Cronfa Gwyrddu’r Sgrîn
Gwahoddir busnesau a gweithwyr llawrydd sy’n effro i’r hinsawdd i wneud cais am hyd at £50,000, a hynny er mwyn ymchwil a datblygu (Y&D) syniadau am atebion cynaliadwy i heriau zero net a datgarboneiddio’r sector sgrîn yng Nghymru.
Cwmpas
Mae gennym ddiddordeb arbennig yn y canlynol:
- Symud i ynni adnewyddadwy mewn stiwdios, swyddfeydd a thai ôl-gynhyrchu, cael gwared yn raddol ar ddiesel ar gyfer generaduron a manteisio i’r eithaf ar effeithlonrwydd ynni ar setiau a lleoliadau.
- Ailfeddwl trafnidiaeth drwy fapio’r her, cael gwared ar gerbydau diesel, lleihau teithio a symud dulliau teithio i’r rhai sy’n defnyddio ynni adnewyddadwy.
- Dull cylchol o fynd i’r afael â deunyddiau a gwastraff bwyd drwy fonitro gwell i leihau gwastraff, blaenoriaethu cyflenwyr lleol ac opsiynau carbon isel ac ailddefnyddio deunyddiau ac asedau cynhyrchu.
- Casglu gwybodaeth a chydweithio, gan gynnwys asesu cynaliadwyedd asedau a ddefnyddir wrth gynhyrchu, cymorth i gyflenwyr gwyrdd a chreu cyllidebau carbon ar gyfer cynhyrchu.
- Gosod a gwrthbwyso modelau busnes.
Nid yw’r Gronfa Sbarduno’n addas ar gyfer:
- Creu cynnwys (er enghraifft, ffilmiau byr, ffilmiau a phenodau peilot)
- Comisiynau celf untro
- Astudiaethau dichonoldeb
- Datblygu ap
- Datblygu hydrogen symudol
- Comisiynu gweithgareddau busnes fel arfer, er enghraifft datrysiad cynaliadwy newydd nad oes ganddo fantais arloesol i’r ffordd y mae eich cwmni fel arfer yn mynd i’r afael â phrosiectau newydd
- Ceisiadau nad oes ganddynt dystiolaeth bod disgwyl i’r arloesedd arfaethedig arwain at effaith economaidd sylweddol a chadarnhaol
- Ceisiadau nad oes ganddynt ymchwil a datblygu neu arloesedd.
Bydd gan yr ymgeiswyr llwyddiannus deuddeg mis i gwblhau eu gwaith ymchwil a datblygu, gyda chymorth ein partneriaid consortiwm Ffilm cymru Wales.
Beth yw Ymchwil a Datblygu?
Diffinnir gweithgareddau Ymchwil a Datblygu fel gwaith creadigol a systematig a wneir i fynd i’r afael â heriau ac i greu cynhyrchion, gwasanaethau, prosesau neu brofiadau newydd neu well. Dysgwch fwy am Ymchwil a Datblygu mewn cyd-destun cyfryngau.
Hygyrchedd
Os oes gennych chi ofynion penodol a fyddai’n gwneud y broses ymgeisio’n fwy hygyrch (fel cyngor, cymorth ysgrifennu neu gymorth darllen), neu os hoffech chi drafod fformatau eraill (fideo neu sain, naratif llais, ffont mawr, testun plaen neu iaith arall), ewch ati i ebostio media.cymru@caerdydd.ac.uk neu ffonio 02922 511 434.
Broses ymgeisio
Nodwch, rhaid cyflwyno ceisiadau trwy’r ffurflen ar-lein. Sicrhewch eich bod wedi darllen y nodiadau canllaw cyn gwneud cais.
Ceisiadau yn agor: Dydd Llyn 20 Mai 2024, hanner dydd.
Cyfnod ymgeisio’n dod i ben: Dydd Gwener 28 Mehefin 2024, noon
Lawrlwytho nodiadau canllaw
Cais…