string(79) "/cym/dewch-i-weithio-gyda-ni-rheolwr-cronfa-swyddog-prosiect-cydymaith-ymchwil/" Skip to main content
int(1012)
News

Cyhoeddwyd ar 18.12.2023

Dewch i weithio gyda ni – Rheolwr Cronfa, Swyddog Prosiect, Cydymaith Ymchwil

Mae’r cyfleoedd hyn bellach wedi cau.

Dewch i weithio gyda ni! Mae gennym dair swydd ar gael, amser llawn (35 awr yr wythnos) am gyfnod penodol hyd at 31 Rhagfyr 2026.

Dyddiad cau: Dydd Llun, 8 Ionawr 2024

Rheolwr Cronfa Media Cymru

Bydd Rheolwr Cronfa Media Cymru yn goruchwylio’r gwaith o gynllunio, cyflwyno a gweinyddu cystadlaethau ariannu Media Cymru ar gyfer busnesau, gan reoli perthnasau â rhanddeiliaid mewnol ac allanol allweddol megis cyllidwyr, partneriaid consortiwm (e.e. BBC Cymru Wales, S4C, Ffilm Cymru) a busnesau o bob rhan o’r sector cyfryngau yng Nghymru. Bydd angen i ymgeiswyr fod yn ddatryswyr problemau brwdfrydig a threfnus iawn gyda sgiliau rhagorol mewn rheoli prosiectau, rheoli ariannol, rheoli partneriaeth, arweinyddiaeth, rheoli llinell, cydymffurfio, cyfathrebu a rhwydweithio. Bydd ganddynt brofiad o reoli perthnasoedd cymhleth rhwng gwahanol fusnesau creadigol, asiantaethau sectoraidd, cyllidwyr a phrifysgolion.

Cyflog: £49,794 – £54,395 y flwyddyn (Gradd 7)

 

Swyddog Prosiect Media Cymru

Bydd y Swyddog Prosiect yn darparu cymorth ar gyfer pob agwedd ar reoli a gweinyddu Media Cymru a Chanolfan yr Economi Greadigol o ddydd i ddydd, gan weithio gyda chydweithwyr yn y Brifysgol i sicrhau datblygiad a chyflawniad effeithiol ac amserol systemau, prosesau a gweithdrefnau allweddol, gyda ffocws penodol ar gefnogi cystadlaethau cyllido i fusnesau. Bydd deiliad y rôl yn cefnogi Rheolwr y Gronfa i ddatblygu a chyflawni prosiectau RD&I diwydiant, rheolaeth ariannol, monitro dangosyddion perfformiad allweddol (KPI), monitro dyfarniadau, rheoli data a datblygu partneriaeth. Bydd yn helpu i drefnu cyfarfodydd a digwyddiadau gyda phartneriaid y consortiwm ac ystod eang o randdeiliaid.

Cyflog: £32,332 – £34,980 y flwyddyn (Gradd 5)

 

Cydymaith Ymchwil Economi Creadigol

Mae hon yn swydd 3 blynedd wedi’i lleoli yng Nghanolfan yr Economi Greadigol ac wedi’i hariannu’n allanol gan raglen Media Cymru (sydd wedi’i lleoli yn y Ganolfan).

Bydd deiliad y rôl yn cyfrannu at gofnod ymchwil y Rhaglen drwy gyhoeddi ymchwil o ansawdd uchel, gan ysbrydoli eraill i wneud yr un peth. Byddant yn chwarae rhan ganolog wrth weithio ar draws rhaglen ymchwil Media Cymru a’i chysylltu ag amcanion ehangach Canolfan yr Economi Greadigol. Byddant yn cynnal ymchwil ar gyfer cyfres o adroddiadau a chyhoeddiadau, gan ganolbwyntio ar arloesi, clystyrau cyfryngau a chreadigol, a’r sector creadigol a’r cyfryngau yn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a thu hwnt. Byddyr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn arwain ac yn cefnogi datblygiad ceisiadau ymchwil newydd sy’n cysylltu â Media Cymru, a Chanolfan yr Economi Greadigol.

Rydym yn croesawu ymgeiswyr ag arbenigedd o ystod eang o ddisgyblaethau academaidd, gan gynnwys diwydiannau creadigol, clystyrau creadigol/cyfryngol, daearyddiaeth economaidd (lleoedd creadigol), rheoli arloesi, gwyddorau cyfathrebu, astudiaethau trefol ac ymchwil rhwydwaith.

Cyflog: £39,347 – £44,263 y flwyddyn (Gradd 6).

 

Os daw digon o geisiadau i law, mae Prifysgol Caerdydd yn cadw’r hawl i roi’r gorau i hysbysebu’r swydd hon yn gynnar.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a sicrhau gweithle cynhwysol. Rydym yn credu y gallwn wneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o gefndiroedd gwahanol sydd â’r uchelgais i greu prifysgol sy’n ceisio cyflawni ei rhwymedigaeth gymdeithasol, ddiwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, Cymru, a’r byd.  Er mwyn cynorthwyo ein gweithwyr i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywyd personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu’r swydd.