Cysylltwch â Ni
Media Cymru
Sbarc, Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ
Hyfforddiant Cydlynwyr Cynaliadwyedd: Llwyddiannau, Heriau a’r Camau Nesaf

“Mae llawer o’r llwyddiannau (ac, i raddau helaeth, yr heriau hefyd) yn gysylltiedig yn uniongyrchol â gallu’r gweithiwr proffesiynol cynaliadwyedd i gyfathrebu ‘gwerth’ cynaliadwyedd i’r cynhyrchiad yn effeithiol. ”
Mae rhaglen hyfforddi Cydlynwyr Cynaliadwyedd, a ariannwyd gan Media Cymru mewn partneriaeth â Severn Screen ac Earth to Action, a’i chefnogi gan Ymddiried a Chymru Greadigol, wedi hyfforddi chwe pherson i ddod yn Gydlynwyr Cynaliadwyedd yn y diwydiant Teledu o Safon Uchel (HETV).
Dros gyfnod o ddau fis yn 2024, cymerodd y cyfranogwyr ran mewn sesiynau hyfforddi dwys, gyda siaradwyr blaenllaw o’r diwydiant, a chynhaliwyd y sesiynau mewn ystafelloedd dosbarth ar ffurf stiwdio ledled Cymru. Yn ogystal â’r hyfforddiant, cafwyd lleoliadau’n para 10-15 wythnos ar gynyrchiadau byw. Drwy gyfres o gyfweliadau manwl gyda hyfforddeion a darparwyr yr hyfforddiant, ac ymatebion i holiaduron gan gynyrchiadau oedd yn cymryd rhan yn y rhaglen, rydym yn cynnig crynodeb o’r adborth a dderbyniwyd am yr hyfforddiant, y llwyddiannau a’r heriau a gafwyd mewn lleoliadau cynhyrchu, a thrafodaeth ehangach am ddyfodol ymarfer cynaliadwyedd yn y byd cynhyrchu teledu a ffilm yng Nghymru.