string(42) "/cym/research/arolwg-gweithlu-sgrin-cymru/" 13393477 Skip to main content
Research

Published on: 4 Medi 2024

Arolwg Gweithlu Sgrîn Cymru

Mae tîm Media Cymru ym Mhrifysgol De Cymru yn falch o gyhoeddi yr arolwg cyntaf Cymru gyfan yn asesu sgiliau, anghenion hyfforddi, agweddau a phrofiad y rhai sy’n gweithio ar draws y sector sgrin.

Mae’r sector sgrin yng Nghymru yn arwyddocaol yn economaidd ac yn ddiwylliannol. Mae gan Gymru sector sefydledig a gweithlu medrus, fodd bynnag, er mwyn cynnal y sector pwysig hwn mae angen inni feithrin talent newydd ochr yn ochr â chefnogi a chadw ein gweithlu presennol. Er mwyn cyflwyno rhaglen sgiliau arloesol, yn gyntaf mae angen i ni ddeall naws y sector sgrin yng Nghymru o safbwyntiau’r rhai sy’n gweithio ynddo.

Mae’r adroddiad hwn yn cymryd agwedd gyfannol at y sector sgrin gan amlygu’r amrywiaeth o rolau ac is-sectorau gan gynnwys y rhai sy’n gweithio ym myd teledu, ffilm, ôl-gynhyrchu, gemau, animeiddio a chynhyrchu masnachol. Fel ffordd o nodi patrymau allweddol yn ein data, mae dull thematig wedi’i fabwysiadu sy’n canolbwyntio ar dair thema allweddol, sef nodweddion gweithlu Cymru, sgiliau a

hyfforddiant a newid diwylliant. Archwilir y themâu hyn mewn perthynas â sawl newidyn gan gynnwys oedran, rhyw, ethnigrwydd ac hygyrchedd.

Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi helpu i lunio a chyflwyno’r ymchwil hwn gyda diolch arbennig i’r rhai a roddodd o’u hamser i gwblhau ein harolwg – hebddynt ni fyddai’r adroddiad hwn yn darparu mewnwelediad mor gyfoethog.

Arolwg Gweithlu Sgrîn Cymru