string(96) "/cym/s4c-yn-lansio-miwsig-prosiect-cronfa-datblygu-media-cymru-gyda-gig-rhithiol-gyntar-gymraeg/" Skip to main content
int(4931)
News

Cyhoeddwyd ar 01.08.2025

S4C yn lansio Miwsig – prosiect Cronfa Datblygu Media Cymru – gyda gig rhithiol gynta’r Gymraeg

S4C Miwsig

Ar noswyl yr Eisteddfod Genedlaethol mae S4C yn falch o lansio llwyfan cerddoriaeth newydd – Miwsig. Bydd Miwsig yn gartref deinamig ar gyfer cerddoriaeth gyfoes o Gymru, gan rannu a dathlu talent gerddorol o bob cwr o’r wlad.

Gan roi golwg gyntaf ar Miwsig, gall S4C ddatgelu y bydd dwy gyfres a fodcast yn rhan o’r gwasanaeth newydd. Elan Evans – y cyflwynydd a DJ o Gaerdydd fydd yng ngofal y fodcast newydd, Maes Fi, gyda Molly Palmer ac Ifan Davies yn westeion. Y DJ o’r Cymoedd Molly Palmer fydd yn cyflwyno Stiwdio 247 – cyfres ffres sy’n dod a’r diweddaraf o’r sîn i’r sgrîn. Ac Ifan Siôn Davies, prif leisydd y band Sŵnami o Ddolgellau fydd yn gwahodd wynebau adnabyddus y wlad i ddewis eu tair hoff gân ar 3 Cân.

I nodi lansiad Miwsig, bydd S4C yn cynnal y gig rhithiol (immersive reality) gynta yn y Gymraeg ar ddydd Sadwrn ola’r Eisteddfod yn Wrecsam (9 Awst) am 4pm gyda Dom a Lloyd.

Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal gan Condense, cwmni arloesol sy’n arbenigo mewn digwyddiadau byw rhyngweithiol, ac mae’n rhan o brosiect ymchwil a datblygu S4C ar gyfer Cronfa Datblygu Media Cymru, sy’n anelu i arloesi fformatau ac ymgysylltu â gwylwyr iau. Mae S4C hefyd yn rhan o gynllun ehangach fel partner yn y Consortiwm ar gyfer Media Cymru i hybu arloesedd yn sector Cyfryngau Cymru.

Gall unrhyw un ymuno gyda’r gig, er gwaetha’r ffaith y bydd yr artistiaid yn perfformio ar ben eu hunain mewn stiwdio.  Bydd camerâu darlledu yn dal y perfformiad, a’i ryddhau’n uniongyrchol i ddefnyddwyr mewn gofod rhithwir ar ffurf hologramau gan ddefnyddio deallusrwydd artiffisial.

I ymuno â’r gig a mwynhau perfformiad byw Dom a Lloyd, y cwbl sydd rhaid ei wneud yw dilyn dolen ar www.s4c/miwsig neu gôd QR, a chreu avatar. Bydd Dom a Lloyd hefyd yn gallu gweld a siarad gyda’r gynulleidfa.

Condense yw’r cwmni datblygu meddalwedd sy’n gyfrifol am greu’r digwyddiad. Bydd modd ymuno â’r gig ar unrhyw ffôn, dabbled neu gluniadur gyda chysylltiad i’r we o unrhyw le yn y Deyrnas Unedig, a does dim tâl mynediad. Rhaid bod dros 13 oed i gael mynediad.

Meddai Beth Angell, Pennaeth Adloniant S4C:

“Rydym yn falch o lansio llwyfan newydd ar gyfer cerddoriaeth gyfoes o Gymru, gan roi cyfle i fandiau ac artistiaid gyrraedd cynulleidfa ehangach. Bydd Miwsig yn arddangos egni, creadigrwydd ac amrywiaeth y sîn gerddorol yng Nghymru heddiw.

“Roedden ni’n awyddus i lansio Miwsig gyda digwyddiad gwahanol, modern a hygyrch felly be  well na gig IR gynta’r iaith Gymraeg? Y cwbl sydd angen ei wneud yw dilyn dolen neu gôd QR, a mwynhau’r miwsig.”

Dyma fydd gig rithiol gyntaf Dom a Lloyd hefyd ers iddyn nhw ddechrau perfformio  gyda’i gilydd yn 2017.

Meddai Dom a Lloyd:

“Mae hi’n fraint mawr i gael y cyfle i wneud rhywbeth mor arloesol sydd heb ei wneud yn y Gymraeg o’r blaen. Rydym ni’n edrych mlaen at y sesiwn ac yn gobeithio bydd llawer o bobl yn ymuno gyda ni i rannu’r vibe a’r hwyl.

Bydd cynnwys Miwsig yn dechrau darlledu ar draws platfformau S4C yn yr hydref.