Customize Consent Preferences

We use cookies to help you navigate efficiently and perform certain functions. You will find detailed information about all cookies under each consent category below.

The cookies that are categorized as "Necessary" are stored on your browser as they are essential for enabling the basic functionalities of the site. ... 

Always Active

Necessary cookies are required to enable the basic features of this site, such as providing secure log-in or adjusting your consent preferences. These cookies do not store any personally identifiable data.

No cookies to display.

Functional cookies help perform certain functionalities like sharing the content of the website on social media platforms, collecting feedback, and other third-party features.

No cookies to display.

Analytical cookies are used to understand how visitors interact with the website. These cookies help provide information on metrics such as the number of visitors, bounce rate, traffic source, etc.

No cookies to display.

Performance cookies are used to understand and analyze the key performance indexes of the website which helps in delivering a better user experience for the visitors.

No cookies to display.

Advertisement cookies are used to provide visitors with customized advertisements based on the pages you visited previously and to analyze the effectiveness of the ad campaigns.

No cookies to display.

string(75) "/cym/s4c-a-media-cymru-yn-ymuno-mewn-prosiect-dyfodol-digidol-uchelgeisiol/" 40904104 Skip to main content
int(4090) 40904104
News

Cyhoeddwyd ar 18.11.2024

S4C a Media Cymru yn ymuno mewn prosiect dyfodol digidol uchelgeisiol

Mae S4C a Media Cymru wedi cyhoeddi’r prosiect ymchwil a datblygu mwyaf uchelgeisiol yn hanes S4C.

Y prosiect

Bydd yn archwilio dyfodol cynulleidfaoedd S4C, ei dosbarthiad a’i amlygrwydd darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn yr oes ddigidol. Nod y sianel yn y pen draw yw sicrhau bod ei chynnwys Cymraeg yn hawdd ei ddarganfod yng Nghymru a ledled y DU.

Gan weithio gyda Media Cymru, bydd y prosiect yn rhoi hwb sylweddol i waith ymchwil presennol y sianel, yn darparu cyngor arbenigol a buddsoddiad mewn talent fewnol i helpu i ddatblygu strategaeth ddigidol gadarn sy’n addas ar gyfer y dyfodol.

Arweinir y prosiect gan Laura Franses, Cyfarwyddwr Gweithgareddau Masnachol S4C, mewn cydweithrediad â Sarah Tierney o Tierney Consulting a Lydia Fairfax o Triple Crown Consulting.

Nodau’r prosiect

Yn oll, bydd y prosiect, o’r enw ‘Trawsnewid Dyfodol Digidol S4C’ ac yn rhedeg tan fis Rhagfyr 2025 yn:

  • cynnal ymchwil cynulleidfa a marchnad wedi’i thargedu ac sy’n benodol i S4C
  • gwerthuso’r ymchwil hwnnw i ddatblygu a chytuno ar fapiau newydd ar gyfer cyrhaeddiad yn y dyfodol
  • archwilio partneriaethau i gynyddu cynulleidfa S4C.

Wrth gyhoeddi’r prosiect, dywedodd Prif Weithredwr dros dro S4C, Sioned Wiliam:

“Mae’r prosiect hwn yn dod ar foment dyngedfennol yn ein hanes, ar y cyd â Deddf y Cyfryngau 2024. Mae’n cynnig cyfle digynsail i ni ym myd darlledu cyhoeddus i wneud cynnwys S4C yn hawdd ei ddarganfod i gynulleidfa ehangach ac ar lwyfannau lluosog.”

Dywedodd yr Athro Justin Lewis, Cyd-gyfarwyddwr Media Cymru:

“Mae ein cydweithrediad ag S4C yn foment drobwynt i’r sianel, sydd wedi ymrwymo i archwilio ystod lawn o lwybrau digidol i ddiogelu ei dyfodol a sicrhau bod ei chynnyrch yn ddarganfyddadwy ar gyfer ystod o gynulleidfaoedd newydd ar draws y DU a thu hwnt.

“Bydd ‘Trawsnewid Dyfodol Digidol S4C’ yn darparu dadansoddiadau a mewnwelediadau arbenigol i amlinellu strategaeth ddigidol newydd ar gyfer y dyfodol ac yn helpu i sicrhau bod arloesedd cyfryngau yma yng Nghymru yn cael ei hybu gan dwf economaidd teg a gwyrdd.”

Bydd diweddariadau pellach ar y prosiect yn cael eu cyhoeddi maes o law.