string(37) "/cym/funding/how-to-be-a-greenlancer/" Skip to main content
int(4861)
Funding (cym)

Cyhoeddwyd ar 19.06.2025

Sut i Fod yn ‘Greenlancer’

Ydych chi'n weithiwr llawrydd sy'n gweithio yn y diwydiannau creadigol? Oes gennych chi ddiddordeb mewn arbed arian ac achub y blaned?

Manylion y Cwrs

Er bod eco-bryder yn parhau i esblygu ochr yn ochr ag effeithiau newid hinsawdd, nid yw erioed wedi bod yn bwysicach i weithwyr llawrydd creadigol (hunangyflogedig neu PAYE) fabwysiadu ac ymgorffori arferion cynaliadwy yn eu bywydau bob dydd.

Mae rhedeg busnes llawrydd gwyrddach hefyd yn golygu mynd i’r afael â’r prif allyriadau personol hynny fel Trafnidiaeth ac Ynni, Cartref a Gweithle Gwyrddach, Deunyddiau, Bwyd a Gwastraff, ac un o wersi gwerthfawr y sesiwn fydd gwell dealltwriaeth o’ch ôl troed carbon a sut y gallwch ei leihau.

Wedi’i gyflwyno gan Picture Zero, mae SUT I FOD YN WEITHIWR LLAW-WYRDD yn ganllaw diddorol, syml ar sut y gallwch chi fod yn fwy amgylcheddol ac ariannol ddeallus ar lefel bersonol iawn.  A gallwch chi hyd yn oed dyfu eich busnes, eich gwerth a’ch rhwydwaith trwy wneud i’ch hun sefyll allan a denu cleientiaid a chyflogwyr sydd hefyd yn gwerthfawrogi cynaliadwyedd.

Bydd gweithwyr llawrydd yn dysgu lle gallan nhw gyflawni’r effeithiau amgylcheddol a’r arbedion ariannol mwyaf:

  • Gweithio gartref
  • Presenoldeb digidol / ar-lein
  • Ar fynd
  • Yn y swyddfa / gweithfan
  • Yn ystod gweithgareddau a dewisiadau bob dydd

Mae gweithio’n llawrydd mewn ffordd werdd hefyd yn golygu gallu cael mynediad at gymhellion llywodraeth leol, cynlluniau pensiwn/cynilo gwyrddach a manteision treth deniadol. Bydd yr arbenigwyr cynaliadwyedd blaenllaw Picture Zero yn dangos i chi sut i fyw a gweithio mewn ffordd sy’n wych i ni, y blaned a’ch poced; ac yn cynnig  ‘PECYN CYMORTH GWEITHIWR LLAW-WYRDD’ i bob cyfranogwr, sy’n rhestru’r gwasanaethau, y cyflenwyr a’r atebion sydd ar gael.

Felly ymunwch â ni ar gyfer y cyfle hyfforddi anffurfiol, cynhwysfawr, unigryw hwn, a dysgu beth allwch chi ei wneud, nid dim ond fel unigolyn, ond fel cymuned lawrydd, i gael effaith fawr iawn.

Yn y prynhawn yn dilyn ‘Sut i fod yn Weithiwr Llaw-wyrdd’ (2:00 pm – 4:00 pm, yr un lleoliad) bydd sgwrs gydag Uwch Reolwr Cynaliadwyedd Hope Solutions, Phoebe Currie, sy’n arbenigo mewn cynhyrchu digwyddiadau carbon isel a strategaethau cynaliadwyedd busnes.

Cofrestru ar gyfer Paned i Ysbrydoli. 

Manylion Cyflwyno

Sut mae hyn yn gweithio

Ariennir y rhaglen hon yn llawn gan Media Cymru, mewn partneriaeth â Picture Zero.

Bydd 30 o leoedd ar gael, wedi’u dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin.

Pwy all wneud cais?

Mae’r gweithdy wyneb-yn-wyneb 3 awr hwn ar agor i unrhyw weithwyr llawrydd o Gymru/yn gweithio yng Nghymru sy’n gweithio yn y sector creadigol sydd â diddordeb mewn materion gwyrdd ac arferion gwaith mwy cynaliadwy.

Eisiau gwybod ble i ddechrau? Eisoes wedi mabwysiadu arferion gwaith gwyrddach ac yn awyddus i adeiladu arnynt? Dyma’r dewis i chi.  Yr unig ofyniad yw eich bod chi’n barod i rannu eich arferion ‘llaw-wyrdd’ da gydag eraill – i’n helpu ni i gyd gymryd camau gwell i arbed arian ac achub y blaned.

Pryd a ble?

Bydd y sesiwn untro arbennig hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb Ddydd Mercher 23 Gorffennaf rhwng 1000-1300.

Mae’r lleoliad yn Brifysgol Caerdydd hardd, Adeilad Bute, ar Rhodfa’r Brenin Edward VII, Caerdydd, CF10 3NB:

Mae’r gweithdy ei hun yn digwydd yn y Man Arddangos (ystafell 0.66, llawr gwaelod,):

Unrhyw gwestiynau?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â:  media.cymru@southwales.ac.uk