Cysylltwch â Ni
Media Cymru
Sbarc, Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ
Dywedodd yr Athro Marlen Komorowski, Uwch-gymrawd Ymchwil i Media Cymru:
“Yng Nghanolfan i’r Economi Greadigol, mae wedi dod i’r amlwg i ni pa mor bwysig yw’r diwydiannau creadigol erbyn hyn o ran ysgogi twf yng Nghymru. Ac eto, oherwydd diffyg data hygyrch, nid yw hyn yn cael ei werthfawrogi o hyd i raddau helaeth.”
“Mae cymaint o arloesedd, talent a gweithgarwch yn digwydd ar draws y diwydiannau creadigol yng Nghymru, ond mae’r straeon anhygoel hyn yn aml yn parhau i fod heb eu hadrodd. Yr Atlas Creadigol yw ein hymateb ni i’r her hon – platfform unigol a hygyrch i chwalu seilos data a dangos y gwaith anhygoel sy’n cael ei wneud. Mae hefyd yn cynnig adnodd ymarferol ar gyfer y sector i amlygu mannau busnes, dod o hyd i gyfleoedd hyfforddi, neu gael gwybod am brosiectau ysbrydoledig.”
Ariannwyd yr Atlas Creadigol newydd yn rhannol gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Joedi Langley, Pennaeth Dros Dro Cymru Greadigol:
“Mae’n wych gweld yr Atlas Creadigol yn cael ei lansio – casgliad o adnoddau hanfodol lle mae modd cael gafael ar wybodaeth hollbwysig mewn un lle. Yn ogystal â chynnwys data gwerthfawr, mae hefyd yn adnodd defnyddiol i bobl a allai fod â diddordeb mewn gwneud gwaith creadigol, gweithwyr llawrydd a darpar gwmnïau sydd am wneud rhywfaint o fusnes yng Nghymru. Bydd yn parhau i dyfu a gwella dros amser, ac rydym yn edrych ymlaen at ei rannu â’n rhanddeiliaid.”