string(36) "/cym/blog-posts/cynllun-drws-agored/" Skip to main content
int(1147)
Blog

Cyhoeddwyd ar 3 Ebrill 2024

Lansiwch eich gyrfa mewn Ffilm a Theledu gyda’r Cynllun Drws Agored

Camerâu teledu yn pwyntio at ddesg cyflwynydd a sgrin werdd.

Ymuna â Rondo Media a Boom Cymru ar gynllun hyfforddiant cyflogedig wyth mis o hyd yn y diwydiant teledu yng Nghymru.

Cyfle i ennill profiad wrth weithio mewn rôl cynhyrchu a chael hyfforddiant pellach mewn amryw o sgiliau i allu gweithio yn y diwydiant teledu.

Does dim angen unrhyw brofiad o weithio yn y diwydiant teledu, na bod wedi astudio ffilm / teledu i wneud cais.

Beth ydyn ni’n edrych amdano?

Rydym yn awyddus iawn i dderbyn ceisiadau gan bobl o gefndir socio-economaidd is neu incwm is sydd wedi eu tan-gynrychioli yn sector y sgrin ar hyn o bryd.

Beth ydyn ni’n ei gynnig?

Ein nod yw cynnig y wybodaeth, y profiad a’r cysylltiadau i’r chwe ymgeisydd llwyddiannus i allu lansio’u gyrfa yn y diwydiant teledu.

Mae rolau ar gael yng Nghaerdydd, Caernarfon a Sir Fôn.

Cynhelir y lleoliadau o fis Gorffennaf 2024 tan fis Chwefror 2025.

Telerau ac Amodau

Rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 oed, ac mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer nifer o’r rolau.

Dyddiad cau: Dydd Mercher 1 Mai 2024 am 11.30pm.

Unrhyw gwestiynau?

Beth am ymuno ag un o’n sesiynau briffio:

  • Dydd Mercher 18 Ebrill am 11:00am (gweminar ar-lein)
  • Dydd Mawrth 23 Ebrill am 11:00am (gweminar ar-lein)

I gofrestru ar gyfer y gweminar, e-bostiwch: drwsagored@boomcymru.co.uk

Gwnewch gais am y Cynllun Drws Agored