string(62) "/cym/projects/cael-gwared-ar-rwystrau-economaidd-gymdeithasol/" Skip to main content

Chwalu Rhwystrau Economaidd-gymdeithasol

Goresgyn diffyg amrywiaeth ym maes ffilm a theledu drwy ymgysylltu’n uniongyrchol â chymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys unigolion, ysgolion a cholegau.

Beth yw Chwalu Rhwystrau Economaidd-gymdeithasol: Menter Drws Agored?

Mae Boom Cymru a Rondo Media yn gweithio ar y cyd i ddeall y rhesymau dros y diffyg amrywiaeth economaidd-gymdeithasol a’r rhwystrau rhag cymryd rhan yn y sector ffilm a theledu. Maen nhw’n mynd i’r afael yn ymarferol â materion a nodir gyda’r nod o wneud y sector cynhyrchu yn fwy amrywiol a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd.   

Dysgwch am Cael gwared ar rwystrau economaidd-gymdeithasol: Menter Drws Agored 

Cael gwared ar rwystrau economaidd-gymdeithasol

Stori Arloesedd: Yeota Imam-Rashid, Swyddog Hyfforddi a Datblygu yn Boom Cymru

Mae’r cwmnïau cynhyrchu Boom Cymru a Rondo Media wedi creu rhaglen arloesol newydd i fynd i’r afael â symudedd cymdeithasol ac amrywiaeth, drwy’r 'Fenter Drws Agored'. Mae Yeota yn egluro bod mwy i Ymchwil a Datblygu na thechnoleg fawr yn unig. Mewn gwirionedd, gall arloesedd fod ar sawl ffurf – mae'n ymwneud â phobl, mae'n ymwneud â hyfforddiant ac mae'n ymwneud â chreu amrywiaeth o fewn y sector.  

Rhagor o wybodaeth
Camerâu teledu yn pwyntio at ddesg cyflwynydd a sgrin werdd.

Ebrill 2024: Lansiwch eich gyrfa mewn Ffilm a Theledu gyda’r Cynllun Drws Agored

Ymuna â Rondo Media a Boom Cymru ar gynllun hyfforddiant cyflogedig wyth mis o hyd yn y diwydiant teledu yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth