Cysylltwch â Ni
Media Cymru
Sbarc, Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ
Published on: 2 Mai 2023
Y Berthynas rhwng Rhinweddau Cadarn ac Agweddau at Amrywiaeth

“Gall cwmnïau llai sy’n fwy ifanc ac arloesol fod yn fwy parod i dderbyn polisïau EDI na chwmnïau mwy a hynach oherwydd eu hagweddau gwahanol at gynhwysiant”
Gall agweddau cwmnïau creadigol tuag at faterion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (“EDI”) effeithio’n sylweddol ar eu parodrwydd i noddi a gweithredu mesurau effeithiol yn y maes. Felly, mae’n hanfodol archwilio’r rhinweddau cadarn sy’n hawdd eu mesur, a allai ddylanwadu ar yr agweddau hyn. Rydym wedi casglu ystod eang o ddata ar bron i 330 o fusnesau creadigol. Mae ein hymchwiliad empirig yn sefydlu patrwm cadarn a diamwys.
Mae’n dangos bod cwmnïau mwy sefydledig yn tueddu i beidio â gweld diffyg cynrychiolaeth neu wahaniaethu rhwng pobl â nodweddion gwarchodedig amrywiol yn broblematig. Ar y llaw arall, mae cyw gwmnïau sy’n arloesol ac effeithlon yn systematig yn fwy tebygol o ystyried y materion hyn yn bwysig. Mae’r canfyddiadau hyn yn unol â chasgliadau llenyddiaeth flaenorol, oedd yn dibynnu’n bennaf ar dystiolaeth anecdotaidd. Mae’r patrymau a nodwyd gennym yn awgrymu bod angen i bolisïau ac argymhellion EDI gael eu teilwra i union rinweddau’r cwmni sy’n eu gweithredu.