string(152) "/cym/media-cymru-yn-buddsoddi-1-miliwn-mewn-technolegau-newydd-arloesol-gan-gynnwys-deallusrwydd-artiffisial-moesegol-e-chwaraeon-a-phrofiadau-rhithwir/" 10292602 Skip to main content
int(1029) 10292602
News

Cyhoeddwyd ar 08.01.2024

Media Cymru yn buddsoddi £1 miliwn mewn technolegau newydd arloesol, gan gynnwys deallusrwydd artiffisial moesegol, e-chwaraeon a phrofiadau rhithwir.

Mae Media Cymru wedi dyfarnu cyllid i 24 o fusnesau a gweithwyr llawrydd i archwilio ystod o brosiectau arloesol sydd wedi’u cynllunio i roi hwb i sector y cyfryngau yng Nghymru.

Mae’r Gronfa Ddatblygu yn rhoi hyd at £50,000 i ymgeiswyr llwyddiannus i ddatblygu syniadau yn gynnyrch neu’n wasanaethau diriaethol er budd sector y cyfryngau yng Nghymru.

Mae prosiectau ar gyfer 2024 yn cynnwys creu profiadau digwyddiadau rhithwir, defnyddio deallusrwydd artiffisial moesegol, archwilio’r genhedlaeth nesaf o Realiti Estynedig sy’n seiliedig ar gerddoriaeth a datblygu ffrwd newydd o animeiddiadau 2D a 3D.

Mae 10 o’r 24 o brosiectau a ariannwyd wedi symud ymlaen o Gronfa Sbarduno Media Cymru a byddant yn parhau â’u taith Ymchwil a Datblygu mewn meysydd sy’n cynnwys hyfforddiant e-chwaraeon, hyrwyddo mynediad at Gynhyrchu Rhithwir a’r defnydd o dechnolegau ymdrwythol mewn therapi.

Dywedodd Cyfarwyddwr Media Cymru, yr Athro Justin Lewis:

“Rydym wedi ein cyffroi gan y prosiectau rydym yn eu cefnogi yn y rownd ariannu hon, sy’n archwilio arloesedd wrth adrodd straeon, ffyrdd newydd o wneud busnes, yn ogystal â ffyrdd arloesol o ddefnyddio technolegau newydd. Edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw i’w helpu i greu cynnyrch, gwasanaethau a phrofiadau newydd i ychwanegu gwerth cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd i economi greadigol Cymru.”

Mae Ffrwd Arloesedd Media Cymru yn cynnwys cyfres o gyfleoedd hyfforddi ac ariannu sy’n targedu pobl greadigol ar wahanol gamau yn eu gyrfaoedd a’u datblygiad.

Bydd gan brosiectau Cronfa Datblygu llwyddiannus hyd at 12 mis i gwblhau eu prosiect. Ar ôl cwblhau, gall ymgeiswyr wedyn wneud cais am gyllid Uwchraddio o hyd at £250,000 ar gyfer prosiectau o raddfa ac uchelgais sylweddol sydd â’r potensial i fod yn drawsnewidiol a chael effaith ryngwladol. Bydd Cronfa Uwchraddio Media Cymru yn agor eto ym mis Medi 2024. Ewch i wefan Media Cymru i gael rhagor o fanylion.

Prosiectau a ariennir

  • M.U.C.E (Painting Practice)
  • Accordion 2.0 (Accordion Innovation Ltd)
  • CardBoy (MarkJamesWorks)
  • Moon Fight XR (Dr Joyce Datiles)
  • The people’s Jury (Vox Pictures LTD)
  • Almanac Sports – Creating a Sports Data and Advanced Technology Platform Through Research and Development (Temporal Junction Limited)
  • The Virtual Experience (Afanti Media Ltd / Afanti Facilities)
  • Chemical Brothers XR innovation experience (Sugar Creative Studio Ltd)
  • Personalised Animation AI Platform (Sleeping Giant Studio Limited)
  • A Process for the Ethical Use of AI in Game Production to Unlock Sector Growth (Stargazy Studios Ltd)
  • Deian a Loli Virtual Production (Cwmni Da)
  • The Dice Decides (Slam Media)
  • Animating Emotion: Teaching a system to augment animation based on emotional inputs. (Good Gate Media)
  • Virtual Production Accessibility Network (GlassShot)
  • Amdani: a carbon-neutral film and tv co-operative (Amdani Co.)
  • Virtual Prop House: Ready for Virtual Production, Bridging Digital and Physical Worlds Sustainably (Rusty Design Limited)
  • Portable Immersive Experiences (4Pi Productions UK)
  • Innovating Queer Social Spaces through immersive technologies and authentic storytelling (Shane Nickels)
  • Immersive Technology in Anxiety Support Groups for Young People (Elemental Health)
  • Advanced Digital Healthcheck: A transformative tool for the Music Industry (Dark Arts Digital Ltd)
  • Esports Wales: A New Game Plan for Wales (EsportsWales CIC)
  • Me Mine & Your Reality (BlackGold Productions)
  • THE MULTI CAMP – Remote Multi Camera Training Platform (D RHYS EDWARDS LTD)
  • Diversity in TV Development: Innovating The Ideas Generation Process and Integrating Diversity of Thought/Voice into the Cardiff TV sector (Cardiff Productions)