string(52) "/cym/research/ffocws-ar-weithwyr-llawrydd-arloesedd/" Skip to main content
Research

Published: 18 Mehefin 2025

Authors: Bethan Jones, James Davies, Richard Hurford

Ffocws ar Weithwyr Llawrydd: Arloesedd

Llawrydd yn dal camera fideo yn erbyn cefndir brics glas

Cyhoeddwyd: James Davies, Bethan Jones a Richard Hurford. Ffocws ar Lawryddion Media
Cymru: Arloesedd
, (Caerdydd: Media Cymru, 2025)

“Mae datblygiadau arloesol… yn gallu darparu buddion enfawr i bob maes o’r broses gynhyrchu honno, ond gall mynd ar drywydd datblygiadau mewn technoleg dim ond er mwyn technoleg arwain at ganlyniadau niweidiol hefyd, yn enwedig ar setiau sgiliau gweithwyr llawrydd, sy’n gyfrifol am gadw i fyny â chyflymder y newid ar eu pennau eu hunain, heb unrhyw seilwaith hyfforddi cadarn i’w cefnogi.”

Summary
Ceir nifer mawr o ddehongliadau ar gyfer y cysyniad o ‘arloesedd’ ymhlith gweithwyr llawrydd y sector sgrin. Ni ddeellir y cysyniad yn llawn bob amser, ond fe’i dehonglir i raddau helaeth fel cynnyrch a phroses.

Capasiti cyfyngedig sydd gan weithwyr llawrydd y sector sgrin i gymryd rhan yn y broses o ddatblygu cynhyrchion arloesol a gweithgaredd Ymchwil a Datblygu ac, yn aml, nid oes ganddynt lawer o ymreolaeth i ddechrau prosesau arloesol gan weithio mewn amgylchedd gwaith sy’n seiliedig ar brosiect.

Yn aml, mae cyflwyno cynhyrchion arloesol yn hwyluso addasiadau mewn llifoedd gwaith, gan ganiatáu datblygiadau arloesol ar raddfa fach o ddydd i ddydd ar ffurf datrys problemau, ond yn anaml iawn y mae gweithwyr llawrydd eu hunain yn arloeswyr, yn hytrach buddiolwyr y datblygiadau arloesol sy’n deillio o’r sector technoleg.

Gall cyflwyno cynhyrchion a phrosesau arloesol arwain at ganlyniadau bwriadol ac anfwriadol, ac nid yw’r canlyniadau hyn yn gadarnhaol bob amser. Mae pryderon yn cynnwys gostyngiad yn ansawdd y cynhyrchu, newid yn y setiau sgiliau a ddymunir yn sgil dyfodiad deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol, materion yn ymwneud ag Eiddo Deallusol ac y bydd swyddogaethau presennol yn cael eu hawtomeiddio.

Mae goblygiadau o ran sgiliau a hyfforddiant i weithwyr llawrydd yn y sector i’r canfyddiadau hyn, a’r angen i sicrhau bod gan weithwyr llawrydd y rhanbarth well capasiti amsugnol i reoli cyflwyniad arloesedd o’r fath.

Mae angen cydnabod cyfraniad posibl cyfran llawrydd y gweithlu Teledu a Ffilm, ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd ac yn ehangach, fel gweithlu medrus sy’n gallu cymhwyso cynhyrchion arloesol yn effeithiol, yn hytrach na ffynhonnell sylweddol o weithgarwch Ymchwil a Datblygu.

Darllenwch yr adroddiad