string(92) "/cym/spotlight-on-digital-innovation-as-media-cymru-partner-with-bbc-cymru-wales-to-fund-rd/" Skip to main content
int(5355)
News

Cyhoeddwyd ar 10.02.2026

Sylw ar arloesedd digidol wrth i Media Cymru bartneru â BBC Cymru Wales i ariannu Ymchwil a Datblygu

“People sit in a BBC event space watching a presenter speak in front of a screen displaying charts.

Mae Media Cymru wedi buddsoddi £80,000 mewn pum cwmni yng Nghymru i ymchwilio i gynnwys digidol arloesol a’i ddatblygu i gynulleidfaoedd YouTube, ar y cyd â BBC Cymru Wales.

Bwriad y Gronfa Arloesedd Digidol ar y cyd yw cefnogi gwaith ymchwil a datblygu cynnwys ar gyfer YouTube.  

Cafodd cwmnïau cynhyrchu yng Nghymru swm o £16,000 bob un er mwyn ail-ddychmygu’n greadigol cynnwys cyfredol ar gyfer y platfform ar-lein, gan feddwl am sut i newid neu ailwampio’r gyfres sy’n dychwelyd ar BBC Cymru Wales, a hynny er mwynehangu cyrhaeddiad brand poblogaidd a hefyd i annog cynulleidfaoedd yn ôl at BBC iPlayer.     

Y gronfa, sy’n targedu arloesedd digidol, yw’r cyntaf o’i math i BBC Cymru Wales. Mae’n dilyn y newyddion am bartneriaeth YouTube y BBC, a gyhoeddwyd y mis diwethaf. 

Dyma’r cwmnïau sy’n rhan o’r Gronfa Arloesedd Digidol: Beastly Media, Cadno, Cwmni Da, Darlun Cyf. a One Tribe TV.   

Bydd prosiect Beastly Media yn canolbwyntio ar eu comedi arobryn The Golden Cobra a bydd Cadno yn gweithio ag Iolo Williams a’i griw i ddatgelu ochr wyllt go iawn o ffilmio byd natur. Bydd Cwmni Da yn datblygu fideos gan ddefnyddio offer deallusrwydd artiffisial (DA) i dargedu cynulleidfa ddigidol, ddwyieithog YouTube, tra bod Darlun Cyf. yn ymdrin ag adrodd straeon ymdrochol ar gyfer SOS: Extreme Rescues. Mae prosiect One Tribe TV yn bwriadu cysylltu cynulleidfaoedd brodoroldigidol i blatfformau sy’n darlledu rhaglenni teledu traddodiadol. 

Dywedodd Sara Pepper, Cyd-gyfarwyddwr Media Cymru: “Mae ein partneriaethau blaenorol gyda BBC Cymru Wales, drwy’r Gronfa Arloesedd Cynnwys yn 2023 a Chronfa Cynnwys yr Hinsawdd yn 2025, wedi ysgogi cyfres gref o syniadau, dulliau ac ymgysylltiad newydd gan ddefnyddio technolegau sy’n dod i’r amlwg. Wrth i’n cydweithrediad barhau i gynyddu, rydyn ni’n falch iawn o fod yn gweithio gyda’n gilydd eto ar gronfa hon sy’n canolbwyntio ar arloesi digidol.  

“Wrth i’r sector symud yn gynyddol tuag at gynnwys digidol yn gyntaf, mae Media Cymru wedi bod yn cefnogi arbrofi ac arloesi yn y maes hwn drwy ystod o gronfeydd newydd. Rwy wir yn falch o weld sut mae’r pum cwmni annibynnol hyn wedi ymchwilioa datblygu i ailddychmygu ac adnewyddu eu cynnwys presennol ar gyfer cynulleidfaoedd digidol ac i ddysgu ar y cyd â nhw wrth i’r gwaith hwn ddatblygu.” 

Dywedodd Nick Andrews, Pennaeth Comisiynu BBC Cymru Wales: “Mae’r bartneriaeth strategol newydd gyda YouTube yn rhan o strategaeth Gwerth i Bawb y BBC, gan sicrhau bod mwy o gynnwys y BBC yn hygyrch i bob cynulleidfa lle bynnag maennhw, gan gynnig mwy i gynulleidfaoedd a chefnogi Crewyr ledled y DU. Bydd gronfa newydd hon, ar y cyd â Media Cymru, yn ein helpu ni i gyflawni’r strategaeth hon, gan ddatblygu brandiau rhaglenni allweddol BBC Cymru Wales i’r cynulleidfaoeddhynny sy’n anodd eu cyrraedd a dod a rhagor o bobl i’r BBC.” 

Aeth y cwmnïau llwyddiannus i ddiwrnod blas yn Sgwâr Canolog y BBC yng Nghaerdydd yr wythnos hon (9 Chwefror 2026), i gyflwyno eu syniadau a chymryd rhan mewn trafodaethau â Thîm Ymchwil Cynulleidfa’r BBC am wybodaeth a ysgogir gan ddata arwneud y gorau o YouTube, a hefyd i drafod sut i annog cynulleidfaoedd amrywiol drwy blatfformau digidol.

Bydd y prosiectau ymchwil a datblygu’n cael eu cynnal rhwng Chwefror ac Ebrill 2026.   

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf, dilynwch ni ar LinkedIn a Instagram neu gofrestru i dderbyn ein cylchlythyr