string(79) "/cym/research/rhoi-tystiolaeth-ar-ymchwil-a-datblygu-yng-nghymru-tachwedd-2023/" Skip to main content
Research

Published on: 9 Mai 2024

Rhoi tystiolaeth ar Ymchwil a Datblygu yng Nghymru, Tachwedd 2023

Yr Athro Justin Lewis yn rhoi cyflwyniad

Cyfrannodd yr Athro Justin Lewis gyngor arbenigol ar waith Media Cymru at ymgynghoriad Ymchwil a Datblygu’r Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig, sydd wedi’i sefydlu gan y Senedd i archwilio polisi a deddfwriaeth ac i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn atebol mewn meysydd penodol. Mae’r meysydd hyn yn cynnwys busnes, datblygu economaidd, sgiliau, masnach rhyngwladol, amaeth, pysgodfeydd a bwyd.

Cynhaliodd y Pwyllgor ymchwiliad bras er mwyn asesu sefyllfa bresennol y dirwedd ymchwil, datblygu ac arloesedd yng Nghymru ac effeithiolrwydd:

  • Ariannu cyhoeddus: gan gynnwys lefelau ariannu; rhwystrau mynediad; gwahaniaethau rhanbarthol ledled y DU a Chymru
  • Cydweithio: rhwng prifysgolion a’r diwydiant
  • Cefnogaeth i fusnesau Cymru: drwy ymchwil a datblygu
  • Dull gweithredu Llywodraeth Cymru: gan gynnwys ei Strategaeth Arloesedd diweddar

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar lafar gan randdeiliaid ar 30 Tachwedd 2023, a chyhoeddodd ei adroddiad ar Ymchwil a Datblygu ym mis Mai 2024.

Darllenwch yr adroddiad