string(53) "/cym/research/y-diwydiannau-creadigol-a-diwylliannol/" Skip to main content
Research

Published on: 21 Mehefin 2023

Y Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol: Tuag at Gynaliadwyedd ac Adferiad

Golygfa o Ganolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd, gyda'i chromen lliw efydd a cherdd mewn llythrennau anferth.

“Mae’r erthyglau hyn, ymhlith rhai eraill, yn cynnig safbwyntiau amrywiol ar CCIau, gan ddarparu mewnwelediadau gwerthfawr i ymchwilwyr, llunwyr polisïau ac ymarferwyr fel ei gilydd.”

Ry’n ni’n falch iawn o gyflwyno’r Rhifyn Arbennig hwn o Sustainability, gyda’r teitl: “The Creative and Cultural Industries: Towards Sustainability and Recovery” (“Y Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol: Tuag at Gynaliadwyedd ac Adferiad”). Dros y degawdau diwethaf, mae’r diwydiannau creadigol a diwylliannol (CCI) wedi cael eu cydnabod fwyfwy am eu rôl mewn economïau lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a chydwladol; fel gyrwyr twf, datblygiad ac adfywiad economaidd; ac am eu heffeithiau cymdeithasol a diwylliannol ar les, creu lleoedd, cynhwysiant, cynaliadwyedd, amrywiaeth a diwylliant.
Ar y llaw arall, mae argyfwng COVID-19 wedi amlygu bregusrwydd ac ansicrwydd diwydiant yn llawn micro-fusnesau, arferion gwaith llawrydd ac anffurfiol ac asedau diriaethol prin. Mae hyn wedi codi cwestiynau am gynaliadwyedd modelau economaidd yn seiliedig ar ansicrwydd sylweddol mewn arferion cyflogaeth. Mae hyn wedi arwain at rai ymdrechion (gan lywodraethau a chyrff cyhoeddus) i amddiffyn y diwydiant rhag effaith y pandemig. Ar yr un pryd, mae’r cyfnodau clo hefyd wedi amlygu pwysigrwydd gweithgarwch creadigol wrth gynnal lles unigolion a gwydnwch cymunedol, a photensial arloesol y diwydiant hwn.

 

Darllenwch y cyhoeddiad