string(118) "/cym/sioe-gem-newydd-feiddgar-yn-cael-ei-darlledu-ar-s4c-wedii-chynhyrchu-gan-slam-media-gyda-chefnogaeth-media-cymru/" Skip to main content
int(5250)
News

Cyhoeddwyd ar 26.11.2025

Sioe gêm newydd feiddgar yn cael ei darlledu ar S4C, wedi’i chynhyrchu gan Slam Media gyda chefnogaeth Media Cymru

Colorful game show set with neon lights, large dice decorations, and “Y DEIS” displayed on the backdrop.

Aeth Media Cymru i wylio ffilmio y sioe gêm newydd sbon Cymraeg yn ddiweddar, sydd ar fin newid arlwy nos Fercher ar S4C – Y Deis (The Dice) gan Slam Media.

Wedi’i chynhyrchu gan Slam Media, mae Y Deis yn barod i gyflwyno cyfuniad cyffrous o wybodaeth gyffredinol, strategaeth… a rhywfaint o lwc. Datblygwyd y fformat Cymraeg gwreiddiol gyda chefnogaeth cyllid Ymchwil a Datblygu Media Cymru.  

Nid sioe gwis arferol yw hon. Bydd tri thîm o ddau (ffrindiau, teulu, cydweithwyr) yn wynebu ei gilydd dros sawl rownd, gan gronni eu pot trwy feddwl yn gyflym a thactegau clyfar. Ond dim ond un tîm sy’n ennill y cyfle i gyrraedd y rownd derfynol – sy’n ras ddramatig yn erbyn y cloc i gipio’r jacpot. Y tro annisgwyl? Y deis – peiriant a all newid y gêm mewn eiliad. 

Crëwyd y fformat gan Gavin Cox o Slam Media, a gafodd ei ysbrydoli gan yrfa ei ddiweddar dad yn dylunio gemau peiriannau ffrwyth – tarddiad perffaith ar gyfer cwis sydd yn seiliedig ar sgil a siawns. Y peiriant deis ei hun yw canolbwynt gweledol y rhaglen, sydd yn ychwanegu elfen theatrig i’r chwarae. 

Mae Y Deis yn gydweithio Celtaidd nodedig. Mae’r darlledwr Gwyddelig TG4 eisoes wedi caffael y fformat i greu An Deis, eu fersiwn Gwyddeleg eu hunain, sydd hefyd wedi’i ffilmio yng Nghaerdydd. 

Dywedodd Gavin Cox, Fformat ac Uwch Gynhyrchydd y Gyfres Slam Media:

“Cefais fy magu yn gwylio fy nhad yn creu gemau sy’n wirioneddol gysylltiedig â phobl, ac rydw i wedi gobeithio cyflawni’r un peth ers amser maith. Diolch i’r gefnogaeth gan Media Cymru ac arweiniad PDR, rwyf wedi gallu troi’r uchelgais honno yn rhywbeth go iawn.” 

Game show set with neon lights, a podium with a man smiling by it, and a large screen displaying ‘Y DEIS’

Eglura’r cyflwynydd James Williams: 

“Dyma raglen gwis sydd, yn y bôn, yn gwis gwybodaeth gyffredinol ond mae’r deis yn ychwanegu elfen o lwc a strategaeth a hynny yn gallu newid pethau. Felly mae angen y gallu i ennill y cwis ond hefyd mae pethau yn gallu newid yn eithaf cyflym achos tafliad y deis, felly ti byth cweit yn siŵr pwy sy’n mynd i ennill.” 

Mae James yn credu mai’r hyn sy’n gwneud Y Deis yn arbennig yw ei apêl eang: 

“Mae’n rhaglen i bawb. Mae hefyd yn ddiddorol o ran y cystadleuwyr gyda thraws doriad o bobl o bob oedran a dwi’n meddwl bydd cynulleidfa o bob oedran yn gallu ei mwynhau.” 

Ar ben hyn i gyd gall gwylwyr hefyd edrych ymlaen at ddau rifyn Nadolig arbennig, llawn hwyl a chystadleuaeth ffyrnig ymysg rhai o wynebau mwyaf cyfarwydd a phoblogaidd S4C. 

Diolch Slam Media am ein gwahodd ni! Edrychwn ymlaen at ei wylio. Gwyliwch S4C ar nos Fercher am 8:25pm (o 26 Tachwedd). Cewch wylio ar alw ar S4C Clic ac iPlayer hefyd.   

Ewch i wefan S4C i gael rhagor o wybodaeth am y sioe a beth i’w ddisgwyl.