string(119) "/cym/research/call-for-papers-media-cymru-conference-and-showcase-2026-innovation-in-the-media-and-creative-industries/" Skip to main content
Research

Published: 8 Rhagfyr 2025

Authors:

Galwad am Bapurau: Cynhadledd ac Arddangosfa Media Cymru 2026 (Arloesedd yn y cyfryngau a’r diwydiannau creadigol)

Menyw yn cymryd nodiadau

Wedi’i threfnu gan Ganolfan i’r Economi Greadigol Prifysgol Caerdydd, bydd Cynhadledd ac Arddangosfa Media Cymru’n taflu goleuni ar ymchwil ac arloesi yn y diwydiannau cyfryngau a chreadigol, gyda ffocws ar eu gwneud yn wyrddach, yn decach, yn gysylltiedig yn fyd-eang ac yn economaidd gynaliadwy.

Rydyn ni’n gwahodd pob ymchwilydd a gweithiwr proffesiynol i gyflwyno eu gwaith academaidd sy’n archwilio dulliau o arloesi yn y diwydiannau cyfryngau a chreadigol a’u dadansoddi mewn ffyrdd sy’n gallu llywio ymarfer a pholisi yn y dyfodol. Rydyn ni’n croesawu amrywiaeth eang o bynciau.

Trosolwg: Themâu a Phynciau’r Gynhadledd 

Dylai ceisiadau gyd-fynd ag (o leiaf un o’r) pedair thema: Twf, Gwyrdd, Teg, Byd-eang. Mae’r themâu hyn yn adlewyrchu pedwar piler strategol:

  • Gwyrdd – Cynaliadwyedd Amgylcheddol (ymchwil i rôl y cyfryngau wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd)
  • Teg – Diwydiannau Creadigol Cynhwysol a Theg (ymchwil yn hyrwyddo sector cyfryngau teg ac amrywiol)
  • Byd-eang – Cydweithrediad a Chyrhaeddiad Rhyngwladol (ymchwil i ehangu effaith a chysylltiadau byd-eang diwydiannau, cwmnïau neu ecosystemau rhanbarthol creadigol)
  • Twf – Datblygu Economïau Creadigol (ymchwil yn sbarduno twf economaidd drwy ymchwil, datblygu ac arloesedd yn y cyfryngau).

Nid yw’r pynciau hyn yn gynhwysfawr. Rydyn ni’n croesawu cynigion sy’n ystyried datblygu gweithlu’r cyfryngau a chyflwyniadau gyda ffocws ar fethodolegau Ymchwil a Datblygu ac ymchwil sy’n seiliedig ar ymarfer sy’n cyd-fynd yn agos ag anghenion ac ymgysylltiad y diwydiant.

Rydyn ni hefyd yn gwahodd ymchwilwyr ôl-raddedig ac ymchwilwyr sydd ar ddechrau eu gyrfa i gyflwyno papurau ar gyfer sesiwn arbennig ar ddyfodol ymchwil y Diwydiannau Creadigol.

Am fanylion llawn ar bob thema a phwnc, ewch i Borth Cyflwyno Frontiers in Communication.

Cyflwyno 

Gwahoddir awduron i gyflwyno crynodebau hyd at 500 o eiriau (heb gynnwys cyfeirnodau) erbyn 30 Ionawr 2026 (dyddiad cau newydd)

Cyflwynwch drwy borth cyflwyno Frontiers in Communication.

Lleoliad 

Prifysgol Caerdydd, Caerdydd, Cymru, DU (wyneb yn wyneb) 

Rhagor o fanylion yma