paru ag arbenigwyr mewn arloesi a dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr i gynorthwyo â’r broses ymchwil a datblygu.  

Cronfa Arloesi Cynnwys (Cylch Dau) 2024-25

Yn ystod ail gylch Cronfa Arloesi Cynnwys y BBC, cafodd pum cwmni cynhyrchu yng Nghymru hyd at £20,00 i ddatblygu syniadau arloesol ar gyfer cynnwys ar yr hinsawdd.   

Roedd y syniadau’n benodol i genres megis drama, adloniant a chomedi, a fyddai’n apelio’n fawr at gynulleidfa BBC One Wales neu ei rwydwaith.     

Sut weithiodd  

Gwnaeth yr ymgeiswyr llwyddiannus waith ymchwil a datblygu ar gyfer syniad newydd am hyd at dri mis. Aethon nhw i Ddiwrnod Gwybodaeth i gael gwybod am strategaeth Climate Creatives y BBC a hefyd i drafod safbwyntiau gwyddonol ar newid yn yr hinsawdd a chael cipolwg ar sut mae cynulleidfaoedd amrywiol yn ymateb i gynnwys ar yr hinsawdd.    

Gallai prosiectau ymchwil a datblygu beri i’r BBC gomisiynu syniad ar gyfer rhaglen.

Dysgwch am Gronfa Arloesi Cynnwys y BBC 

Cronfa Arloesi Cynnwys

BBC Cymru Wales a Media Cymru yn buddsoddi £100,000 mewn prosiectau Ymchwil a Datblygu ar gyfer cynnwys hinsawdd arloesol  

Mae BBC Cymru Wales a Media Cymru wedi dyfarnu hyd at £20,000 yr un i bum cwmni cynhyrchu i ymchwilio a datblygu syniadau sy’n adrodd straeon arloesol am yr argyfwng hinsawdd.  

Rhagor o wybodaeth
cynulleidfa yn gwylio pedwar o bobl ar banel

Hydref 2024: BBC Cymru Wales a Media Cymru yn cyhoeddi Cronfa Arloesi Cynnwys yn ymwneud â’r hinsawdd

Mae rownd ariannu 2024 ar gyfer cwmnïau cynhyrchu yng Nghymru i ymchwilio, datblygu a chomisiynu cynnwys sy’n cael ei sbarduno gan arloesedd er mwyn ymgysylltu cynulleidfaoedd ag argyfwng yr hinsawdd ledled Cymru a thu hwnt.

Rhagor o wybodaeth
Cronfa Arloesi Cynnwys

Mirth 2023: Gwaith yn dechrau ar brosiectau Cronfa Arloesi Cynnwys BBC Cymru Wales a Media Cymru

Mae Little Bird Films a Boom Cymru wedi cael y grantiau cyntaf i brofi a gweithredu technolegau arloesol yn eu gwaith cynhyrchu cynnwys.

Rhagor o wybodaeth