string(42) "/cym/research/rol-rhwydweithiau-creadigol/" Skip to main content
Research

Published on: 22 Awst 2023

Deall Rôl Rhwydweithiau Creadigol ar gyfer y Diwydiannau Diwylliannol a Chreadigol: Achos Caerdydd Creadigol

Collage digidol yn dangos delweddau ac eiconau rhyng-gysylltiedig, yn symbol o dechnoleg, cyfathrebu, a chysylltedd byd-eang â symbolau arian cyfred a rhyngwynebau digidol amrywiol.

“Nid yw rhwydweithiau creadigol yn newydd i ddinasoedd a rhanbarthau’r DU, ond mae ystod o fentrau newydd a sefydlwyd yn ddiweddar wedi ennyn diddordeb mewn rhwydweithiau o’r fath, a’r angen amdanynt… mae rhwydweithiau o’r fath yn creu buddion i weithwyr a sefydliadau, ac maen nhw’n hollbwysig o ran cynnal a datblygu eu hecosystemau lleol.”

Er bod effaith y diwydiannau diwylliannol a chreadigol (CCI) wedi’i chydnabod yn helaeth o ran llywio arloesedd a chreu cyfoeth, nid yw’r ffordd maen nhw’n trefnu eu hunain i greu gwerth wedi’i ymchwilio’n ddigonol. Mae diddordeb cynyddol mewn deall ‘ecosystemau’, effeithiau anuniongyrchol a ‘rhwydweithiau’ CCI, sydd wedi rhoi ffocws o’r newydd ar ddulliau gweithredu, perthnasoedd a phatrymau gwahanol yn y sector.
Yn y bennod hon, rydym yn canolbwyntio ar rwydweithiau creadigol fel sefydliadau sy’n unigryw i’r CCI. Rydyn ni’n diffinio rhwydweithiau creadigol fel rhwydweithiau cyfundrefnol (weithiau fel endidau cyfreithiol eu hunain, weithiau fel rhan o sefydliad arall) sydd â phobl ymroddedig sy’n gweithio i helpu’r rhwydwaith creadigol greu cydweithrediad a/neu twf yn y CCI lleol/rhanbarthol. Mae rhwydweithiau fel hyn yn fentrau seiliedig ar le, gyda’r gallu i ddod â phobl at ei gilydd mewn amser real.

 

Darllenwch y pennod