string(130) "/cym/galwad-cyllid-ymchwil-a-datblygu-derfynol-media-cymru-ar-cyfle-olaf-i-arloeswyr-yng-nghymru-allu-gwneud-cais-am-hyd-at-50000/" 45334893 Skip to main content
int(4533) 45334893
News

Cyhoeddwyd ar 13.02.2025

Galwad cyllid ymchwil a datblygu derfynol Media Cymru, a’r cyfle olaf i arloeswyr yng Nghymru allu gwneud cais am hyd at £50,000

Mae Media Cymru wedi lansio eu rownd olaf o gyllid fel rhan o’u Ffrwd Arloesi. Mae Cronfa Ddatblygu 2025 yn gronfa sy’n galluogi pobl greadigol yng Nghymru i ymchwilio a datblygu prosiectau arloesol yn sector cyfryngau Cymru. 

Mae’r Gronfa Ddatblygu yn annog pobl greadigol i ddatblygu cynnyrch, gwasanaethau a phrofiadau yn y sector gyfryngau, a fydd yn cael effaith uniongyrchol ar yr economi.  

Mae’r gronfa yn rhan o Ffrwd Arloesedd Media Cymru – cyfres o gyfleoedd i dderbyn hyfforddiant a chyllid ar gyfer unigolion a chwmnïau yng Nghymru sydd â phrofiad a dealltwriaeth gadarn o ymchwil, datblygu ac arloesi.  

Dywedodd James Atkinson, Rheolwr Cyllid Media Cymru:

“Hyd yn hyn rydym ni wedi rhoi cyllid i garfan gyffrous ac rwy’n edrych ymlaen at gael clywed mwy o syniadau a fydd yn denu fy sylw eto eleni. Mae Cronfa Ddatblygu derfynol Media Cymru wedi’i anelu at arloeswyr sy’n awyddus i ymchwilio a datblygu cynnyrch, gwasanaethau, a phrofiadau newydd yn y sector cyfryngau. Rydym ni wedi ehangu cwmpas y gronfa hon ac yn awyddus iawn i glywed gan amrywiaeth o wahanol leisiau sy’n gweithio yn y sector.  

“Rydym ni’n edrych ymlaen yn arw at gael gweithio gyda’r ymgeiswyr llwyddiannus ar brosiectau uchelgeisiol sy’n dangos gwerth arloesi ym maes cyfryngau a’i effaith ar economi Caerdydd, Cymru a’r tu hwnt…” 

Mae Media Cymru yn chwilio am brosiectau sy’n canolbwyntio ar y meysydd canlynol: adrodd stori drwy ddefnyddio technolegau ymgolli, gan gynnwys cynhyrchu rhithiol (VP) a thechnolegau ymgolli realiti estynedig (realiti cynyddol, realiti rhithiol, a realiti cymysg); cynhyrchu dwyieithog; cynhyrchu cyfryngau amgylcheddol cynaliadwy; creu lleoedd a thwristiaeth, gemau, newyddion, a newyddiaduriaeth.  

Yn wahanol i gronfeydd y gorffennol, mae’r Gronfa Ddatblygu eleni yn rhoi cyfle i ymgeiswyr greu fformatau cyfryngau newydd a chynnwys arloesol, modelau busnes a phrosesau cynhyrchu cyfryngau cynhwysol, yn ogystal â chynhyrchu cerddoriaeth, llais a sain.  

Bydd y prosiectau’n dechrau ym mis Mehefin 2025 a bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn cefnogaeth ac arweiniad gan bartneriaid Media Cymru sef PDR a’r Alacrity Foundation. 

Mae’r prosiect hwn wedi cael cyllid a chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru drwy’r prosiect Cymru Greadigol. 

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant Jack Sargeant:

“Drwy gefnogi syniadau newydd a rhoi’r lle i’r sector creadigol arbrofi ac arloesi, rydym yn sicrhau ei dwf yn y dyfodol. Dyna pam rwy’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi eto ar Ffrwd Arloesedd Media Cymru.

“Rwy’n hyderus y bydd y rownd hon unwaith eto yn dod â thalent a syniadau sydd heb eu darganfod o’r blaen ac rwy’n gyffrous i weld beth sydd gan y dyfodol i’r diwydiannau creadigol yng Nghymru.” 

Mae’r rownd hon o gyllid gan Media Cymru yn dilyn cyllid sbarduno a roddwyd i 14 o brosiectau’n gynharach y mis hwn. Dyma’r cyfle olaf i ymgeisio am hyd at £50,000 fel rhan o’r Ffrwd Arloesedd. 

Bydd ceisiadau’n cau (am hanner dydd), Dydd Gwener 28 Chwefror 2025.

Gwnewch gais i Gronfa Datblygu